YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 59

59
SALM LIX.
M. S.
I’r Pencerdd, Al‐taschith, Michtam Dafydd, pan yrodd Saul rai i gadw y tŷ i’w ladd ef.
1Duw, gwared fi — mae arnaf fraw
Rhag syrthio ’n llaw y gelyn;
Amddiffyn fi, rhag llid y rhai
A ymgyfodai i’m herbyn.
2O! cadw fi, fy Nuw, ’mhob man
Rhag gweithwyr anwireddau;
O ddwylaw dynion mawr eu llid,
Gwŷr gwaedlyd eu bwriadau.
3Cynllwyna, ’mgasgla cedyrn, haid
I wneyd ar f’ enaid ddifrod;
Nid ar fy mai a’m pechod i,
O Arglwydd! — ti sy’n gwybod.
4Rhedant, par’toant bawb ei gledd,
Heb un anwiredd ynof;
O! edrych ar y dynion hyn,
A gwna amddiffyn erof.
5O Arglwydd! deffro, ymwêl ar g’oedd
A’r holl genhedloedd dyrus;
Na thrugarhâ wrth neb o’r rhai
A wnant ar fai ’n faleisus.
6Dychwelant gyda’r hwyr, â’u sŵn
Fel haid o waedgwn adgas;
Ac felly, byddant hwy yn llu
Yn amgylchynu ’r ddinas.
7Bytheiriant â’u gwefusau’n hy’,
Cleddyfau sy’n eu safnau;
Ni pharchant ddyn, nid ofnant Dduw —
Pwy, meddant, glyw ein geiriau?
8Ti, Arglwydd, a watwari eu dig,
Eu rhyfyg a’u gweithredoedd;
A thi a chwerddi yn y nen
Am ben yr holl genhedloedd.
Rhan II.
M. S.
9O Dduw! fy nerth, fyth wrthyt ti
Disgwyliaf fi yn wastad;
F’ amddiffyn ydwyt ti, fy Nêr,
Rhoddais fy hyder arnad.
10Fy Nuw trugarog efe a’m
Rhagflaena â’i amddiffyn;
A Duw wna i mi wel’d ar frys
F’ ewyllys ar y gelyn.
11Na ladd hwynt, rhag i’m pobl i
D’ anghofio di yn fuan;
Darostwng, gwasgar hwynt yn fyw,
O Arglwydd Dduw ein tarian!
12Am bechod eu geneuau, ac am
Y twyll a’r cam gyflawnant;
Ac am eu balchder dalier hwynt,
A’r celwydd brwnt a draethant.
13Duw, difa ’r bobl hyn i gyd —
Dy gyfiawn lid dod arnynt;
Dadymchwel hwy â’th law dy hun,
Fel na b’o un o honynt.
Gwybyddant felly mai Duw sy
Yn llywodraethu ’n Iago,
Hyd bell eithafoedd daear faith,
A chaiff y gwaith ei gofio.
14-15Yn hwyr i’r dref, fel cŵn, â’u nwyd
I chwilio am fwyd dychwelant;
Ac oni chânt yn ol eu blys,
Yn awchus y grwgnachant.
16Myfi a ganaf am dy nerth,
A’th ras yn brydferth folaf;
Can’s buost im’ yn noddfa glyd
Y dydd bu drygfyd arnaf.
17I ti y canaf, O fy Nuw!
Ti yw fy amddiffynfa;
Duw fy nhrugaredd! Duw fy mhlaid!
Fy enaid a’th glodfora.
Nodiadau.
Hon yw y drydedd, a’r salm olaf, yn nosbarth yr Al‐taschith; ac etto y mae yn bur amlwg oddi wrth yr hysbysiad sydd o’i blaen, mai hi oedd y gyntaf o ran amser o’r tair. Ezra, mae yn llwyr debygol, yn Babilon, neu wedi y dychweliad o Babilon, a ddosbarthodd y Salmau yn y drefn y maent genym ni. Fel y mae yr Hebraeg i’w darllen o’r llaw ddehau at y llaw aswy — o chwithig i ni, felly y mae y dosbarth hwn o’r Salmau, a rhai ereill hefyd, wedi eu gosod; y rhai cyntaf yn olaf, a’r rhai olaf yn gyntaf.
Cyfansoddodd Dafydd y salm hon, fel y dengys ei theitl, ar yr achlysur “pan anfonodd Saul rai i wylio y tŷ i’w ladd ef.” Am yr amgylchiad hwnw, cawn hanes dyddorol iawn yn 1 Sam xix. Ychydig fisoedd cyn hyny, priodasai Dafydd Michal, merch Saul. “Rhoddaf hi iddo ef,” meddai y brenin, “fel y byddo hi iddo yn fagl, ac y byddo llaw y Philistiaid arno ef.” Yr oedd ganddo yn ddiau sail i ddisgwyl hyny, oddi wrth gymmeriad cyffredinol ei ferch; canys yr oedd mwy o ysbryd Saul ei thad, nac o ysbryd Ionathan ei brawd, ynddi hi: ond siomwyd ef ynddi y tro hwnw, fodd bynag. Bu yn ffyddlawn i’w gŵr pan ddaeth awr y brofedigaeth arni. Naturiol i ni gasglu ddarfod i Ionathan, yr hwn a gadwai wyliadwriaeth graffus ar holl gynghorion Saul, a gwŷr ei lys, yn eu perthynas â Dafydd, gael gwybyddiaeth am y gydfradwriaeth i’w ladd ef yn ei dŷ; ac iddo fyned at ei chwaer, ac iddynt drefnu eu cynllun i siomi y cynllwynwyr yn eu hymgais, a Saul yn ei fwriad. Gollyngodd Michal ei gŵr allan drwy y ffenestr yn nyfnder y nos, pan yr oedd gweision Saul wedi dyfod ac ar amgylchu y tŷ; a rhag y buasai iddynt erlid ar ei ol, dywedodd wrthynt fod Dafydd, nid wedi diangc, ond yn glaf yn ei wely; fel y bu raid iddynt ddychwelyd at eu meistr am gyfarwyddyd beth i’w wneyd. Felly, cyn iddynt hwy ddychwelyd yn ol y boreu nesaf, yr oedd Dafydd yn mhell ar ei ffordd i Ramah at Samuel; ac ar ei ffordd yno y mae yn bur debygol y cyfansoddodd efe ei Al‐taschith hon.
Yma y dechreua bywyd crwydrol Dafydd. Hon oedd y ffoedigaeth gyntaf oddi cartref rhag Saul, er y buasai ei fywyd mawn enbydrwydd droion o’r blaen; ond yma y mae yn myned i ddyfroedd dyfnion ei brofedigaethau a’i beryglon, a thrwy y profedigaethau hyny yn dysgu ymddiried yn yr Arglwydd ei Dduw. “Gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch, a dioddefgarwch brofiad, a phrofiad obaith,” medd yr apostol (Rhuf. v. 3, 4): ac yr ydym yn cael Dafydd yn esampl nodedig o hyn. Fel yr oedd ei beryglon a’i brofedigaethau ef yn amlhau ac yn trymhau, felly hefyd yr oedd ei obaith a’i hyder yn Nuw yn cryfhau.
Achwyna yn chwerw yn y salm hon o herwydd malais a llid diachos Saul tuag ato; ac yn enwedig ei weision, gwŷr llys Saul, y rhai a wnaent eu goreu i chwythu ac i ennyn eiddigedd Saul yn fwy angerddol i’w erbyn, trwy ddwyn camachwynion, a dyfeisio celwyddau arno. Traetha farn drom yn eu herbyn yn ei weddi hon, a gedy eu hachos hwy a’i fater ei hun yn llaw Duw. Wedi yr achwynion trymion ar hyd y salm, y mae yn tori i ganu yn felus iawn ar ei diwedd, gan deimlo ei hun yn ddiogel dan nawdd ac amddiffyn Duw. “Minnau a ganaf am dy nerth,” medd efe, “ïe, llafar‐ganaf am dy drugaredd yn foreu, canys buost yn amddiffynfa i mi, ac yn noddfa yn y dydd y bu cyfyngder arnaf.” Nid oedd fawr o ganu fel hyn yn nghalon ac yn llys Saul: “Yno teyrnasai cenfigen chwerw, ac ymryson, a phob drwg.” Ond, wele y truan y cynllwynent hwy am ei einioes ddydd a nos, yn llafar‐ganu mawl a diolchgarwch i’w Dduw yn nghanol ei drallodion blinion. “Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd â’i feddylfryd arnat ti, am ei fod yn ymddiried ynot;” Esa. xxvi. 3.
Yn nghanol yr amgylchiadau blinion hyny, disgleiria cymmeriad Ionathan fel yr haul yn ei nerth. Methodd holl lygredigaethau a halogrwydd llys ei dad lychwino dim ar ei burdeb ef. Parhaodd yn ffyddlawn i Dafydd hyd y diwedd, yn nghanol ei fradwyr maleisus. Mewn gair, un o gymmeriadau prydferthaf ac anrhydeddusaf hanesyddiaeth yr Hen Destament ydyw Ionathan.

Currently Selected:

Salmau 59: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in