YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 77

77
SALM LXXVII.
8.8.8.
I’r Pencerdd, i Ieduthun, Salm Asaph.
1A’m llef ar Dduw y gwaeddais i,
Ac ef wrandawodd ar fy nghri;
2Yn nydd fy nhrallod ceisiais ef:
Fy archoll redodd nos a dydd,
A gwrthod wnai fy enaid prudd
Bob rhyw ddyddanwch dan y nef.
3Pan gofiwn Dduw, cythryblu wnaeth
Fy ysbryd — mwy terfysglyd aeth,
A chwynais yn ofidus iawn:
4Deliaist fy llygaid ar ddihûn,
A synodd arnaf, druan ddyn,
A methu a llefaru wnawn.
5-6’Rwy ’n cofio ’r gân a ganwn gynt,
Pan oeddwn mewn ystormus wynt,
Ar lawer nos o d’wyllwch mawr;
Ymddiddan ’r wyf â’m calon wan,
A dytal chwilio o fan i fan
Mae’m hysbryd trist, gan ddisgwyl gwawr.
7Ai yn dragywydd bwrw Duw
Mewn soriant heibio f’ enaid gwyw?
Ac oni bydd ef boddlawn mwy?
8A ddarfu am byth drugaredd nef?
A balla ei addewid ef?
A raid i’m harcholl waedu ’n hwy?
Rhan II.
8.7.
9A anghofiodd Duw trugarog
Drugarhau? a gauodd ef
O dan glô ei gyfiawn soriant
Byth, holl dosturiaethau ’r nef?
10Ond mi dd’wedais, Dyma ’ngwendid
I — fy ffydd sydd yn llesgau:
Fe anghofia’r Arglwydd bobpeth
Cyn ’r anghofio drugarhau.
Cofiaf finnau hen flynyddoedd
Deheulaw y Goruchaf gynt;
11Cofiaf ei weithredoedd nerthol,
A’i holl wyrthiau, cofiaf hwynt;
12Am ei holl waith y myfyriaf,
Am ei ryfeddodau mwy
Y chwedleuaf yn wastadol —
Cysur gaf o’u cofio hwy.
13Mae dy ffordd, O Dduw! i’w ’nhabod
Yn y cyssegr:— Pa Dduw sy
Mor ofnadwy mewn gogoniant,
A phob mawredd, ag wyt ti?
14Ti yw ’r Duw erioed ddangosaist
Ryfeddodau mawrion iawn,
A dy nerth yn mysg y bobloedd
Ninnau ’th bobl a’u coffawn.
15Ti a’th gadarn fraich waredaist
Feibion Iago ac Ioseph gynt;
16Yna ’r dyfroedd a dy welsant,
Dychryn Duw a’u daliodd hwynt;
Y dyfnderau a gynnhyrfwyd,
17Gwlaw yn genllif ddaeth i lawr,
Twrf a gerddai trwy’r wybrenau
I gyhoeddi d’ enw mawr.
Cerddai ’th saethau tanllyd allan,
18Clywid twrf dy daran fawr;
Mellt lewyrchent drwy y ddaear,
Crynai hithau drwyddi ’n awr:
19Gwnei dy ffordd drwy eigion dyfnfôr,
Nid adwaenir d’ ôl ychwaith;
Anweledig yw dy lwybrau
Yn y dyfroedd dyfnion maith.
20Dy bobl fel defaid a dywysaist
Drwy ’r anialwch flwyddau hir,
Trwy law Moses, a llaw Aaron,
Nes eu dwyn i Ganaan dir.
Nodiadau.
Yn amser pa drychineb gwladol ar Iudah ac Ierusalem y cyfansoddwyd y Salm hon, anhawdd penderfynu. Dichon mai pan yr oedd “dyfroedd yr afon yn gryfion ac yn fawrion, sef brenin Assyria, a’i holl ogoniant wedi esgyn ar holl afonydd,” ac yn llenwi holl geulenydd y wlad; fel y disgrifia Esaiah (pen. viii. 7, 8), ydoedd amser y salm. Yr oedd Asaph y gweledydd, yr hwn, fe dybir, oedd awdwr y rhan fwyaf o’r Salmau ar yr enw, yn gydoeswr âg Esaiah, a mab iddo yn ysgrifenydd y llywodraeth dan y brenin hwnw (Esa. iii. 6); ond yr oedd gwahaniaeth dirfawr rhwng Esaiah y prophwyd ac Asaph y gweledydd. Nid ydyw y prophwyd yn achwyn un gair wrth sôn am yr Assyriaid, a’r anrhaith a fygythient ei wneyd yn Iudah ac Ierusalem; ond eu herio a’u dirmygu, a rhagfynegu eu cwymp a’u dinystr, a wna efe, yn ysbryd ac iaith un mwy na choncwerwr; tra y mae Asaph yn cwyno ac yn ochain fel un ar ddarfod am dano mewn ofn ac anobaith. Yr oedd ffydd y prophwyd yn gadarn a diysgog fel mynydd Duw, a ffydd y gweledydd yn gyffelyb i gorsen ysig, neu lîn yn mygu. Seiliai y prophwyd sicrwydd ei ffydd yn ngwaredigaeth Ierusalem a gorseddfaingc Dafydd rhag y dinystr oedd yn eu bygwth, ar gyfammod Duw â Dafydd, a’r addewid o Emmanuel — y Messïah oedd i gael ei gyfodi o dŷ Dafydd, i eistedd ar ei orseddfaingc ef. Seiliai Asaph yntau ei obaith crynedig ar y “gwyrthiau gynt,” a wnaethai Duw er gwaredu y genedl etholedig. Yr oedd y waredigaeth yn fater o sicrwydd diammheuol yn meddwl y prophwyd, ond megys yn fater o obaith a dymuniad gan y gweledydd. Pe buasai Asaph gyda’r dysgyblion yn yr ystorm ar Fôr Tiberias, buasai, ond odid, yn fwy ofnus nag un o honynt. Buasai yn gydymaith o’r un ysbryd i’r ddau ddysgybl oedd yn myned i Emmaus y boreu hwnw.

Currently Selected:

Salmau 77: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 77