YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 78

78
SALM LXXVIII.
7.6.
Maschil i Asaph.
1Fy mhobl, gwrandaw ’m cyfraith,
Gogwyddwch glust i lawr,
At eiriau pur fy ngenau,
Yn fychain ac yn fawr;
2Fy ngenau mewn diareb
Agoraf — traethaf fi
3Ddammegion pell o’r cynfyd,
’Ddysgai ’n tadau i ni.
4Ni chelwn rhag eu meibion,
Gan draethu i’r oes a ddaw,
Fawl Duw, a’r rhyfeddodau
Wnaeth ei alluog law;
5Tystiolaeth sicrhaodd
Efe yn Iago, ’i sant,
A chyfraith bur yn Israel,
Fel dysgent hwynt i’w plant.
6Fel gwypai ’r plant a enid
Ffyrdd doethion Duw, a’i drefn,
Ac y mynegent hwythau
I’w plant eu hun drachefn;
7Fel rho’ent ar Dduw eu gobaith,
Heb byth anghofio ’i waith,
Ond cadw ei orch’mynion
Yn ol yr union raith.
8Ac na baent fel eu tadau ’n
Genhedlaeth gyndyn gâs,
Cenhedlaeth wrthryfelgar
Yn erbyn Duw a’i ras;
Cenhedlaeth ni osodai
Ei chalon ar iawn fyw;
Cenhedlaeth nad oedd ffyddlawn
Ei hysbryd gyda Duw.
Rhan II.
7.6.
9Ymwisgai meibion Ephraim
Yn arfog â’u bwäau;
Yn nydd y frwydr troisant
Eu cefnau, gan lwfrhau;
10O herwydd na chadwasent
Gyfammod gwir y nef,
Eithr gwrthodasant wrandaw
Ar air ei gyfraith ef.
11Anghofient ei weithredoedd
A’i ryfeddodau maith,
A ddangosasai iddynt
Hwy lawer, lawer gwaith;
12Gwnai wyrthiau o flaen eu tadau
Yn nhir yr Aipht, a Ham,
Tarawodd yn maes Soan
Rhai wnaethent â hwy gam.
13Fe barthodd y dwfn eigion,
A thrwodd aeth â’u llu,
Fe wnaeth i’r dyfroedd sefyll
Yn bentwr o bob tu;
14Y dydd efe a’u t’wysodd
A chwmmwl disglaer glân,
Ac hefyd fe ’u harweiniodd
Y nos â cholofn dân.
15Fe holltodd greigiau ’r anial,
A thynodd ddŵr i lawr,
O honynt i’w diodi,
Fel o ddyfnderau mawr;
16O’r graig fe dynodd ffrydiau
Llifeiriol cryfion iawn,
I’w dilyn yn afonydd
O ddyfroedd gloewon llawn.
Rhan III.
7.6.
17Er hyny chwanegasant
I’w erbyn bechu ’n gâs,
Gan ddigio y Goruchaf
Yn yr anialwch cras;
18Temtiasant Dduw ’n eu calon,
Gan flysig ofyn bwyd,
19A llefarasant hefyd
I’w erbyn mewn drwg nwyd.
Dywedent hwy, “A ddichon
I Dduw arlwyo gwledd
Yn yr anialwch yma,
Y sydd mor dlawd a’r bedd?
20Addefwn iddo daraw
Y graig, a thynu lli’
O ddyfroedd oerion allan
I dori ’n syched ni.
A all ef roddi bara?
All ef ddarparu cig
I’w bobl yn ’r anialwch?”
Gofynent yn eu dig:
21A chlybu ’r Arglwydd hyny,
A thân ei ddig yn fflam
Ennynai ’n erbyn Iacob
Ac Israel am eu cam.
22Am na chredasent iddo,
Ac na obeithient chwaith,
I’w allu a’i ffyddlondeb,
Er gwel’d ei ryfedd waith:
23Er iddo ef orchymyn
I’r wybren oddi fry,
Ac agor drysau ’r nefoedd
24-25I ddanfon bwyd i’w llu.
Rhan IV.
7.6.
26Fe yrodd y dwyreinwynt
Yn genad ar ei daith,
A galwodd y deheuwynt
’Dd’od allan at ei waith:
27A chig a wlawiodd arnynt
Fel llwch y ddae’r o stôr,
Ac adar braisg asgellog
Fel tywod mân y môr.
28Gwnaeth iddynt gwympo felly
O fewn eu gwersyll mawr,
O gylch eu preswylfaoedd
Yn dyrau ar y llawr;
29Ac felly y bwytasant,
A llwyr ddiwallwyd hwy —
Fe barodd eu dymuniad
Yn llawn, a llawer mwy.
30Ni ddarfu iddo ommedd
’R hyn flysient wrth eu nwyd;
Er hyny, tra ’n eu safnau
’R oedd y blysiedig fwyd,
31Digllonedd Duw gynneuodd
I’w herbyn — lladdai ’n llym
Wŷr pena’u cynnulleidfa,
Fe ’u cwympodd yn ei rym.
Rhan V.
7.6.
32Er hyn pechasant etto,
Ac ni chredasant ddim,
Er gwel’d ei ryfeddodau,
A’i fawr anfeidrol rym:
33Am hyny yntau dreuliodd
Eu dyddiau ’n flin i lawr,
A llanwodd eu blynyddau
Ag ofn a dychryn mawr.
34Pan laddai ef hwynt felly
Hwynthwy a’i ceisient ef;
Dychwelent at Dduw ’n foreu,
Dyrchafent ato ’u llef;
35A chofient mai Duw ’n unig
Oedd Craig eu nawdd yn awr,
Mai ’r unig Dduw Goruchaf
Oedd eu Gwaredydd mawr.
Rhan VI.
M. S.
36Er hyn, rhagrithio ’r oeddynt â’u
Ffeilsion eneuau iddo,
A d’wedyd celwydd du ei nôd
A wnaent â’u tafod wrtho.
37A’u calon fyth heb fod yn iawn
A ffyddlawn i’w gyfammod;
38Ac etto ef, gan drugarhau,
Drachefn wnai faddeu ’u pechod.
Trodd ymaith ei ddigllonedd llawn
Yn fynych iawn oddi wrthynt;
Ac ni thywalltodd ei holl lid
Yn gawod danllyd arnynt.
39Can’s cofiai nad o’ent hwy ond cnawd,
Breuol a thlawd ei natur;
Neu fel ond awel wynt a chwyth,
Na ddychwel byth o’i hantur.
Rhan VII.
M. S.
40Pa sawl gwaith y digiasant Iôr
Yn ngoror yr anialwch,
Ac y’i gofidiwyd ganddynt hwy
Pan deithient trwy ’r diffaethwch?
41Troisant, profasant Dduw fel hyn —
Gosodent derfyn hefyd
I Sanct yr Israel, i’w sarhau
Yn eu calonau celyd.
42Ni chofient hwy ei law, a fu
Yn eu gwaredu ’n dirion;
Na’r dydd y dygai hwynt o dỳn
Rwymau y gelyn creulon.
43Fel yn yr Aipht bu yn eu gŵydd
Yn gosod ei arwyddion,
Ac yn maes Soan gwnai amlhau
Ei ryfeddodau mawrion.
44Afonydd Ham yn waed a drodd,
A dychryn oedd eu gweled,
A’u ffrydiau dyfroedd yn mhob pant,
Fel nas gallasant yfed.
45Anfonodd gymmysg‐bla yn eu plith,
Trom oedd ei felldith arnynt;
A thrwy eu gwlad, ofnadwy haint
Y llyffaint a’u difäynt.
46I’r locust, ac i bryf y rhwd,
Y rhoes eu cnwd i’w ysu;
47Eu gwinwydd a’u syc’morwydd tew
Cenllysg a rhew a’u tarfu.
48Eu hanifeiliaid yr un modd
I’r cenllysg roddodd hefyd,
A saethu mellt o’i gwmmwl wnaeth
I ddifa ’u helaeth olud.
49Anfonodd arnynt megys cledd
Gynddaredd ei lidiawgrwydd;
Digter, cyfyngder, a mawr ŵg,
Angylion drwg yn aflwydd.
50Cymmhwysodd ffordd i’w ddig dibaid:
Eu henaid ni attaliodd
Ef oddi wrth angeu — yn ei lid,
I’r haint eu bywyd roddodd.
51Holl gyntafanedigion tir
Yr Aipht yn wir darawodd;
Holl flaenion pebyll Ham, a’u nerth,
I angeu certh a roddodd.
52Ei bobl ei hunan gyru wnaeth
Fel defaid o’r caethiwed;
Fel praidd arweiniodd hwynt yn hir
Yn yr anialdir caled.
53Diogel tywysodd ef ei blant
Fel nad ofnasant niwed:
Y môr wnai doi ’u gelynion hwy,
Nad oedd un mwy i’w weled.
Rhan VIII.
8.7.4.
54Hwythau ddug efe i oror
Hyfryd ei sancteiddrwydd ef;
Sef, i’r mynydd hwn ennillodd
A’i ddeheulaw gadarn gref:
55Gyrodd allan, & c.,
Y cenhedloedd oll o’u blaen.
Rhanodd iddynt etifeddiaeth
Fras, wrth linyn coelbren — gwnaeth
Ef i lwythau Israel drigo ’n
Mhebyll gwlad y mêl a’r llaeth:
Rhoddodd iddynt, & c.,
Bob daioni i’w fwynhau.
56Ond er hyny, temtio a digio
Y Goruchaf Dduw drachefn
Wnaethant hwy, gan wrthod cadw
Ei dystiolaeth ef, a’i drefn:
57Yn anffyddlawn, & c.,
Fel eu tadau cilient hwy.
Megys bŵa ysigedig
Troi ’n dwyllodrus wnaethant hwy:
58Digio Duw â’u huchel fanau —
Gyru arno eiddigedd mwy:
A’u cerfiedig, & c.,
Ddelwau y digiasant ef.
59Duw a welodd eu ffieidd‐dra,
Edrych wnaeth i lawr o’r nef —
Dirfawr y ffieiddiodd Israel;
60Pabell Siloh adawodd ef:
Ni ddychwelodd, & c.,
Byth i babell Siloh mwy.
Rhan IX.
8.7.4.
61Arch ei nerth ei hun a roddes
I fyn’d i gaethiwed tỳn,
A’i ogoniant i’w ddirmygu
Gan y gelyn y pryd hyn:
62Ac i’r cleddyf, & c.,
Rho’es ei bobl yn ei ddig.
63Tân a ysodd eu gwŷr ieuaingc;
Fel y darfu am danynt hwy,
Ac nad oedd neb i briodi
Teg wyryfon Israel mwy:
Darostyngwyd, & c.,
Hwy dan anfoddlonrwydd Duw.
64Eu hoffeiriaid hwynt a laddwyd,
Clêdd a wanai drwy eu côl;
Ac ni wylai ’u gwragedd gweddwon
Chwaith mewn galar ar eu hol:
Felly gwasgwyd, & c.,
Arnynt i drueni mawr.
65Yna y deffrôdd Iehofah
Fel o’i gwsg dadebra dyn,
Megys cadarn pan gynnhyrfer,
Floeddia allan gwedi gwin:
66T’rawai ’r gelyn, & c.,
O’i du ol i fythol warth.
67Fe wrthododd babell Ioseph,
Ni etholodd Ephraim mwy;
68Ond llwyth Iudah a ddewisodd,
Ato trodd oddi wrthynt hwy:
Ac i Siloh, & c.,
Byth ni ddaeth ei arch drachefn.
Hoffodd fynydd Seion — 69yno
’R adeiladai ’i lys dilyth,
Fel y ddaear a seiliasai
Ar ei gwadnau ’n gadarn byth:
Yno erys, & c.,
Gyda ’i bobl o oes i oes.
70-71Fe etholodd Dafydd hefyd
Iddo ’n was: cymmerodd ef
O gorlanau ’r defaid — galwai
E’ i fugeilio praidd y nef:
Bugail ffyddlawn, & c.,
A fu Dafydd iddynt hwy.
72’N ol perffeithrwydd calon gywir
Porthodd hwynt yn ddyfal iawn,
Ac fe ’u trinai wrth gyf’rwyddyd
Ei ddwy law, o foreu i nawn:
Felly cofiodd, & c.,
Duw ’n dosturiol am ei braidd.
Nodiadau.
Y mae ystori y salm faith hon yn cael ei hadrodd laweroedd o weithiau drosodd yn yr Ysgrythyr. Adroddodd Moses hi droion wrth y genhedlaeth hono o blant Israel a waredwyd o’r Aipht drwy ei law ef; a’r un ystori oedd testyn ei gân olaf cyn marw.
Adroddodd Iosuah, yntau cyn marw, brif bethau ac amgylchiadau yr hanes wrth y llwythau yn Sichem: Ios. xxiii. a xxiv. A Samuel wedi hyny, wrth ddeiliaid ei weinidogaeth ef. Cyfeiria Dafydd yntau at lawer o’r un pethau yn ei salmau. Adroddir hi etto yn helaeth yn Salmau cv. a cvi. Coffhâ pob un o’r prophwydi lawer o’r digwyddiadau perthynol iddi. Ac ä Stephan, yr efengylwr a’r merthyr cyntaf dan y Testament Newydd, drosti yn lled fanwl (Act. vii.): a Phaul hefyd (Act. xiii). Yr oedd y dynion sanctaidd hyn oll, o Moses hyd Paul, yn credu yn nilysrwydd gwirionedd gwyrthiau yr hanes a adroddent fel hyn. Y mae lliaws o athrawon, a dybir gan lawer eu bod yn golofnau doethineb yn y dyddiau hyn, yn cymmeryd arnynt benderfynu na chyflawnwyd gwyrth erioed, ac na chyflawnir gwyrth byth — fod y fath beth yn ammhossibl. Haerant nad yw yr holl hanes ysgrythyrol am wyrthiau yn ddim amgen na ffugchwedl; a dirmygant bawb a’i credant fel gwirionedd, fel plantos bwhwmanllyd ac anwybodus. Os derbyniwn ddoethineb y doethion hyn, rhaid i ni gredu nad oedd Moses a’r prophwydi, a Christ ei hun, a’i apostolion, yn ddim amgen na dynion ehud, yn cael eu cylcharwain gan anwybodaeth a hygoeledd eu dychymygion ffol; neu ynte, yn dwyllwyr drygionus, a rhai yn asio celwydd er mwyn dallu a chamarwain dynion. Ond nyni a ddewiswn yn hytrach gwympo gyda doethion Duw, na sefyll gyda doethion y byd hwn.
Y mae y salm yn rhoddi golygfa ryfedd ar lygredigaeth a thrueni dyn, a mawredd amynedd a gras Duw tuag ato yn nrych hanes cenedl plant Israel:— Pechod yn amlhau, a gras yn rhagor amlhau. Y bobl yn pechu etto, wedi gweled holl fawrion weithredoedd Duw tuag atynt mewn gwyrthiau o ddaioni iddynt, ac yn ei geryddon arnynt am eu pechodau, a Duw yn tosturio, yn arbed, ac yn maddeu drachefn a thrachefn, ac yn eu gwaredu o’u cyfyngderau pan waeddent arno. Gwelir yma ddrygioni a llygredigaeth calon dyn ar ei eithaf a’i waethaf; ond ni ryfygem ddywedyd y gwelir yma amynedd, gras, a thrugaredd faddeuol Duw ar eu heithaf a’u goreu hwy. Canys y mae ynddo ef
“Ryw foroedd o drugaredd
Fwy na feddyliodd dyn.”
Y mae y disgrifiad a roddir yn y salm o Iehofah yn ymadael o Siloh, yn rhoddi ei hun a’i arch i fyny yn garcharor yn llaw y gelyn, sef y Philistiaid (1 Sam iv.), ac yn deffro fel un o gysgu, ac yn taraw Dagon yn Asdod, a’r gelyn o’i du ol, â gwarth tragywyddol, yn fawreddig, nerthol, a chyffrous iawn! Wedi dychwelyd o dir y gelyn, ni ddychwelodd yn ol i’r hen babell yn Siloh, yr hon oedd yn llwyth Ephraim; ond etholodd lwyth Iudah, a thrigodd yn Ciriath‐iearim, o fewn rhandir Iudah, hyd oni chyfododd Dafydd, ei etholedig frenin, i barotoi iddo babell yn Ierusalem, lle y gwnaeth efe ei drigfa gyda’i bobl hyd ddiwedd tymmor goruchwyliaeth yr hen gyfammod.

Currently Selected:

Salmau 78: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 78