YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 60

60
SALM LX.
7.6.
I’r Pencerdd ar Susan‐eduth, Michtam Dafydd, i ddysgu; pan ymladdodd yn erbyn Syriaid Mesopotamia, a Syriaid Sobah, pan ddychwelodd Ioab, a lladd deuddeng mil o’r Edomiaid yn nyffryn yr halen.
1O Dduw! ti ’n bwriaist ymaith,
Gwasgeraist ni heb drefn;
Ti soraist wrthym — dychwel
Di atom ni drachefn.
2Ti wnêst i’r ddaear grynu —
Ei hollti ’n ddwfn a wnaed;
Iachâ ei briwiau, canys
Mae ’n crynu dan ein traed.
3Dangosaist in’ galedi;
Diodaist ni â gwin
Madrondod, i’n syfrdanu —
Yr ŷm mewn cyflwr blin.
4I’r rhai a ofnant d’ enw
Y rhoddaist faner wen;
O herwydd y gwirionedd,
I’w dyrchu uwch eu pen.
5Fel y gwareder, Arglwydd,
Dy bobl anwyl di,
O! estyn dy ddeheulaw,
Achub, a gwrandaw fi.
Rhan II.
7.6.
6Duw yn ei deml sanctaidd,
Lefarodd — Llawenhâf,
Myfi a ranaf Sichem,
A mesur Succoth wnaf;
7Ac eiddo fi yw Gilead,
Manasseh ac Ephraim gry’,
Ac Iudah yw fy neddfwr,
Daw ’r llwythau oll o’m tu.
8Gwneir Moab uchelfrydig
Yn grochan golchi im’,
Tros Edom bwriaf f’ esgid,
Philistia wnaf yn ddim;
9Pwy ’m dwg i’r ddinas gadarn?
Pwy ’m dwg i Edom fawr?
10Neb ond tydi, O Arglwydd!
Duw lluoedd nef a llawr.
O Dduw! er i ti wrthod
Gynt fyned gyda ’n llu,
11Yn awr, moes in’ ymwared
Yn nydd cyfyngder du;
Gau yw ymwared dynion,
12Yn Nuw yn unig gwnawn,
Wroldeb ar y gelyn,
Ei sathru i lawr a gawn.
Nodiadau.
Yr oedd ugain mlynedd, beth bynag, o amser rhwng y pryd y cyfansoddwyd y salm hon a’r un o’r blaen. Cyfansoddodd Dafydd lawer o salmau yn y cyfwng hwnw o amser, y rhai a geir un yma ac un acw yn y llyfr.
Am ystyr y “Susan‐eduth,” yn nheitl y salm hon etto, nid oes un sicrwydd. Offeryn cerdd chwe‐thant, ar yr hwn yr oedd i’w chanu, a olygir, medd rhai.
Cyfansoddwyd hi, medd yr hysbysiad sydd o’i blaen, ar achlysur buddugoliaethau mawrion ar y Philistiaid, y Moabiaid, y Syriaid, a’r Edomiaid, yn gynnar ar deyrnasiad Dafydd, pan oedd llwythau Israel etto heb lwyr ddychwelyd ato, ac ymgyfanu dan ei lywodraeth. Cwyna yn y dechreu o herwydd y cyflwr isel y syrthiasai y wladwriaeth iddo tua diwedd teyrnasiad Saul, ac yn enwedig mewn canlyniad i fuddugoliaeth y Philistiaid ar Israel ar fynydd Gilboa, pan y lladdwyd Saul a’i feibion; ac wedi hyny drachefn yn ystod y tymmor y buasai rhyfel caled rhwng tŷ Saul, a gynnelid i fyny drwy ddylanwad Abner, a’i dŷ ef. Wedi marwolaeth Abner ac Isboseth, dechreuodd y llwythau syrthio at Dafydd; a’r gelynion cymmydogaethol yn gweled hyny, a benderfynasant wneyd ymosodiad egnïol i geisio attal Dafydd i gyfanu y deyrnas, yr hon oedd megys wedi ei hollti, fel y dywed ef yn y salm, ac yn crynu gan wendid ac ofn. Ofnai y gelynion hyny rhag i frenhiniaeth Israel fyned yn rhy gref iddynt, yn enwedig dan ryfelwr mor enwog a Dafydd. Tarawodd ef y Philistiaid, hen elynion mwyaf peryglus Israel, yn gyntaf, a llwyr ddarostyngodd hwynt; ac yna gorchfygodd Syriaid Mesopotamia a Sobah; a thua’r un pryd tarawodd Abisai, brawd Ioab, yr Edomiaid, a lladdodd ddeunaw mil o honynt (1 Cron. xviii. 12); a thrachefn ymladdwyd brwydr benderfynol rhwng Ioab a’r Edomiaid yn Nyffryn yr Halen, yr hwn a laddodd ddeuddeng mil o honynt, ac a’u llwyr ddarostyngodd. Effeithiodd y buddugoliaethau mawrion hyn i ddwyn calonau holl Israel at Dafydd, pan welsant fel yr oedd yr Arglwydd yn ei lwyddo. Rhoddai’r Arglwydd y llwyddiant hwn megys baner i’r bobl i’w dyrchafu, “o herwydd y gwirionedd” a lefarasai efe wrth ac am Dafydd, i ddangos iddynt ei fod yn dychwelyd atynt drachefn i’w hamddiffyn a’u gwaredu. Llawenycha yntau yn yr hyn a lefarasai “Duw yn ei sancteiddrwydd,” neu yn ei deml sanctaidd, am dano, gan sicrhau iddo ei hun y buasai yn dwyn yr holl lwythau i blygu yn wirfoddol iddo, ac y cadarnheid ei orsedd dano.
Yr oedd dychweliad llwythau Israel at Dafydd a’i frenhiniaeth, a’u huniad â’u gilydd yn un deyrnas dano, mewn canlyniad i’r buddugoliaethau hyny, megys yn cysgodi galwad y Cenhedloedd at Grist, ac uniad Iuddewon a Chenhedloedd â’u gilydd yn un eglwys — “yn un corph drwy y groes,” fel ffrwyth buddugoliaethau ysbrydol ei angeu, ei adgyfodiad, a’i esgyniad i’r nefoedd, a thywalltiad yr Ysbryd Glân ar ddydd y Pentecost.

Currently Selected:

Salmau 60: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in