Eseia 7
7
Eseia’n cynnig gobaith i’r Brenin Ahas
1Yn y cyfnod pan oedd Ahas (mab Jotham ac ŵyr i Wseia) yn frenin ar Jwda, dyma Resin (brenin Syria) a Pecach fab Remaleia (brenin Israel) yn ymosod ar Jerwsalem; ond wnaethon nhw ddim llwyddo i’w gorchfygu hi.#2 Brenhinoedd 16:5; 2 Cronicl 28:5-6
2Pan ddaeth y newyddion i balas brenhinol Dafydd fod Syria ac Effraim#7:2 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. mewn cynghrair, roedd y brenin a’r bobl wedi cynhyrfu. Roedden nhw fel coed yn y goedwig yn ysgwyd o flaen y gwynt. 3Felly dwedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, “Dos hefo dy fab Shear-iashŵf#7:3 Shear-iashŵf Ystyr yr enw ydy “Ychydig fydd yn dod yn ôl” (gw. 10:20-22). i gyfarfod ag Ahas wrth derfyn y sianel ddŵr sy’n dod o’r gronfa uchaf, ar ffordd Maes y Golchwr. 4Dwed wrtho: ‘Paid panicio. Paid bod ag ofn. Does dim rhaid torri dy galon am fod Resin a’r Syriaid a mab Remaleia wedi gwylltio – dau stwmp ydyn nhw; dim mwy na ffaglau myglyd!’ 5Mae’r Syriaid – hefo Effraim a mab Remaleia – wedi cynllwynio yn dy erbyn di, a dweud, 6‘Gadewch i ni ymosod ar Jwda, codi ofn arni a’i gorchfygu. Yna gallwn osod mab Tafél yn frenin arni.’
7“Ond dyma mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:
Fydd y cynllun ddim yn llwyddo,
Fydd y peth ddim yn digwydd.
8-9Damascus ydy prifddinas Syria,
a Resin ydy pennaeth Damascus.
Samaria ydy prifddinas Effraim,
a Remaleia ydy pennaeth Samaria.
Mewn llai na chwe deg pum mlynedd
bydd Effraim wedi chwalu a pheidio â bod yn bobl.
Os na wnewch chi gredu,
wnewch chi’n sicr ddim sefyll.”
10Dyma’r ARGLWYDD yn siarad gydag Ahas eto: 11“Gofyn i’r ARGLWYDD dy Dduw roi arwydd i ti – unrhyw beth, does dim ffiniau.” 12Ond dyma Ahas yn ateb, “Na wna i, dw i ddim am roi’r ARGLWYDD ar brawf.” 13Yna dwedodd Eseia, “Gwrandwch, balas Dafydd. Ydy e ddim yn ddigon eich bod chi’n trethu amynedd pobl heb orfod trethu amynedd fy Nuw hefyd? 14Felly, mae’r Meistr ei hun yn mynd i roi arwydd i chi! Edrychwch, bydd y ferch ifanc yn feichiog, ac yn cael mab – a bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel.#7:14 Emaniwel Ystyr yr enw Hebraeg ydy “Mae Duw gyda ni”.#Mathew 1:23 15Cyn iddo ddod i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da, bydd yn bwyta caws colfran a mêl. 16Cyn iddo allu gwrthod y drwg a dewis y da, bydd tir y ddau frenin rwyt ti’n eu hofni wedi’i adael yn wag. 17Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i ti a dy bobl a phalas dy dad fynd drwy gyfnod na fu ei debyg ers i Effraim#7:17 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae’n aml yn cynrychioli’r wlad yn gyfan. wrthryfela yn erbyn Jwda – bydd yn dod â brenin Asyria yma.”
18Bryd hynny,
bydd yr ARGLWYDD yn chwibanu ar y gwybed
sydd yn afonydd pell yr Aifft
a’r gwenyn sydd yng ngwlad Asyria.
19Byddan nhw’n dod ac yn glanio
yn y cymoedd cul, serth
a’r hafnau sydd yn y creigiau,
yn y llwyni drain
a’r lleoedd i ddyfrio anifeiliaid.
20Bryd hynny,
bydd y Meistr yn defnyddio’r rasel
mae wedi’i llogi yr ochr draw i afon Ewffrates
(sef brenin Asyria)
i siafio’r pen a’r blew ar y rhannau preifat;
a bydd yn siafio’r farf hefyd.
21Bryd hynny,
bydd dyn yn cadw heffer a dwy afr.
22Byddan nhw’n rhoi digon o laeth
iddo fwyta caws colfran.
Caws colfran a mêl fydd bwyd
pawb sydd ar ôl yn y wlad.
23Bryd hynny,
bydd pobman lle roedd mil o goed gwinwydd
(oedd yn werth mil o ddarnau arian)
yn anialwch o ddrain a mieri.
24Dim ond gyda bwa saeth fydd dynion yn mynd yno,
am fod y tir i gyd yn anialwch o ddrain a mieri.
25Fydd neb yn mynd i’r bryniau
i drin y tir gyda chaib
am fod cymaint o ddrain a mieri.
Yn lle hynny bydd yn dir agored
i wartheg a defaid bori arno.
Currently Selected:
Eseia 7: bnet
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023