YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 32

32
SALM XXXII.
M. C.
Salm Dafydd, er athrawiaeth.
1Gwyn fyd y dyn maddeuodd Duw
Ei drosedd drwy ei ras,
Y dyn y cuddiodd ef o’i ŵydd,
Am byth, ei bechod cas.
2Gwyn fyd yr hwn ni chyfrif Iôr
’I anwiredd arno ’n bwn,
Dichellion brwnt nid oes, na brâd,
Yn trigo ’n ysbryd hwn.
3Tra tewais, gwywodd f’esgyrn gan
Fy rhuad ’rhyd y dydd:
4Fy irder droed yn sychder haf,
A gwelwodd gwawr fy ngrudd.
Dy arg’oeddiadol law, O Dduw!
Drymhaodd arnaf fi;
5Addefais innau ’n onest iawn
F’ anwiredd wrthyt ti.
Dywedais, Mi gyffesa ’m holl
Bechodau o’th flaen yn rhwydd;
A thithau a’u dileaist hwy
Fel cwmmwl o dy ŵydd.
6Am hyn pob duwiol mewn iawn bryd
Gwyd atat ti ei lef,
Ni ddaw llifeiriaint dyfroedd mawr
Yn agos ato ef.
Rhan II.
M. C.
7Ti ydwyt i mi ’n lloches glud,
I’m cadw rhag pob gwae;
Ac â chaniadau ’mwared llon
Fy amgylchynu wnai.
8Mi ’th gyfarwyddaf — dysgaf di
I rodio ffordd ddinam;
A’m llygad arnat fydd o hyd
I’th arwain gam a cham.
9Na fyddwch megys march neu ful
Diddeall, gwyllt ei naws;
Yr hwn â genfa rhaid ei ddal
Rhag rhuthro ar eich traws.
10Yn gyfran i’r annuwiol bydd
Gofidiau lawer iawn;
Ond hwnw obeithio ’n Nuw a drig
Mewn diogelwch llawn.
11Y rhai cyfiawnion, llawenhewch
Yn yr Arglwydd Dduw a’i ddawn;
A’r rhai o uniawn galon oll,
Cenwch yn llafar iawn.
Nodiadau.
Y mae deuddeg o salmau heb law y salm hon yn dwyn yr un teitl — Maschil; yr hwn y tybia rhai a ddynoda y dôn yr oeddynt i’w canu arni: ond yn yr ystyr o addysg neu athrawiaeth y cymmerir y gair yn fwyaf cyffredin. Fodd bynag, y mae hon yn salm o athrawiaeth efengylaidd drwyddi — athrawiaeth y pwngc pwysicaf a melusaf o’r cwbl; sef, y pwngc o faddeuant pechodau. Cyrcha Paul, wrth egluro yr athrawiaeth o gyfiawnhâd trwy ffydd (Rhuf. iv. 6-8), eiriau cyntaf y salm hon megys i gyd‐dystiolaethu â’i eiriau ef ei hun ar y pwngc.
Yn addysg y salm dangosir, yn gyntaf, yn mha beth y mae gwir ddedwyddwch yn gynnwysedig, a phwy ydyw y dyn gwir wynfydedig:— “Gwyn ei fyd y neb y maddeuwyd ei drosedd... y cuddiwyd ei bechod... y dyn ni chyfrif yr Arglwydd iddo anwiredd,” & c. Gwyn ei fyd y dyn hwnw, pwy bynag ydyw, a beth bynag yw ei amgylchiadau; ac nid gwynfydedig un dyn ond y dyn hwnw.
Dengys, yn ail, pa fodd y gall pechadur euog ddyfod i feddiant a mwynhâd o’r dedwyddwch hwn — y modd y daeth y Salmydd ei hun i’r cyflwr gwynfydedig’; sef, trwy ymostyngiad yr enaid mewn edifeirwch ger bron Duw, a chyfaddefiad llawn a gonest o’i bechodau iddo. “Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i’r Arglwydd; a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod.” Nid ydyw Duw byth, ac nis gall efe, yn unol â’i ogoniant, faddeu pechod hyd nes y delo y pechadur i’w gyffesu mewn gwir edifeirwch o’i flaen:— “Ond os cyfaddefwn ni ein pechodau, ffyddlawn yw efe, a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau!”
Yn nesaf, dysgir ni mai am y fendith hon, sef maddeuant pechod, y mae “pob duwiol,” pob un yr agorwyd llygaid ei feddwl i weled ei gyflwr a’i angen fel pechadur, yn gweddïo yn benaf dim, a hyny mewn “amser cymmeradwy.” Drachefn, yn adn. 7, cawn y Salmydd yn mwynhau y dedwyddwch y canasai am dano yn nechreu ei salm yn heddwch a ffafr Duw, a than ei nawdd a’i amddiffyn yn cael ei amgylchynu â chaniadau ymwared. “Ti ydwyt loches i mi,” medd efe. Yna y mae, yn y lle nesaf, megys yn edrych o’i loches ar y rhai sydd oddi allan iddi, ac yn eu rhybuddio ac yn eu dysgu; ac yn y diwedd, yn galw ar y cyfiawnion oll, preswylwyr y lloches, ac etifeddion y gwynfydedigrwydd a ddadganasai, i fod yn llawen a hyfryd yn yr Arglwydd, ac i ymhelaethu mewn rhoddi moliant a chlodforedd iddo. Cofier nad oes dim ond pechod yn unig allasai wneyd dyn yn druenus, ac nad oes dim ond maddeuant pechod yn unig a all wneyd y truenus yn ddedwydd — bod trueni a dinystr dyn yn gwbl o hono ei hun, a’i adferiad yn gwbl o ras Duw.

Currently Selected:

Salmau 32: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in