YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 62

62
SALM LXII.
M. C.
I’r Pencerdd, i Ieduthun, Salm Dafydd.
1Wrth Dduw yn unig, yn ddiau,
Y disgwyl f’ enaid mâd;
O hono ef ei hunan daw
Fy iachawdwriaeth rad.
2Efe yn unig yw fy Nghraig,
Ef sy’n amddiffyn im’;
O herwydd hyn, beth bynag ddaw,
Ni’m mawr ysgogir ddim.
3Pa hyd bwriedwch aflwydd dig
Yn erbyn gŵr yn awr?
Lleddir chwi oll, a byddwch fel
Magwyr ar syrthio i lawr.
4Yn unig ymgynghorant hwy
I’w fwrw i lawr o’i urdd;
Bendithia ’u tafod; ond o’u mewn
Y mae melldithion fyrdd.
5O f’ enaid! disgwyl di wrth Dduw —
Yn unig ynddo ef
Y mae fy ngobaith; ac efe
Yw’m hamddiffynfa gref.
6Efe yn unig sydd yn Graig
Ac iachawdwriaeth im’;
Fy mhlaid, fy noddwr yw efe,
Ni ’sgogir mo’nof ddim.
7Yn Nuw mae ’m hiachawdwriaeth i,
A fy ngogoniant gwiw;
Fy nghymmhorth, fy ngwaredydd da,
A’m noddfa sydd yn Nuw.
Rhan II.
M. S.
8Gobeithiwch ynddo ef i gyd;
Holl bobl y byd tywelltwch
Yn rhwydd eich calon ger bron Duw —
Ein noddfa yw: addolwch.
9Holl feibion dynion, fawr a bach,
Nid ynt ond sothach gwaelfri;
I’w dodi mewn clorianau ’nghyd,
Ysgafnach i gyd na gwegi.
10Na phwyswch ddim ar drawsder trwch,
Mewn trais na fyddwch ofer;
Os golud a gynnydda dro,
Na roddwch arno ’ch hyder.
11Unwaith y d’wedodd Duw — myfi
A glywais hyny ddwywaith —
Mai ’i unig eiddo ef i gyd
Yw pob cadernid perffaith.
12Trugaredd hefyd, Arglwydd cu,
Sy’n eiddo i ti, i’n gwared;
Can’s i bob dyn y teli yn ol
Y bo ei haeddol weithred.
Nodiadau.
Nid oes na deisyfiadau gweddi, na mawl a diolchgarwch yn y salm hon. Adrodd ei brofiad, ei ffydd, a’i hyder yn yr Arglwydd y mae Dafydd ynddi yn benaf; a galw ar, a chynghori pawb ereill i obeithio ac ymddiried yn yr Arglwydd, a gochelyd rhag ymddiried mewn dyn, mewn golud bydol, nac mewn trawsder cynlluniau a mesurau anghyfiawn. Dywed am dano ei hun drachefn a thrachefn mai yn Nuw yn unig yr oedd yn ymddiried, ac mai ynddo ef yn unig yr oedd ei iachawdwriaeth, ac o herwydd hyny na allasai holl falais a gallu ei elynion ei ysgogi byth. Nid oes un lle i gasglu, hwyrach, pa bryd ac ar ba achlysur y cyfansoddwyd y salm, gan nad oes ynddi gyfeiriad at unrhyw amgylchiad pennodol o’i fywyd.

Currently Selected:

Salmau 62: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 62