YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 8

8
Rhybudd a gobaith
1Yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, “Dos i nôl hysbysfwrdd mawr ac ysgrifenna arno’n glir ‘I Maher-shalal-has-bas’.”#8:1 Maher-shalal-has-bas Ystyr yr enw Hebraeg ydy “difrod sydyn, ysbeilio cyflym”. 2Dyma fi’n cymryd dau dyst gyda mi, dynion y gallwn i ddibynnu arnyn nhw, sef Wreia yr offeiriad a Sechareia fab Ieberecheia. 3Wedyn dyma fi’n gorwedd gyda’m gwraig#8:3 Hebraeg, “gyda’r broffwydes”. a dyma hi’n beichiogi. Bachgen gafodd hi, a dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Galw fe’n Maher-shalal-has-bas, 4achos cyn i’r bachgen allu dweud ‘dad’ neu ‘mam’, bydd brenin Asyria wedi cymryd cyfoeth Damascus a Samaria i gyd.”
Mae Asyria’n dod
5A dyma’r ARGLWYDD yn siarad gyda mi eto:
6“Mae’r bobl yma wedi gwrthod dŵr Siloa,#8:6 dŵr Siloa Nant oedd yn llifo o ffynnon ar ochr ddwyreiniol Jerwsalem.
sy’n llifo’n dawel,
ac wedi plesio Resin a mab Remaleia.
7Felly, bydd y Meistr yn gwneud i holl ddŵr cryf
yr Ewffrates lifo drostyn nhw –
sef brenin Asyria a’i fyddin.
Bydd fel afon yn torri allan o’i sianelau,
ac yn gorlifo’i glannau.
8Bydd yn rhedeg drwy Jwda fel llifogydd
ac yn codi at y gwddf.
Mae ei adenydd wedi’u lledu
dros dy dir i gyd, Emaniwel!”
9Casglwch i ryfel, chi bobloedd – ond cewch eich dryllio!
Gwrandwch, chi sydd ym mhen draw’r byd:
paratowch i ryfela – ond cewch eich dryllio;
paratowch i ryfela – ond cewch eich dryllio!
10Cynlluniwch strategaeth – ond bydd yn methu!
Cytunwch beth i’w wneud – ond fydd e ddim yn llwyddo.
Achos mae Duw gyda ni!
Yr ARGLWYDD yn annog Eseia
11Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i – fel petai’n gafael ynof fi a’m rhybuddio i beidio mynd yr un ffordd â’r bobl yma:
12“Peidiwch dweud, ‘Cynllwyn ydy e!’
bob tro mae’r bobl yma’n dweud fod cynllwyn!
Does dim rhaid dychryn na bod ag ofn
beth maen nhw’n ei ofni.
13Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy’r un i’w barchu!
Fe ydy’r unig un i’w ofni,
a dychryn rhagddo!
14Bydd e’n gysegr –
ond i ddau deulu brenhinol Israel
bydd yn garreg sy’n baglu pobl
a chraig sy’n gwneud iddyn nhw syrthio.
Bydd fel trap neu fagl
i’r rhai sy’n byw yn Jerwsalem.
15Bydd llawer yn baglu,
yn syrthio ac yn cael eu dryllio;
ac eraill yn cael eu rhwymo a’u dal.”
Tystiolaeth Eseia
16Bydd y rhybudd yma’n cael ei rwymo, a’r ddysgeidiaeth yn cael ei selio a’i chadw gan fy nisgyblion i. 17Dw i’n mynd i ddisgwyl am yr ARGLWYDD, er ei fod e wedi troi cefn ar bobl Jacob – dw i’n ei drystio fe! 18Dyma fi, a’r plant mae’r ARGLWYDD wedi’u rhoi i mi. Maen nhw’n arwyddion ac yn rhybudd i Israel oddi wrth yr ARGLWYDD hollbwerus, sy’n byw ar Fynydd Seion.
19Bydd pobl yn dweud wrthoch chi,
“Ewch i holi’r swynwyr a’r dewiniaid
sy’n sgrechian a griddfan.
Oni ddylai pobl geisio’u ‘duwiau’ –
holi’r meirw ar ran y byw?”
20“At y gyfraith a’r dystiolaeth!
Os nad ydyn nhw’n siarad yn gyson â’r neges yma,
maen nhw yn y tywyllwch.”
21Maen nhw’n cerdded o gwmpas
mewn eisiau a newyn.
Am eu bod yn llwgu byddan nhw’n gwylltio
ac yn melltithio’u brenin a’u ‘duwiau’,
wrth edrych i fyny.
22Wrth edrych ar y tir
does dim i’w weld ond trwbwl a thywyllwch,
düwch a gwewyr meddwl –
bydd wedi’i daflu i dywyllwch dudew.

Currently Selected:

Eseia 8: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in