YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 33

33
SALM XXXIII.
7.4.
1Yn yr Arglwydd llawenhewch,
Chwi gyfiawnion,
Gweddus ydyw mawl — na thewch,
Y rhai union;
2Ar y delyn bêr ei swyn,
Cenwch iddo;
Ar y nabl a’r degtant fwyn,
Cenwch iddo.
3Caniad newydd gyda blas,
Cenwch iddo,
Yn soniarus am ei ras,
Cenwch iddo;
4Canys uniawn yw ei air,
Llawn graslondeb;
A’i weithredoedd oll a wnair,
Mewn ffyddlondeb.
5Caru barn y mae ein Duw,
A chyfiawnder;
Llwythog iawn ein daear yw
O’i gyflawnder;
6Trwy ei air y gwnaed y nef
A’i holl luoedd;
Ysbryd pur ei enau ef
Wnaeth y bydoedd.
7Casglu ’r dyfroedd mae ynghyd,
Yn bentyrau;
Rhoddi wna’r dyfnderau i gyd
Mewn trysorau;
8Ofned yr holl ddaear gron
Rhag Duw Iago,
Holl drigolion aml hon
A’i harswydo.
9Ef a dd’wedodd, felly bu —
Fel y mynodd;
Ef orch’mynodd oddi fry —
Hyny safodd.
10Fe ddiddyma gynghor ffol
Y Cenhedloedd;
Ettyl ef, a thry yn ol,
Amcan pobloedd.
11Ond ei gynghor ef ei hun
Sai’n dragywydd;
Ei feddyliau bob yr un
Sai’n dragywydd;
12Gwyn ei byd y genedl mae
E’n Dduw iddi,
Ni ddaw unrhyw ing na gwae
Byth i’r rhei’ny.
Rhan II.
M. S.
13Yr Arglwydd sydd yn edrych lawr
O’i nefoedd fawr yn dreiddgar,
14A meibion dynion wêl efe
Drwy holl drigleoedd daear.
15Cydluniodd ef eu calon, gwel
Eu dirgel weithrediadau,
A deall ef yn berffaith dda
’U hamcanion a’u bwriadau.
16Mawr liaws llu ni weryd deyrn,
A’r cedyrn ni ddiangant
O herwydd eu mawr gryfder hwynt;
Ond pawb o honynt gwympant.
17Peth ofer ydyw march lle b’o
I ddisgwyl wrtho am nodded,
Er maint a fyddo ’i gryfder llym,
Ni rydd ef ddim ymwared.
Rhan III.
M. S.
18Wele, mae llygaid ein Duw fry
Ar y rhai hyny a’i hofnant;
Dan aden ei drugaredd glyd
Hwynthwy i gyd obeithiant.
19Fe geidw’u henaid yn ddigryn
Rhag angeu yn ddiangol;
Fe’u cynnal hwy yn fyw bob un
Yn amser newyn deifiol.
20Ein henaid ddisgwyl ar bob cam
Yn ddyfal am yr Arglwydd;
Ein porth a’n tarian yw ein Duw,
Fe’n ceidw ’n fyw ’n dragywydd.
21Can’s ynddo ef, ein Harglwydd da,
Y llawenycha’n calon,
Ac yn ei enw mawr dilyth
Gobeithiwn byth yn ffyddlon.
22Boed dy drugaredd, Arglwydd cu,
Yn eiddo in’ yn wastad;
Megys yr ydym yn rhoi ’n cred,
A’n holl ymddiried ynod.
Nodiadau.
Geilw Dafydd yma (canys efe yn ddiau yw awdwr y salm, er nad ydyw ei enw wrthi, fel y mae wrth y lleill) ar y cyfiawnion i lawenychu yn yr Arglwydd, a’i foliannu â chân newydd; i’w dadgan ar offerynau cerdd — y delyn, y nabl, a’r degtant. Gesyd o’u blaen lawer o destynau mawl, i’w coffau yn y gân newydd hon:— gair a gweithredoedd, cyfiawnder a thrugaredd Duw, & c. (adn. 4-7); ei allu a’i awdurdod, a’i oruchaf lywodraeth ar bawb a phob peth (adn. 9-11); ei ddaioni a’i raslonrwydd i’w bobl (adn. 12); ei hollwybodaeth: adn. 13-15. Yn adn. 16, 17, dengys mor ofer ydyw pob nerth a dyfais ddynol i ymddiried ynddynt am ymwared a diogelwch: ac yn adn. 18, 19, sicrwydd diogelwch y rhai a ofnant yr Arglwydd ac a obeithiant yn ei drugaredd ef, dan bob amgylchiadau. Yn adn. 20, 21, gwna gyffes o’r gobaith a’r hyder hwnw yn yr Arglwydd; a therfyna mewn gweddi na byddai i’r cyfryw obaith a hyder gael eu siomi. Onid iawn y geilw Dafydd ei hun “Peraidd Ganiedydd Israel?” Y mae efe yn ei salmau yn aros o hyd megys yn arweinydd i’r eglwys yn ei gweddïau a’i mawl. Ni chyfodasai ynddi neb cyffelyb iddo o’i flaen, ac ni chyfododd neb cyffelyb iddo ar ei ol chwaith, yn y peth hwn. Y mae adsain ei weddïau a’i ganiadau yn mhob gwlad, ac yn mhob iaith, lle y mae saint i Dduw yn ymgynnull yn ei enw i’w addoli; a byddant mewn coffa byth yn y nefoedd hefyd.

Currently Selected:

Salmau 33: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in