YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 76

76
SALM LXXVI.
8.7.4.
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm neu Gân Asaph.
1Hynod ydyw Duw yn Iudah,
Mawr ei enw ’n Israel yw;
2Yn Nghaersalem mae ei babell,
Seion lân, ei drigfan yw:
3Torodd yno, & c.,
’R saethau, ’r bŵa, ’r dalch, a’r clêdd.
4Llawer iawn gogoneddusach
Wyt ti, Seion, mynydd Duw,
Na mynyddoedd yr ysbeilwyr,
Lle mae trawsder o bob rhyw:
Nid oes derfyn, & c.,
Ar eu gwangc ysbeilgar hwy.
5Darfu am y cedyrn galon,
Huno wnaent eu hûn ynghyd;
Collai ’r gwŷr o nerth eu dwylaw,
Darfu am eu grym i gyd:
Llawenycha, & c.,
Y trueiniaid oll am hyn.
6Gan dy gerydd, O Dduw Iacob!
Rhoed y march a’r cerbyd mawr;
Barent dwrf a dychryn dirfawr,
I gydgysgu ar y llawr:
Darfu ’u terfysg, & c.,
Byth nis gallant godi mwy.
Rhan II.
8.7.
7Ti, O Dduw! wyt wir ofnadwy:
Pwy o gedyrn daear gron,
Saif o’th flaen pan ’nyno ’th ddigter?
Cwympant — toddant ger dy fron.
8Peraist glywed barn o’r nefoedd,
Ofnai ’r ddaear, toddi wnaeth;
9Pan gyfododd Duw i farnu,
Ac achub ei drueiniaid caeth.
10Diau poeth gynddaredd dynion,
Arglwydd, a’th folianna di;
Gweddill eu cynddaredd ynfyd
A waherddi er eu bri.
11Addunedwch i Dduw, telwch —
Chwi bawb sydd o’i amgylch ef;
Dygwch anrheg i’r ofnadwy
Sy n preswylio yn y nef.
12Ysbryd tywysogion cedyrn
Dỳr efe â’i allu mawr:
Rhyfedd ydyw, ac ofnadwy
I frenhinoedd daear lawr.
Nodiadau.
A barnu mai Asaph y gweledydd ydoedd awdwr y salmau hyn, ymddengys ddarfod iddo, ar ol cyfansoddi y salm o’r blaen, megys yn mherson Heseciah, gyfansoddi hon drosto ei hun a’r bobl ar yr un testyn; sef, dinystr yr Assyriaid. Gesyd y Deg a Thrigain “Salm neu Gân i’r Assyriaid” yn deitl o’i blaen hi. Er na ddodir y teitl hwn iddi yn y copïau Hebreaidd hynaf, dengys y golygid hi yn gân ar yr achlysur hwnw er yn lled foreu; ac y mae rhai ymadroddion yn y salm yn bur ffafriol i’r dybiaeth: megys, “Tori saethau y bŵa, y darian, a’r frwydr;” “Y cedyrn galon yn huno eu hûn;” “Rhoi y cerbyd a’r march i gysgu.”
Yr oedd dinystr yr Assyriaid y waredigaeth hynotaf, a’r fwyaf oll a gawsai Ierusalem, er pan wnaethai Dafydd hi yn brifddinas ei lywodraeth; canys ni buasai yn y fath berygl o gael ei llwyr ddinystrio erioed cyn hyny. Yr oedd y waredigaeth hono gan hyny yn destyn arbenig i feirdd a phrophwydi Iudah i ganu arno. Canodd Esaiah, y prif‐fardd Hebreiaidd, gathlau gogoneddus arno; ac felly y gwna yr Asaph hwn yn y salm hon.

Currently Selected:

Salmau 76: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 76