YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 45:17

Salmau 45:17 SC1875

Paraf gofio ’n mhob cenhedlaeth Glod dy enw mawr dilyth, Ac am hyny drwy yr oesau ’r Bobl a’th foliannant byth. NODIADAU. Teitlir y salm hon yn “Gân Cariadau,” neu briodasgerdd: “rhyw frenin a wnaeth briodas i’w fab,” a’r mab hwnw yw testyn y gân hon. Ni ellir dyweyd gyda sicrwydd pwy a gyfansoddodd y gân; os Dafydd, fel y tybia llawer, gellir gofyn yn ngeiriau yr eunuch wrth Phylip, “Attolwg, am bwy y mae Dafydd yn dywedyd hyn? Am dano ei hun, ai am rywun arall?” Yn sicr, nid am dano ei hun; canys nid oes yn y gân ddim oll yn berthynasol i amgylchiadau Dafydd, ac ni lefarodd Dafydd ddim erioed am dano ei hun, fel y llefara yma. Ai am Solomon ynte? Felly y meddylia rhai — am Solomon mewn rhan: ac am y Messïah yn benaf hwyrach, megys drwy Solomon, medd ereill. Am y Messïah yn unig ac yn hollol, medd ereill drachefn:— ac felly tybiwn ninnau. Y mae llawer o ymadroddion yn y gân nad ydynt yn briodol i Solomon mewn un modd. Y mae y brenin yn y gân hon yn cael ei arddangos fel rhyfelwr a buddugoliaethwr mawr, ond “arfau ei filwriaeth ef nid ydynt gnawdol; ond gwirionedd a lledneisrwydd, a chyfiawnder,” gair a gweinidogaeth y cymmod. Ni bu Solomon erioed yn rhyfelwr a buddugoliaethwr mewn un ystyr fel Dafydd ei dad. Nid priodol, ond ammhriodol i’r eithaf fuasai dyweyd wrth Solomon, nac wrth un dyn a fu erioed ar y ddaear, “A’th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy:” a mwy fyth yr ymadrodd “Dy orsedd di, O Dduw! sydd byth ac yn dragywydd,” & c. Priodola yr apostol ( Heb . i. 8) yr ymadrodd hwn i’r Tad yn llefaru wrth y Mab, y Messiah. Y mae y Salmydd wrth agor y gân yn amlygu yr ysbryd a’r teimlad a’i meddiannent ar y pryd:— “Traetha fy nghalon,” neu “Y mae fy nghalon yn berwi allan bethau da;” gan arwyddo ei fod wedi ei orlenwi gan y weledigaeth o ogoniant y brenin yr oedd yn myned i ganu iddo, yr hon a agorai yr ysbrydoliaeth ddwyfol yn awr o’i flaen, fel nas gallasai ymattal heb dywallt allan y meddyliau a ymgyfodent ac a ymferwent megys ynddo. Wedi dadgan clod, harddwch, a gogoniant y Brenin, dygir y frenhines yn ei harddwch a’i gogoniant hithau yn mlaen, sef yr eglwys efengylaidd dan deyrnasiad y Messiah, yn cynnwys ffyddloniaid yr eglwys Iuddewig dan yr Hen Destament hefyd, a thraethir “gogoneddus bethau” am lwyddiant a gogoniant yr eglwys — y byddai i’r Cenhedloedd, “merch Tyrus, merched brenhinoedd, a chyfoethogion y bobl,” ddyfod i’w hanrhydeddu, ac i ymuno â hi, a’i gwasanaethu, y byddai i ogoniant y Brenin a’i frenhines gael ei ryfeddu a’i foliannu “yn mhob cenhedlaeth ac oes, hyd byth ac yn dragywydd.” Gallasai awdwr y gân ddywedyd yn ngeiriau Paul ar ol hyny, “Am Grist, ac am yr eglwys yr wyf fi yn dywedyd.”

Video for Salmau 45:17