YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 55:23

Salmau 55:23 SC1875

Ond i ddistryw ef a ddwg Ddynion gwaedlyd; Y twyllodrus dan ei ŵg Syrth — ni chyfyd. NODIADAU. Eglur yw mai yn ei ffoedigaeth rhag Absalom ei fab y cyfansoddodd Dafydd y salm gwynfanus hon. Cwyna yn neillduol ynddi o herwydd ffalsedd a bradwriaeth Ahitophel, yr hwn a fuasai yn un o’i gyfeillion penaf, ac yn brif gynghorwr iddo. Tra yr oedd efe ar ei ffoedigaeth, yn myned i fyny ar fryn yr Olewydd dan wylo, wedi gorchuddio ei ben, ac yn droednoeth, a’r holl bobl oedd gydag ef yr un modd, mynegwyd iddo fod Ahitophel yn mysg y cydfradwyr gydag Absalom; yr hyn, fe ymddengys, a’i trallododd yn fawr, canys gwyddai yn dda am graffder a challineb Ahitophel fel cynghorwr. Torai allan, gan ddywedyd, “O Arglwydd! tro, attolwg, gynghor Ahitophel yn ffolineb.” Wedi iddo fyned dros yr Iorddonen i Mahanaim, y mae yn debygol, y cyfansoddodd efe y salm hon ar yr achlysur galarus. Yn lle yr ymadrodd “canys yr oedd llawer gyda mi,” yn adn. 18, darllena Boothroyd, ‘Gwared fy enaid mewn heddwch, rhag fy mherthynasau; o blegid y maent hwy yn mysg y rhai sydd yn ymladd i’m herbyn’ — gan olygu Absalom ei fab, ac Amaza ei gâr, ac amryw ereill, y mae yn debygol, oeddynt yn gyfranogion o’r fradwriaeth; — yr hyn, ynghyd â bradwriaeth ei brif gynghorwr Ahitophel, a wnai gwpan y gofid hwnw yn chwerw iawn iddo.

Video for Salmau 55:23