YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 68

68
SALM LXVIII.
“Ymdaith Gwŷr Harlech.”
I’r Pencerdd, Salm neu Gân Dafydd. Gorymdaith yr arch i Seion.
Y bardd.
1Coded Duw, ffoed ei gaseion,
A gwasgarer ei elynion
2Fel y mŵg o flaen ’r awelon —
Chwaler hwy oll draw.
Fel y tawdd y cŵyr tynerol
O flaen gwres y tân angerddol,
Y diflana ’r rhai annuwiol
O flaen Duw, mewn braw:
3Ond boed y cyfiawn beunydd
Yn hyfryd o lawenydd,
Ger bron Duw, hwy gânt fyw
Mewn urddas gwiw ’n dragywydd;
4Molwch enw Duw, canmolwch
Ei ogoniant ef, dyrchefwch
’R hwn a ferchyg mewn prydferthwch
Ar y nef uwch law.
Y Brenin Mawr gorucha’,
Ei enw yw IEHOFAH,
5Dewch yn llon ger ei fron
I Seion, lle preswylia;
Duw sy’n Dad i’r rhai amddifaid,
Barnwr, noddwr gweddwon gweiniaid,
Unig obaith y trueiniaid —
Ceidw hwy ’n ei law.
Dosbarth II.
Etto.
6’R unig esyd Duw mewn teulu
Yn gysurus i gartrefu,
Dwg y caeth o’i flin garchardy
I wir ryddid llawn:
Ond y cyndyn a breswylia
Grasdir sych, heb ddwfr na bara,
Yno ’i enaid ef newyna
Yn druenus iawn.
7Pan aethost trwy ’r anialwch,
O Arglwydd! mewn prydferthwch
O flaen dy lu, ’n d’ allu cry’,
I’w gwylio er diogelwch,
8Daear grynai, ’r nen ddefnynai,
A dychrynodd, synodd Sinai,
O flaen Duw, sef Duw ein tadau,
Ninnau a’i coffawn:
9Gwlaw graslawn ro’ist yn helaeth,
O Dduw! ar d’ etifeddiaeth,
10Ynddi hi, dy bobl di,
Eu llenwi gânt â lluniaeth,
O’th ddaioni gwnai ddarparu
I’r tylawd er ei ddiwallu,
Caiff y truan dy foliannu
Am dy ryfedd ddawn.
Dosbarth III.
Etto.
11Duw a ro’es y genadwri,
Mawr oedd mintai y llangcesi,
Aethant allan i’w chyhoeddi
Mewn gorfoledd mâd:
Gyda ’u nablau a’u telynau
Seiniai ’r merched eu caniadau,
Cerddai swyn eu mwyn emynau,
Trwy ororau ’r wlad.
Can y merched.
12Brenhinoedd cry’ byddinog
A ffoent ar ffrwst yn ofnog,
A’r teulu sy’n trigo ’n tŷ
Wnaent ranu ’r ysbail enwog;
13Er iwch orwedd rhwng crochanau
Megys gynt y bu eich tadau,
Druain, noethion, dan driniaethau
Gelyn mawr ei frad:
Fel esgyll c’lomen wiwlan
A wisgid oll âg arian,
A hardd liw ’i hadenydd gwiw
Yn berlog euliw purlan;
Felly ’n awr, rhoes Duw hawddgarwch
Arnoch chwi, a mawr brydferthwch,
Duw eich tadau, ef clodforwch
Am ei ddoniau rhad.
Dosbarth IV.
Etto.
Y gwyr yn atteb.
14Pan wasgarai ’r Hollalluog,
O’n blaen ni, ’r brenhinoedd cefnog,
Drigent yn y wlad oludog,
Hyny oedd i ni,
Fel pe troisid tew gysgodion
Dyffryn tywyll angeu creulon,
Oll yn wyn fel eira ’n Salmon,
Llawen ydym ni.
Clod Seion.
15Mae mynydd Seion wiwlan
Fel cribog fynydd Basan,
Pery bri ’n mynydd ni ’n
Hwy i oesi nag un Basan:
16Pa’m y llemwch, fryniau cribog?
Pa’m dyrchefwch chwi mor dalog
I’r wybrenau ’ch penau breiniog?
Hyn, deallwch chwi —
Mai Seion ydyw ’r mynydd
Ddewisodd Duw ’n dragywydd;
Dyma ’r lle ddewisodd e’
I’w wneyd yn fangre ddedwydd,
Lle yr erys i breswylio
O hyn allan, heb ymado,
Bydd ei arch a’i enw yno
Mewn goruchel fri.
Dosbarth V.
Etto.
Yr orymdaith yn cyrhaedd Seion.
17Ugain mil o engyl bywiog
Yw cerbydau ’r Hollalluog,
Glân a dedwydd lu godidog,
Parod, ufudd iawn:
Yn eu plith y mae IEHOFA’,
Megys bu ef gynt yn Sina’,
Yn ei gyssegr sancteiddiola’,
Mewn gogoniant llawn:
18Dyrchefaist i’r uchelder,
Caethiwaist ysbail lawer,
Bob rhyw lawn ddwyfol ddawn
Dderbyniaist yn gyflawnder,
I’w cyfranu i blant dynion,
A’r rhai cyndyn, anufuddion,
Fel preswyliai Duw yn Seion,
Deuwch, llawenhawn.
19Bendigedig fyddo ’r Arglwydd,
’R hwn sydd yn ein llwytho beunydd
A daioni a phob dywenydd,
O’i hael drysor llawn:
20Ef yw Duw ein hiechydwriaeth,
Rhydd ddiangfa rhag marwolaeth,
Trwyddo ef, y fuddugoliaeth
Ar bob gelyn gawn.
Dosbarth VI.
Etto.
21Duw yn ddiau a archolla
Ei elynion oll, bob copa
Walltog, a phob un a rodia ’n
Ei gamweddus frad:
22D’wedodd Duw, “Fy mhobl ddyga
Adre’, o Basan bell eu cyrchaf,
Ac o ddyfnder moroedd eithaf
Dygaf hwy i’w gwlad:”
23Fel trochit ti yn ëon
Dy droed yn ngwaed d’ elynion,
A’th gŵn gânt ddigoni ’u chwant,
Cydlyfant y gwaedlifion:
24Gwelsant hwy, O Dduw! ’th fynediant
Yn y cyssegr mewn gogoniant,
Torf a thorf a’th gylchynasant
A’u caniadau mâd:
25O’r blaen yr ai ’r cantorion,
Ar ol y d’ai ’r cerddorion,
Cân y rhai, yn fawl didrai,
Fywiolai ’r nef awelon:
Yn eu mysg yr oedd llangcesau
Heirdd yn canu eu tympanau,
A moliannu wnai miliynau,
Oll mewn hwyl mwynhâd.
Dosbarth VII.
8.7.
26Molwch Dduw yn gyn’lleidfaoedd,
Chwi sy’ o ffynnon Israel lân,
27Yno mae Beniamin fychan,
Gyda ’i lywydd, seinia gân:
Daw t’wysogion enwog Iudah,
Hwythau, a’u cyn’lleidfa ’nghyd;
Zabulon a’i dywysogion,
A rhai Naphtali ’r un pryd.
28Duw, o’i ras a’i garedigrwydd,
A orch’mynodd nerth i ti,
Cadarnhâ, O Arglwydd! etto
’R hyn a wnaethost drosom ni;
29Pan y clywant am ogoniant
Mawr dy babell sanctaidd, lon,
Daw brenhinoedd pell y ddaear
A’u hanrhegion iti ’n hon.
Dosbarth VIII.
9.8.
30Cerydda y cryfion fwystfilod,
Sef uchel benaethiaid y byd,
Rhai gerddant ar balmant o arian,
Mewn balchder a hoender o hyd;
Gwasgara di ’r bobl a garant
Derfysgoedd rhyfeloedd di‐fudd,
Cyfiawnder a heddwch a ffynant,
A hyny yn foliant it’ fydd.
31Fe enfyn yr Aipht bendefigion
Ei doethion i Seion yn syw,
Ethiopia yn brysur o galon,
A estyn ei dwylaw at Dduw;
32Teyrnasoedd y ddaear, cydgenwch
Oll foliant IEHOFAH ’n gyttûn,
Ei enw anfeidrol dyrchefwch,
Duw arall nid oes ond ei hun.
33’R hwn ferchyg ar nefoedd y nefoedd,
Y rhai oedd erioed, wele ef
Yn anfon ei lef yn llef nerthol,
Hi gryna y ddaear a’r nef;
34O! rhoddwch gadernid i’r Arglwydd,
Duw Israel, ei Frenin, a’i fri,
Cadernid ei nerth drwy ’r wybrenydd
Arddengys yn hysbys i ni.
35Ofnadwy, O Dduw! wyt yn Seion,
Duw Israel, ei bobl, yw ef,
Fe ’u nertha, cyflawna ’u hanghenion,
Fe ’u gwrendy, fe ettyb eu llef;
Bendigaid f’o enw Duw Iago,
Dyrchafer, dyrchafer ei glod,
Trwy ’r nefoedd a’r ddaear tra fyddo
Y nefoedd a’r ddaear mewn bod.
Nodiadau.
Amlwg yw i Dafydd gyfansoddi y gân ardderchog hon i’w chanu ar yr achlysur o ddygiad yr arch o Ciriath‐Iearim i Ierusalem, i’r babell a barotoisai efe iddi ger llaw ei dŷ ei hun, ar fynydd Seion (2 Sam vi.); neu ynte yn mhen blynyddoedd wedi hyny, er coffadwriaeth am yr amgylchiad hwnw. Dywed yr hanes fod Dafydd yn dawnsio â’i holl egni ger bron yr Arglwydd y dydd hwnw; ac yn y salm hon y mae ei enaid a’i awen yn dawnsio yr un modd. Hon yn ddiau yw un o ganiadau godidocaf ei awenyddiaeth gyssegredig ef.
Fe wêl y darllenydd fod yr aralleiriad mydryddol yn gŵyro yn mhell oddi wrth ein cyfieithiad awdurdodedig Cymraeg, a’r un Saesneg hefyd, mewn rhai manau. Yn y rhanau hyny dilynir cyfieithiad Dr. Boothroyd gan mwyaf; yr hwn, dybiwn, sydd yn rhoi goleuni ac eglurhâd arnynt. Y mae yn y salm, megys y dywed Pedr fod yn epistolau Paul, “rai pethau anhawdd eu deall;” ïe, rai o’r pethau anhawddaf eu deall yn yr holl Ysgrythyr, medd rhai. Am yr ymadrodd, “Yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon;” wedi dodi golygiadau lliaws o feirniaid arno, dywed Barnes nad oedd un o honynt yn ei foddloni ef, ac nad oedd ganddo un eglurhâd i’w gynnyg arno, am nad oedd yn ei ddeall o gwbl.
Yr ymadrodd, “Mawr oedd mintai y rhai a’i pregethent,” yn adn. 11, a gyfieitha Boothroyd, “Mawr oedd mintai y llangcesi a aethant allan i’w gyhoeddi,” yr hwn a fabwysiedir yn y mydryddiad, fel y gwelir. Cyfeiriad at ddefod merched Israel yn myned allan yn finteioedd i gyfarfod â’r fyddin pan ddychwelai adref yn fuddugoliaethus o faes y rhyfel, i’w llawen gyfarch â chaniadau a dawnsiai; fel Miriam a’r gwragedd ar lan y Môr Coch, a’r merched yn Israel ar achlysur buddugoliaeth Dafydd ar Goliath. Daethai merched o Ierusalem, ac o ddinasoedd ereill, y mae yn llwyr debygol, i ymuno yn gantoresau yn yr orymdaith, pan ddygid yr arch o dŷ Obededom, a chanent ganiadau yr orymdaith wedi hyny yn y dinasoedd a’r wlad.
Yr ymadrodd a goffawyd o’r blaen, “Yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon,” a gyfieitha Boothroyd, “Yr oedd hyny i ni megys pe troisid cysgod angeu yn oleuni disglaer;” sef, pan ddygwyd y genedl i Wlad yr Addewid, ac y dyfethwyd y brenhinoedd o’u blaen, ac i Israel gael heddychol feddiant o’r tir, yr oedd eu cyflwr fel cenedl megys yn oleuni disglaer, mewn cymmhariaeth i’w cyflwr ansefydlog a phrofedigaethus yn yr anialwch yr oeddynt newydd ddyfod allan o hono, lle y buasent am ysbaid deugain mlynedd megys yn teithio ar hyd dyffryn cysgod angeu: Ier. ii. 6.
Etto, cerydda dyrfa y gwaewffyn (adn. 30) — ar ymyl y ddalen, ‘anifail y cyrs.’ Y darlleniad ar ymyl y ddalen a gymmeradwyir gan y rhan fwyaf o feirniaid. Yr oedd llawer o lewod, medd haneswyr, yn llochesu yn y cyrs a dyfent ar lanau yr Iorddonen, ac afonydd Syria a Mesopotamia; a golyga ‘anifail,’ yn hytrach bwystfilod y cyrs, frenhinoedd Syria, fe ddichon, y rhai a ymosodent yn erbyn Israel mewn rhyfel yn fynych, ac a fuont yn orthrymwyr blinion arnynt lawer tro. “Fel y delont yn ostyngedig â darnau arian” (adn. 30), a gyfieitha Gchindlen, “y rhai a rodiant ar balmant o arian.” Felly Boothroyd. Cyfeiriad at orwychedd palasau brenhinoedd y dwyrain, y rhai a arianent loriau eu prif ystafelloedd.
Cymmhwysa yr apostol yr ymadroddion yn adn. 18, “Pan ddyrchefaist i’r uchelder,” at esgyniad Crist i’r nefoedd, a thywalltiad doniau yr Ysbryd Glân ar yr apostolion a’r eglwys ar ddydd y Pentecost: Eph. iv. 8.
Rhenir y salm yn wyth dosran. Yn y cyntaf, agora y bardd y gân â geiriau Moses, a arferai efe wrth godi yr arch yn ei symmudiadau o flaen y gwersyll yn yr anialwch: Num. x. 35. Yna geilw am glodforedd i’r Iehofah, Duw Israel, oddi ar yr ystyriaeth o’i anfeidrol fawredd, a’i ddaioni i’w bobl — i weddwon ac amddifaid, a’r rhai helbulus: adn. 1-6. Yn adn. 7 hyd 10, cynnwysir yr ail ddosran, yn coffau am arweiniad, nawdd, a daioni Duw i Israel yn yr anialwch. Yn y drydedd ddosran, o adn. 11 hyd 14, y mae y Salmydd, wedi iddo goffau o’r blaen am ryfeddodau daioni Duw i’w bobl yn eu gwaredigaeth o’r Aipht, ac yn yr anialwch, yn cyfeirio at ei raslonrwydd iddynt yn ei waith yn coroni yr holl waredigaethau blaenorol yn nghyflawniad ei addewid, drwy eu gosod mewn llawn feddiant o Wlad Canaan, ac o hyny hyd ei ddyddiau ef (y Salmydd):— yma daw at yr orymdaith o dŷ Obededom i Ierusalem, ac y dygir cân y merched i mewn, a’r gwŷr yn ei hatteb. Yn y bedwaredd ddosran, adn. 15 hyd 17, cenir clod mynydd Seion, yr hwn yr oedd Duw Israel yn awr, gyda’i arch, yn myned i gymmeryd meddiant o hono yn gartref i breswylio ynddo. Y mae yr orymdaith weithian yn agoshau i Seion. Yn y bummed ddosran, adn. 18, y mae yr orymdaith wedi esgyn i ben mynydd Seion, a’r arch wedi ei disgyn oddi ar ysgwyddau y Lefiaid, a’i dodi yn nghafell y babell a wnaethai Dafydd iddi. Cynnwysa y chweched ddosran, o adn. 19 hyd 23, gân o foliant ar yr achlysur dedwydd. Y seithfed ddosran, o adn. 24 i 27 — trefn yr orymdaith, y llwythau, y cantorion, a’r cerddorion, a’r gwyryfon. A’r wythfed, a’r olaf, megys yn oddaith danllyd o fawl.
Wrth ddarllen y salm odidog hon, yr ydym fel yn gweled yr orymdaith orfoleddus a bortrëadir ynddi fel yn fyw o’n blaen, ac megys yn teimlo ein hysbrydoedd yn cael eu twymno yn ngwres y clodforedd tanllyd a offrymir i Dduw ynddi, fel yr ydym i raddau yn gallu cydgyfranogi yn llawenydd Dafydd a’i bobl ar yr achlysur dedwydd hwnw.

Currently Selected:

Salmau 68: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 68