YouVersion Logo
Search Icon

Salmau 85

85
SALM LXXXV.
7.6.
I’r Pencerdd, Salm meibion Corah.
1Graslawn, O Arglwydd! fuost
Bob amser i dy dir,
Dychwelaist Iago adref
O’i flin gaethiwed hir;
2Maddeuaist anwireddau
Dy bobl; cuddiaist di
Eu holl bechodau — 3troaist
Dy lid oddi wrthym ni.
4O Dduw ein hiachawdwriaeth!
Tro ni yn ol drachefn:
Tor ymaith dy ddigofaint
Yn ol dy rasol drefn.
5Ai byth y digi wrthym?
Ac a estyni ’th lid,
O oes i oes i ennyn
I’n herbyn ni o hyd?
6Ai ni throi etto atom,
O Arglwydd! i’n bywhau,
Fel caffo ’th bobl ynot
Ti achos llawenhau?
7I ni, O Arglwydd! dangos
Dy hen drugaredd lawn;
Dod i ni ’th iachawdwriaeth,
A ninnau lawenhawn.
Rhan II.
7.6.
8Gwrandawaf beth a ddywed
Yr Arglwydd Dduw (mae’n fraint),
Can’s ef a draetha heddwch
I’w bobl, ac i’w saint;
Ond at ynfydrwydd delwau
Boed iddynt ochel troi,
Ond rhodio llwybrau ’i ddeddfau
E ’n wastad heb osgoi.
9Mae ’i iechyd ef yn agos
I’r rhai a’i hofno ’n wir,
Fel byddo i’w ogoniant
I drigo yn ein tir;
10Trugaredd a gwirionedd
Gyfarfu yr un pryd;
Cyfiawnder pur a heddwch
Wnaent ymgusanu ’nghyd.
11Gwirionedd dardda o’r ddaear
Yn gnwd bendithiol mawr,
Cyfiawnder mewn boddlonrwydd
O’r nef a edrych ’lawr;
12-13Yr Arglwydd rydd ddaioni,
A’n daear rydd ei ffrwyth,
A’i phobloedd a’i moliannant
Ef, o bob iaith a llwyth.
Nodiadau.
I ryw un o feibion Corah, ar neu wedi y dychweliad o gaethiwed Babilon, y priodolir y salm hon. Yr oedd cyflwr y dychweledigion cyntaf o’r caethiwed yn Ierusalem a gwlad Iudah yn isel a thrallodus iawn am dymmor, fel y gwelir yn y disgrifiadau a roddir o hono gan Ezra a Nehemiah. Gweddïa y mab Corah hwn am amser gwell — am fod i’r Arglwydd mewn trugaredd symmud yr arwyddion o’i anfoddlonrwydd oedd etto yn aros ar ei bobl, a’u hadferu i’w ffafr ac i’w breintiau, gan goffhau ei raslonrwydd i’w bobl yn eu hadfyd, mewn amserau a aethant heibio, fel ei ddadl dros ei weddi. Ymbilia ar Dduw am iddo eu troi hwy ato ei hun, ac iddo yntau droi atynt hwythau, i’w bywhau a’u bendithio. Dychwelasid lliaws mawr o honynt o wlad eu caethiwed i’w gwlad eu hun; ond yr oeddynt er hyny yn isel a thrallodus iawn eu hamgylchiadau, dan waradwydd a dirmyg y cenhedloedd o’u hamgylch.
Wedi offrwm ei weddi, disgwylia y gweddïwr am attebiad iddi: “Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw,” medd ef; ac y mae yn hyderu y bydd yn atteb grasol a chysurlawn — “canys efe a draetha heddwch i’w bobl ac i’w saint.” Felly y gwnaeth efe i’w bobl a’i saint bob amser pan alwent arno, ac ni thyr efe ar ei arfer i ninnau, ei bobl ef, yn awr. “Ond na throant at ynfydrwydd:” — at ynfydrwydd delwau ac eilunaddoliaeth. Troi at yr ynfydrwydd hwnw yn benaf dim a ddygasai aflwydd a thrueni y caethiwed yn Babilon arnynt; ac os tröent at yr ynfydrwydd hwnw drachefn, ar ol eu dychweliad i’w gwlad, ni allent ddisgwyl am i Dduw draethu heddwch iddynt, ond y byddai eu hamryfusedd diweddaf yn waeth na’r cyntaf. Yna y mae yr oracl yn atteb, “Diau fod ei iechyd ef yn agos,” & c. — fod eu Duw yn eu cofio, ac ar ymweled â’i bobl, i’w bendithio a’u llwyddo. Cysurwyd hwynt â llawer o addewidion mawrion a gwerthfawr yn y tymmor hwnw drwy eneuau y prophwydi Haggai a Zechariah; ac adnewyddwyd yr addewid o’r Messiah iddynt drachefn a thrachefn gan y prophwydi hyny. Yr ydoedd yr iechyd — yr Iachawdwr a’r iachawdwriaeth fawr drwyddo ef — yn awr yn dyfod yn bethau agos; ac yna, ynddo ef y byddai trugaredd a gwirionedd yn ymgyfarfod, a chyfiawnder a heddwch yn ymgusanu — gwirionedd yn tarddu o’r ddaear, a chyfiawnder yn edrych i lawr o’r nefoedd — yr Arglwydd yn rhoddi daioni, a’r ddaear yn rhoi ei ffrwyth. Amseroedd adferiad pob peth wedi gwawrio.

Currently Selected:

Salmau 85: SC1875

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salmau 85