YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 29

29
Yr Aifft
1Roedd hi ddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y deuddegfed diwrnod o’r degfed mis.#29:1 deuddegfed diwrnod o’r degfed mis Ionawr 7, 587 cc mae’n debyg. Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: 2“Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu’r Pharo,#29:2 Pharo Apries, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Hoffra, oedd yn frenin yr Aifft o 589 i 570 ccgw. Jeremeia 44:30 a 37:5,11. brenin yr Aifft, a proffwydo yn ei erbyn e a holl wlad yr Aifft. 3Dyma rwyt ti i’w ddweud, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:
Dw i’n mynd i ddelio gyda ti!
y Pharo, brenin yr Aifft;
y ddraig fawr sy’n gorwedd
yng nghanol ei ffosydd.
“Fi piau afon Nîl,” meddet ti,
“a fi sydd wedi’i chreu hi.”
4Bydda i’n rhoi bachyn yn dy ên
ac yn dy lusgo allan o’r dŵr
gyda physgod o’r ffosydd yn
glynu wrth dy groen.
5Bydda i’n dy daflu i’r anialwch,
ti a physgod y ffosydd.
Byddi’n gorwedd, heb dy gladdu,
i farw ar dir agored –
yn fwyd i’r anifeiliaid ac i’r adar.
6Yna bydd pawb sy’n byw yn yr Aifft
yn gweld mai fi ydy’r ARGLWYDD.
Rwyt wedi bod yn ffon fagl wan fel brwynen
i bobl Israel bwyso arni.
7Dyma nhw’n gafael ynot, ond dyma ti’n torri
ac yn bwrw eu hysgwydd o’i lle.
Wrth iddyn nhw bwyso arnat dyma ti’n hollti
a gadael eu cluniau’n sigledig.#Eseia 36:6; 2 Brenhinoedd 18:21
8“‘Felly, dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i’n anfon byddin i ymosod arnat ti, a bydd yr holl bobl a’r anifeiliaid yn cael eu lladd. 9Bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag. Byddan nhw’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.
“‘Am dy fod wedi dweud, “Fi piau afon Nîl, a fi sydd wedi’i chreu hi,” 10dw i’n mynd i ddelio gyda ti a dy ffosydd. Dw i’n mynd i droi gwlad yr Aifft yn anialwch diffaith yr holl ffordd o Migdol yn y gogledd i Aswan yn y de, sydd ar y ffin gydag Ethiopia.#29:10 Ethiopia Hebraeg, Cwsh, sef ardal i’r de o’r Aifft, yn cynnwys rhannau o Ethiopia a’r Swdan. 11Fydd neb yn gallu byw yno am bedwar deg o flynyddoedd – fydd dim pobl nac anifeiliaid yn crwydro yno. 12Bydda i’n gwneud gwlad yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a’i dinasoedd yn adfeilion. Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy’r gwledydd i gyd.
13“‘Ond yna, dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ar ddiwedd y pedwar deg mlynedd bydda i’n casglu pobl yr Aifft o’r gwledydd lle roedden nhw ar chwâl. 14Bydda i’n adfer sefyllfa pobl yr Aifft a dod â nhw yn ôl i ardal Pathros, i wlad eu mebyd. Ond gwlad ddi-nod fydd yr Aifft. 15Bydd hi’n un o’r gwledydd lleia dylanwadol, a fydd hi byth yn rheoli gwledydd eraill eto. 16A fydd Israel ddim yn pwyso arni byth eto. Bydd hi’n atgoffa Israel o’i phechod yn troi at yr Aifft am help. Byddan nhw’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.’”
Selio Tynged yr Aifft
17Roedd hi ddau ddeg saith mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta’r flwyddyn.#29:17 ddiwrnod cynta’r flwyddyn Ebrill 26, 571 cc mae’n debyg. A dyma fi’n cael neges gan yr ARGLWYDD: 18“Ddyn, mae byddin Nebwchadnesar brenin Babilon wedi brwydro’n galed yn erbyn Tyrus. Maen nhw wedi gweithio’u bysedd at yr asgwrn,#29:18 Hebraeg, “wedi gwneud pob pen yn foel a phob ysgwydd yn gignoeth”. ond dydy’r milwyr wedi ennill dim ar ôl yr holl ymdrech! 19Felly dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i’n mynd i roi gwlad yr Aifft yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd e’n cymryd holl gyfoeth y wlad ac yn ysbeilio’i thrysorau i dalu cyflog i’w filwyr. 20Dw i’n mynd i roi gwlad yr Aifft iddo i’w ddigolledu am yr holl ymdrech yn ymosod ar Tyrus. Mae e wedi bod yn gwneud hyn i mi.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
21“Bryd hynny bydda i’n gwneud Israel yn wlad gref unwaith eto, a bydd pobl yn gwrando ar beth rwyt ti’n ddweud. Byddan nhw’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.”

Currently Selected:

Eseciel 29: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Eseciel 29