YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 35

35
SALM XXXV.
M. H.
Salm Dafydd.
1Cyfod, O Dduw! a dadleu di
A’r rhai sy’n dadleu i’m herbyn i;
Ymladd â hwy sydd yn ddibaid
Yn ymladd â myfi heb raid.
2Ymafael yn y darian gref,
Ac astalch gadarn fawr y nef;
3Dwg allan waewffon dy nerth,
A gwarchau ar f’ erlidwyr certh.
O! dywed wrth fy enaid i,
Myfi yw ’th iachawdwriaeth di;
4Gelynion f’enaid, gwympo i lawr,
Dan w’radwydd a chywilydd mawr.
Dychweler yn eu hol dan ŵg
Y rhai fwriadant i mi ddrwg;
5Byddant fel sofl o flaen y gwynt,
Ac angel Duw i’w herlid hwynt.
6Eu ffordd yn d’w’llwch du, parhaed,
Ac yn llithrigfa dan eu traed;
Ac angel Duw ’n eu herlid hwy,
Nes y darfyddo am danynt mwy.
7Heb achos y cuddiasant rwyd
I mi yn nghudd mewn pydew llwyd;
Yr hwn mewn dichell gloddient gan
Fwriadu dal fy enaid gwan.
8O! deued ar y gelyn llym
Ddistryw na wypo am dano ddim,
Ei rwyd ei hun a’i dalio ’n dỳn,
I ddistryw syrthio ef fel hyn.
9A llawenhâ fy enaid i
O Arglwydd! yn dy allu di,
Ac yn dy iachawdwriaeth lawn,
Yr ymhyfryda ’n felus iawn.
10Fy esgyrn oll, dywedant hwy,
Pwy fel tydi, O Arglwydd! pwy?
Weryd y tlawd, pan glyw ei lef,
O law yr hwn sydd drech nag ef.
Rhan II.
M. S.
11Cyfodai i’m herbyn dystion gau,
A’r cyfryw rai a’m holynt,
Am bethau hollol ddyeithr im’
Na wyddwn ddim am danynt.
12I mi, am dda, talasant ddrwg,
Mewn gŵg, i ’sbeilio f’ enaid;
13Ond pan glafychent hwy, myfi
A wnawn alaru ’n ddibaid.
Gostyngwn f’enaid ar y pryd
Ag ympryd yn ddyn truan;
A’m gweddi ’nol dychwelodd hi,
I’m mynwes i fy hunan.
14Ymddygais fel pe buasai naill
Yn frawd neu gyfaill — oeddwn,
Mewn sachwisg wael, fel pe bae am
Fy anwyl fam galarwn.
15Ond llawenhaent hwy’n f’adfyd i —
Ymgasglent i fradychu;
Efryddion lu mewn dichell twn,
A mi ni wyddwn hyny.
Rhwygasant fi, ni pheidiai ’r gwŷr,
16Yn mysg gwatwarwyr ffalsaf;
Pan gyfarfyddent yn mhob gwledd,
’Sgyrnygent ddannedd arnaf.
17Pa hyd ’r edrychi ar hyn, O Dduw!
Na âd fi i’w distryw creulawn;
O! gwared f’ enaid er dy glod,
O safnau ’r llewod digllawn.
Rhan III.
M. S.
18Clodforaf fi dy enw ’nawr
Mewn tyrfa fawr ei nifer;
Moliannaf di, fy Nuw, ar g’oedd,
Yn nghanol pobloedd lawer.
19Na lawenhaer y dynion drwg
A ddaliant ŵg tuag ataf;
Y rhai ’n ddiachos a’m casânt,
Ac a amneidiant arnaf.
20Ni cheir heddychol air o’u pen —
Ond geiriau cynnen beunydd;
A llawn o ddichell yw eu bron,
Yn erbyn dynion llonydd.
21Lledant eu safn, gan ddweyd, Ha! ha!
Eu gweled ga’dd ein llygaid:
22Ti, Arglwydd, welaist hyn — na thau,
Gan ymbellhau ’ddiwrth f’ enaid.
23Cyfod a deffro i’m dadl a’m barn,
Fy Nuw, a’m cadarn Arglwydd;
24Na lawenhaer y rhei’ny sy
Yn caru gwel’d fy aflwydd.
25Na dd’wedont yn eu dirgel fryd,
Cawsom ein gwynfyd arno;
Llyngcasom ef, o’r golwg aeth,
A darfod wnaeth am dano.
26C’wilyddier hwy i gyd bob pen,
Sydd lawen am fy nrygfyd;
Gwarth a gwaradwydd wisgo ’n dỳn
Y rhai i’m herbyn gyfyd.
27Caned a llawenhaed y rhai
A garai fy nghyfiawnder;
A d’wedent hwy â chalon rwydd,
Yr Arglwydd a fawryger:
Yr hwn sy’n caru llwydd ei was,
Gan osod urddas arno;
A thaena ef yn gysgod len
Ei dirion aden drosto.
28Fy nhafod innau, O fy Nêr!
Fawl dy gyfiawnder beunydd;
Y dydd na’r nos, myfi ni thau,
A dy fawrhau ’n dragywydd.
Nodiadau.
Y mae yr ymadroddion trymion a ddefnyddia y Salmydd wrth weddïo yn erbyn ei elynion yn y salm hon yn neillduol, ac mewn amryw o salmau ereill hefyd, wedi, ac yn peri i lawer betruso pa fodd y gallent fod yn weddus i ddyn da eu defnyddio a’u harfer. Ceisia rhai esmwythau gerwindeb yr ymadroddion â’r dybiaeth mai prophwydo am aflwydd a dinystr ei elynion a wna y Salmydd, yn hytrach na dymuno a gweddïo am i’r fath drychineb eu goddiweddyd; ond y mae yr holl ieithwedd yn ymddangos yn anghymmodlawn â’r dybiaeth hono. Nid oes un dyn ystyriol, ni a dybiwn, a haera nad yw y fath ddynion ag a ddisgrifia y Salmydd fel ei elynion yn cyfiawn haeddu yr holl gospau y gweddïa efe am y gweinyddiad o honynt arnynt: yr un pryd, rhaid addef yr ymddengys y cyfryw ddymuniadau yn anghydweddol âg ansawdd meddwl dyn duwiolfrydig fel Dafydd. Modd bynag, y mae y pethau a ganlyn i’w hystyried yn eu perthynas â’r mater:— Yn gyntaf, Mai dyn oedd Dafydd, yn gorfod dioddef fel ninnau. Yn ail, Ei fod yn gwbl ddiniwed o’r cyhuddiadau a ddygai ei elynion maleisus yn ei erbyn — ac y gwyddent hwythau hyny. Yn drydydd, Yr oedd efe wedi talu da (fel y dywed ef) a dangos tynerwch a charedigrwydd, tuag at rai, o honynt, beth bynag, ag oeddynt yn arfer pob ystryw a dichell i hela ei einioes i’w ddyfetha. Yn bedwerydd, Nid oedd ganddo un llys daearol i appelio ato am farn gyfiawn ar ei achos; canys y gwŷr yr oedd yr awdurdod wladol yn eu dwylaw, yn benaf oll, oedd ei erlidwyr. Felly nid oedd ganddo ef ond cyflwyno ei fater i law Barnydd yr holl ddaear, a gofyn iddo ef ei hun weinyddu y gosp a haeddai eu gweithredoedd ar y cyfryw droseddwyr. Yn bummed, Dylid cofio yr oruchwyliaeth yr oedd efe yn byw o dani. Yn chweched, Bod y dynion sanctaidd a lefarasant ac a ysgrifenasant eiriau yr Ysgrythyr Lân mor agored i gyfeiliorni, camsynio, a chamddywedyd â’u gwefusau a dynion da ereill, pan na byddent yn llefaru neu yn gweithredu o dan ddylanwad ac arweiniad goruwchnaturiol yr ysbrydoliaeth ddwyfol. Rhydd yr ysgrythyr ei hun i ni lawer o enghreifftiau o hyn: megys Moses unwaith, a Job a’i gyfeillion. Cydnabydda Dafydd droion ddarfod iddo lefaru yn ei ffrwst; ac fel dyn da, yn ei ffrwst o herwydd ei elynion maleisus, Saul, a Doeg, a’r Ziphiaid, y mae yn debygol, y llefara efe amryw o ymadroddion y salm hon, a salmau ereill. Bob amser pan y mae efe yn llefaru fel prophwyd am y Messïah, yr ysbrydoliaeth ddwyfol sydd yn llefaru ynddo, a’i hymadroddion hi sydd ar ei dafod ef; ond nid ymddengys ei fod ef dan yr arweiniad goruwchnaturiol hwnw bob amser, pan y byddai yn llefaru ar ei achos ei hun. Y mae y dwyfol a’r dynol yn cydredeg drwy’r ysgrythyr, a da yw i ni ei bod felly. Fodd bynag, y mae holl addysg y salm yn addysg dda — am Dduw, ei farnau cyfiawn, ei oruwchlywodraeth ar y byd a’i holl amgylchiadau, a’i ofal am ei bobl; a therfyna, fel y terfyna llawer iawn o’r salmau, mewn penderfyniad newydd ar ran y Salmydd i fawrhau a chlodfori yr Arglwydd yn wastadol er ei holl drallodau a’i brofedigaethau. A pheth mawr iawn ydyw i ddyn allu cadw ysbryd addoli a moliannu yr Arglwydd yn fyw yn ei enaid pan mewn helbulon a phrofedigaethau, fel yr oedd Dafydd ynddynt.

Currently Selected:

Salmau 35: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in