YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 76:12

Salmau 76:12 SC1875

Ysbryd tywysogion cedyrn Dỳr efe â’i allu mawr: Rhyfedd ydyw, ac ofnadwy I frenhinoedd daear lawr. NODIADAU. A barnu mai Asaph y gweledydd ydoedd awdwr y salmau hyn, ymddengys ddarfod iddo, ar ol cyfansoddi y salm o’r blaen, megys yn mherson Heseciah, gyfansoddi hon drosto ei hun a’r bobl ar yr un testyn; sef, dinystr yr Assyriaid. Gesyd y Deg a Thrigain “Salm neu Gân i’r Assyriaid” yn deitl o’i blaen hi. Er na ddodir y teitl hwn iddi yn y copïau Hebreaidd hynaf, dengys y golygid hi yn gân ar yr achlysur hwnw er yn lled foreu; ac y mae rhai ymadroddion yn y salm yn bur ffafriol i’r dybiaeth: megys, “Tori saethau y bŵa, y darian, a’r frwydr;” “Y cedyrn galon yn huno eu hûn;” “Rhoi y cerbyd a’r march i gysgu.” Yr oedd dinystr yr Assyriaid y waredigaeth hynotaf, a’r fwyaf oll a gawsai Ierusalem, er pan wnaethai Dafydd hi yn brifddinas ei lywodraeth; canys ni buasai yn y fath berygl o gael ei llwyr ddinystrio erioed cyn hyny. Yr oedd y waredigaeth hono gan hyny yn destyn arbenig i feirdd a phrophwydi Iudah i ganu arno. Canodd Esaiah, y prif‐fardd Hebreiaidd, gathlau gogoneddus arno; ac felly y gwna yr Asaph hwn yn y salm hon.

Video for Salmau 76:12

Free Reading Plans and Devotionals related to Salmau 76:12