YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 36

36
SALM XXXVI.
M. S.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd, gwas yr Arglwydd.
1Anwiredd yr annuwiol ddyn
Sy’n d’wedyd yn fy nghalon,
Nad oes ofn Duw o angenrhaid
O flaen ei lygaid beilchion.
2Gwenieithio iddo ’i hun y mae
Yn ei feddyliau diras,
Nes cael o’r diwedd, er ei wae,
Ei anwireddau ’n adgas.
3Holl eiriau ’i enau — ddyn di‐bwyll —
Sy’n llawn o dwyll a choegni,
Fe beidiai fod yn gall i ddweyd,
Na deall gwneyd daioni.
4Ei feddwl ar ei wely ’r nos
Fỳn aros ar anwiredd;
Ei hunan yn ei gwsg a rydd,
Ar lwybrau efrydd fuchedd.
Rhan II.
8.7.4.
5Dy drugaredd sydd yn cyrhaedd,
Arglwydd, hyd y nefoedd wen;
A’th wirionedd hyd gymmylau ’r
Awyr eang fry uwch ben:
6Fel mynyddau
Cedyrn yw ’th gyfiawnder pur.
Mae dy farnau, Iôr tragwyddol!
Yn ddirgelion dyfnion iawn,
Ceidwad dyn a ’nifail ydwyt,
Arglwydd:— rhyfedd yw dy ddawn:
7O! mor werthfawr, & c.,
Yw’th drugaredd di, O Dduw!
Ac am hyny yr ymddiried
Meibion dynion — llechu wnant,
O dan gysgod dy adenydd;
Noddfa dawel yno gânt;
8A digonir, & c.,
Hwy â brasder llawn dy dŷ.
Ag afonydd dy hyfrydwch
Y diodi hwy ’n ddilyth;
9Gyda thi mae ffynnon bywyd,
Ffynnon bywyd bery byth:
Yn d’ oleuni, & c.,
Gwelwn ni oleuni clir.
10Estyn i’r rhai a’th adwaenant
Dy drugaredd, Arglwydd cu;
A’th gyfiawnder i’r rhai hyny
Oll o uniawn galon sy’:
Llawn a llawen, & c.,
Fo’u heneidiau ger dy fron.
11Na ddoed troed y balch i’m herbyn,
Cadw hwnw oddi wrthyf draw;
Na chaed yr annuwiol ’sgeler
Byth fy syflyd i â’i law:
12Syrthied dynion, & c.,
Anwir, na chyfodont mwy.
Nodiadau.
Ymddengys yn debygol mai tua dechreu tymmor ei erledigaeth gan Saul yr ysgrifenodd Dafydd y salm hon, pan yr oedd etto yn aros yn ei lys, ac yn aml yn ei bresennoldeb, ac yn cael mynych brawf o’i eiddigedd tuag ato, er ei fod yn ceisio cyfrwys gelu yr eiddigedd, fel y dengys yr hanes yn 1 Sam xviii. Y casgliad a dynai Dafydd am Saul, er nad enwa ef, wrth ystyried ei ymddygiadau, yw, ‘nad oedd ofn Duw o flaen ei lygaid ef;’ a gellir ei gymmhwyso at bob dyn drygionus ac annuwiol, i’r rhai y bydd eu hanwiredd yn atgas yn y diwedd.
Try y Salmydd ei lygaid oddi wrth yr annuwiol, gan eu sefydlu ar drugaredd, cyfiawnder, barnedigaethau, a daioni Duw, fel Creawdwr a Cheidwad dyn ac anifail yn gyffredinol, a’i ddaioni mewn modd neillduol i’w bobl fel eu Duw cyfammodol:— “Yn eu digoni â brasder ei dŷ, ac yn eu diodi âg afon ei hyfrydwch, a dwfr ffynnon y bywyd.” Caiff yr annuwiol a’r anifail eu digoni â brasder y ddaear am dymmor, ond efe a ddigona ei bobl â brasder ei dŷ. Terfyna y salm hon etto mewn gweddi dros yr holl saint yn gyffredinol, a thros y Salmydd ei hun yn neillduol.

Currently Selected:

Salmau 36: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in