YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 34

34
SALM XXXIV.
8.8.8.
Salm Dafydd, pan newidiodd efe ei wedd o flaen Abimelech; yr hwn a’i gyrodd ef ymaith, ac efe a ymadawodd.
1Bendithiaf Dduw o galon rydd,
Ei foliant yn fy ngenau fydd,
Bob dydd yn wastad, foreu a nawn;
2Fy enaid lawenhâ yn Nuw,
A’r holl rai gostyngedig glyw,
A hwythau fyddant lawen iawn.
3Mawrhewch yr Arglwydd gyda mi,
Ei glod a gyd‐ddyrchafwn ni;
4Yn nydd fy nhrallod ceisiais ef;
Pan suddai ’m henaid gwan i lawr,
Yn mhydew ofn a dychryn mawr,
O’r dyfnder hwnw clybu ’m llef.
5Hwy edrychasant arno ef —
Goleuwyd hwy â llewyrch nef —
A’u hwyneb ni ch’wilyddiwyd ddim;
Ni siomwyd, ac ni thripiodd troed
Neb a ddisgwyliodd wrtho erioed,
Rhydd nerth a chryfder i’r dirym.
Rhan II.
8.8.8.
6Fe glybu’r tlawd a’r truan hwn
Pan lefodd arno tan ei bwn,
Yn nhir Philistia ar gyfyng ddydd;
Pan ymwallgofai yn ngwasgfeydd
Dirdynol llymion ddychrynfeydd,
A dug ef o’i drallodau ’n rhydd.
7O gylch y rhai a ofnant Dduw
Ei angel dry yn gastell byw —
Nid oes fath noddfa dan y nef;
8Dewch, profwch, gwelwch oll yn awr
Mor dda yw Duw, ’m Gwaredwr mawr —
Gwyn fyd yr hwn a’i ceisio ef.
9Ofnwch yr Arglwydd, chwi ei saint,
Ni ddigwydd eisieu byth na haint
I neb o’r rhai a’i hofnant mwy;
10Y llewod ieuaingc, er eu grym,
A brofant eisieu a newyn llym,
A derfydd felly am danynt hwy.
Rhan III.
7.6.
11De’wch ataf, blant, gogwyddwch
Eich clust i wrandaw, a mi
Yn addysg ofn yr Arglwydd
A wnaf eich dysgu chwi.
12Pwy ydyw’r gŵr a chwennych
Gael gweled dyddiau hir,
A gâr fwynhau daioni
A heddwch yn y tir?
13Rhag drwg ei dafod cadwed
Mewn gwyliadwrus bwyll,
Attalied ei wefusau
Rhag iddynt draethu twyll.
14Oddi wrth ddrygioni cilia,
A gwna ddaioni o hyd,
Ac ymgais â thangnefedd,
A dilyn hon o hyd;
15Can’s ar y cyfiawn hwnw
Yr edrych Duw o’r nef,
A’i glustiau fydd agored
I wrandaw ar ei lef.
16Ond wyneb Duw sy’n erbyn
Y sawl a wnelo ddrwg,
I dori oddi ar y ddaear
Eu coffa yn ei ŵg.
17Y cyfiawn, pan y llefo,
Efe o’r nefoedd glyw,
Fe’i gweryd o’i drallodau,
Yn rhydd, fel byddo byw.
18I’r galon drist ddrylliedig
Yn agos y bydd Duw,
I rwymo ei doluriau,
Iachau yr ysbryd briw:
19Aml ddrygau gaiff y cyfiawn,
Ond Duw a’i ceidw e’,
20Ni thorir un o’i esgyrn,
Ni theflir un o’i le.
21Drygioni yn y diwedd
A ladd yr enwir rai,
A’r rhai gasânt y cyfiawn
Anrheithir yn ddiau.
22Eneidiau ’i ffyddlawn weision
A weryd Duw’n ddilyth,
A’r rhai obeithiant ynddo —
Hwy nid anrheithir byth.
Nodiadau.
Hysbysa teitl y salm hon pa bryd, ac ar ba achlysur y cyfansoddwyd hi. Ceir hanes yr amgylchiad hwnw yn 1 Sam xxi. 13. Achis oedd enw priodol y brenin y newidiodd ei wedd, ac y cymmerodd efe arno ynfydu yn ei ddychryn o’i flaen. Gelwir ef yma wrth ei deitl, Abimelech:— cyfenw a wisgai brenhinoedd Gerar yn olynol, er dyddiau Abraham, fel y cyfenwid pob brenin yr Aipht yn Pharaoh.
Ychydig o gyfeiriadau amlwg sydd yn y salm at yr amgylchiad a nodir yn ei theitl. Dichon mai yn ogof Adulam, lle y diangodd efe o Gath, y cyfansoddodd Dafydd ei gân hon.
Bendithio yr Arglwydd, ac addunedu gwneyd hyny bob amser, a galw ar ei gyfeillion, a’u hannog i wneyd yr un peth drachefn a thrachefn, y mae y salmydd yn nechreu y salm. Y mae pob un a brofodd hyfrydwch crefydd a gwasanaeth Duw yn ei enaid ei hun bob amser yn awyddus i annog ereill i ymuno yn yr un gwaith, fel y cyfranogent o’r mwynhâd. Amlygir y teimlad hwn yn y salmau yn fynych iawn. Rhydd yn nesaf reswm neillduol drosto ei hun, pa ham yr oedd efe yn addunedu bendithio a moliannu Duw yn wastadol; sef, am iddo ei wrandaw a’i waredu o’i ofn a’i drallod yn nydd ei gyfyngder — gan olygu ei berygl diweddar yn Gath yn neillduol yn ddiau. Ymhelaetha ar ddaioni yr Arglwydd i’w bobl yn gyffredinol, gan eu cymmhell hwythau etto i’w glodfori ef ac ymddiried ynddo. Yna, rhydd addysg i blant a phobl ieuaingc yn ofn yr Arglwydd, yn dangos “y rhagor sydd rhwng y cyfiawn a’r drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw, a’r hwn nis gwasanaetho ef;” a gwynfydedigrwydd y cyntaf a thrueni yr olaf.
Cymmer yr efengylwr Ioan yr ymadrodd yn adn. 21 o’r salm hon:— “Efe a geidw ei holl esgyrn ef, ni thorir un o honynt,” fel prophwydoliaeth a gyflawnwyd yn y Gwaredwr ar y groes. Ni thorodd y milwyr ei esgeiriau ef, megys y torasant esgeiriau y ddau ddrwgweithredwr a groeshoeliasid gydag ef. “Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr ysgrythyr, Ni thorir asgwrn o hono;” Ioan xix. 36.

Currently Selected:

Salmau 34: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in