YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 65

65
SALM LXV.
8.4.
I’r Pencerdd, Salm a Chân Dafydd.
1Mawl a’th erys di yn Seion,
O Arglwydd Dduw!
Telir addunedau’r cyfion,
I ti, O Dduw!
2Ti, yr hwn wrandewi weddi,
Atat daw pob cnawd mewn cyni
Am ymwared o galedi,
O Arglwydd Dduw!
3Pethau anwir a’n gorchfygai —
Ein beiau câs;
Ti ’n glanhei o’n holl gamweddau,
O’th ryfedd ras;
4Gwyn fyd hwnw o’th diriondeb,
A nesaech i’th bresennoldeb,
I gael byw yn ngwedd dy wyneb,
Yn nhemlau ’th ras.
Fe ’n digonir â daioni,
Dy sanctaidd dŷ,
Sef dy deml lle preswyli,
O Arglwydd cu!
5Ti attebi i ni weithiau,
Drwy ofnadwy ymweliadau,
Ond cyfiawnder yw dy lwybrau,
O Arglwydd cu!
Duw ein hiachawdwriaeth hawddgar,
Wyt, Arglwydd Iôr;
Gobaith byw holl gyrau ’r ddaear,
A’r pell ar fôr;
6’R hwn a sicrhâ ’r mynyddoedd
Drwy ’i ddoethineb fawr a’i nerthoedd,
Mawr a chedyrn yw ’th weithredoedd,
O Arglwydd Iôr!
7’R hwn ostega dwrf y moroedd,
Drwy rym ei air,
Twrf eu tonau, a therfysg pobloedd,
Drwy rym ei air;
8A phreswylwyr pell eithafion
Byd, a ofnant dy arwyddion,
Gwena boreu a hwyr yn dirion
Wrth drefn dy air.
Rhan II.
8.4.
9Hael ymweled ’rwyt â’r ddaear,
O bryd i bryd,
Gan ei dyfrhau yn dringar,
O bryd i bryd;
Dirfawr gwnei ei chyfoethogi,
Afon Duw sy’n ei ffrwythloni;
Mor ryfeddol yw ’th ddaioni
I ni o hyd.
Yd yn fwyd i’r bobl a drefni,
O’th dirion rad,
Pan ddarperaist felly iddi,
O’th dirion rad;
10Gan ddyfrhau ei sychion gefnau,
Disychedu ’i dyfnion rychau,
Gwnei ei mwydo â chafodau,
O’th dirion rad.
11Hardd goroni ’r wyt y flwyddyn,
Clod, clod i Dduw,
O’th ddaioni maith diderfyn,
Clod, clod i Dduw;
Brasder a ddyfera ’th lwybrau
12Ar borfeydd yr anial fanau,
Gwisg hyfrydwch am y bryniau,
Clod, clod i Dduw.
13Hilia defaid lon’d y doldir,
Clod, clod i Dduw;
Yd orchuddia y dyffryndir,
Clod, clod i Dduw;
Pobl y ddaear orfoleddant
Mewn daioni dedwydd fyddant,
Felly y bloeddiant ac y canant,
Clod, clod i Dduw.
Nodiadau.
Ceisiodd rhai ladrata y salm fwynber hon oddi ar Dafydd, a’i rhoddi, naill ai i Ieremiah neu Ezeciel, heb rith o sail, ni dybiwn — dim ond ysfa dychymyg: canys nid oes dim o ddelw salm wedi ei chyfansoddi yn amser y caethiwed yn Babilon arni. Yn 2 Sam xxi., cawn hanes am dair blynedd o newyn neu brinder yn nyddiau Dafydd, yr hwn a achosid gan sychder, y mae yn debygol, fel y profodd Israel yn Ngwlad Canaan lawer gwaith. Ar ddychweliad y gwlaw ar ol tri thymmor o’r sychder mawr hwnw y cyfansoddodd Dafydd ei gân hon, y mae yn bur debygol. Yr oedd y brenin a’i bobl wedi bod yn gweddïo am y gwlaw, ac efe, “yr hwn a wrendy weddi,” wedi eu hatteb yn raslawn; ac y maent hwythau drachefn yn ei foliannu yn Seion am hyny. Cydnabyddir yn y gân y pethau anwir oedd ynddynt hwy yn galw am i Dduw weinyddu y cerydd — eu hatteb drwy bethau ofnadwy, a chyfiawnder Duw yn yr oruchwyliaeth hono; wedi hyny y mae y gân yn troi yn llawen, ac yn llafar ddiolchgarwch iddo am droi y cerydd heibio, ac ail ymweled â daear eu gwlad, gan ei mwydo â chawodau, ei chyfoethogi âg afon Duw — parotoi ŷd i’r bobl, porthiant i’r anifail, coroni y flwyddyn â’i ddaioni, gwregysu y mynyddoedd â hyfrydwch, gwisgo y dolydd â defaid, gorchuddio y dyffrynoedd âg ŷd, & c. Y mae hon yn un o’r caniadau mwyaf prydferth a gyfansoddodd Dafydd, na neb arall, erioed. Dysgir ni ynddi i gydnabod Duw fel unig ffynnon ein holl gysuron tymmorol yn gystal ag ysbrydol; i deimlo ein hollol ddibyniaeth arno am bob peth a berthyn i fywyd, yn gystal ag i dduwioldeb; ac i aberthu mawl a diolchgarwch iddo am fendithion ei ragluniaeth, fel am fendithion ei iachawdwriaeth.

Currently Selected:

Salmau 65: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 65