YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 46:10-11

Salmau 46:10-11 SC1875

Ust! ddynion llwydion y llawr, A’ch terfysg, a’ch rhoch taerfawr, Sylwch, a chofiwch hefyd, Mai Iehofah bïau y byd; Ei enw mad fydd ofnadwy Y’mysg y cenhedloedd mwy. NODIADAU. “Cân ar Alamoth: ” — naill ai tôn, neu offeryn cerdd o’r enw. Y gred gyffredin yw, mai Dafydd a gyfansoddodd y gân; ac mai ei fuddugoliaethau ar y Moabiaid a’r Syriaid, a goffeir yn 2 Sam viii., oedd yr achlysur. Beth bynag am hyny, ni chyfododd ei ffydd ef, na neb arall, erioed yn uwch nag yn y gân hon. Y mae megys yn herio y digwyddiadau mwyaf ofnadwy a dychrynadwy a allant gymmeryd lle byth i beri iddo ofni nac arswydo:— terfysg cenhedloedd, cwymp teyrnasoedd, symmudiad y ddaear, hyrddiad y mynyddoedd oddi ar eu sylfeini i’r môr, dattodiad a chwaliad natur oll oddi wrth ei gilydd. “Nid ofnwn,” medd efe, canys “Duw sydd noddfa a nerth i ni.” Edrycha ar, ac ymlawenycha yn sefydlogrwydd a diogelwch yr eglwys (y ffyddloniaid) yn nghanol yr holl derfysgoedd a gythryblent y cenhedloedd, a ysgogent y teyrnasoedd, ïe, yn nghanol dattodiad a dinystr elfenau y greadigaeth, dan nawdd gallu a ffyddlondeb Duw. Pan fyddai pethau yn ymddangos yn dywyll a bygythiol iawn ar achos y Diwygiad Protestanaidd, fel y buont lawer gwaith yn ei dymmor boreuol; a phan fyddai cyfeillion y Diwygiad ar dori eu calonau mewn anobaith, dywedai Luther bob amser yn wyneb amgylchiadau felly — “Wel, gadewch i ni ganu y chweched salm a deugain.” Y mae hon, yn wir, wedi bod yn un o hoff ganiadau yr eglwys bob amser. Ystafell y Cristion i lechu ynddi, “hyd onid êl y llid heibio,” lle y “cedwir ef mewn tangnefedd heddychol — yn nirgelwch y Goruchaf, dan gysgod yr Hollalluog.”

Video for Salmau 46:10