YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 53

53
SALM LIII.
M. S.
I’r Pencerdd ar y Mahalath, Maschil, Salm Dafydd.
1Nid oes un Duw i farnu ’r byd,
Eb’r ynfyd yn ei galon;
A chydymlygru wnaent un wedd,
Ffiaidd anwiredd wnaethon’.
2I lawr o’r nef edrychodd Iôn
Ar feibion dynion daear;
I wel’d oedd neb yn mhlith y byw
Yn ceisio Duw ’n ddeallgar.
3Ciliasai pawb yn ŵysg eu cefn,
Yn ddrwg eu trefn yr aethent;
Nid oedd a wnai ddaioni, neb —
Hwy i’r gwrthwyneb gilient.
4Ai nid oes dim gwybodaeth bur
Gan rhai sy’n gwneuthur dirdra?
“Hwynthwy,” medd Duw, “fwytânt fy mhlant,
Fel y bwytânt eu bara.”
Ar Dduw ni alwant, 5ofn a’u deil —
Ynddynt ymeifl, a chrynant;
O blaid ei bobl Duw y sydd,
Diogel beunydd fyddant.
Gan ddychryn calon cryn y rhai
Na arferasai arswydo;
Duw chwâl eu hesgyrn hwy mewn bâr
Fu ’n gwarchae ar ei eiddo.
Duw a’u dirmyga hwy — am hyn
I w’radwydd sỳn y deuant;
A than eu gw’radwydd cleddir hwy,
Ac felly mwy darfyddant.
6O! na roid iachawdwriaeth wiw
I Israel Duw o Seion!
Pan ddwg ei bobl gaeth yn rhydd,
Hwy gânt lawenydd ddigon.
Nodiadau.
Nid oes esboniwr a welsom, nac Iuddew na Groegwr, yn gallu egluro i ni deitl y salm hon — Mahalath. Rhoddant amcan‐dybiau yn lliosog am dano, ac felly y gadawant ef.
Y mae y salm hon yr un peth yn hollol, ond adn. 6 yn hon, a’r bedwaredd salm ar ddeg. Y mae ei geiriad mewn rhai manau ychydig yn wahanol, ond y mae yr ystyr yn hollol yr un; canys geiriau o’r un pwrpas a ddefnyddir yn mhob enghraifft y gwneir cyfnewidiad. Pa ham y dodir yr un salm ddwywaith fel hyn sydd yn gwestiwn anhawdd ei atteb.
“Unwaith y dywedodd Duw, clywais hyny ddwywaith, mai eiddo Duw yw cadernid,” medd y Salmydd mewn salm arall. Gallwn ninnau ddywedyd uwch ben y salm hon, ein bod wedi clywed ddwywaith bellach mai eiddo dyn yw llygredigaeth, a phechod, a thrueni. Mỳn Ysbryd Duw, drwy y Gair, sicrhau y gwirionedd pwysig am lygredigaeth hollol a chyffredinol dynolryw drwy bechod yn meddyliau dynion, er eu dwyn, fel y Salmydd ar ddiwedd y ddwy salm dan sylw, i geisio a dymuno yr iachawdwriaeth a’r ymwared a ddarparodd Duw o’i anfeidrol ras yn Nghrist Iesu, ac a ddadguddia efe yn Seion ac o Seion:— “Canys y gyfraith a ä allan o Seion, a gair yr Arglwydd o Ierusalem.”

Currently Selected:

Salmau 53: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 53