YouVersion Logo
Search Icon

Jeremeia 19

19
Y jwg oedd wedi torri
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos i brynu jwg gan y crochenydd. Wedyn, dos ag arweinwyr y bobl a’r offeiriaid hynaf gyda ti 2i ddyffryn Ben-hinnom sydd tu allan i Giât y Sbwriel.#19:2 Giât y Sbwriel Hebraeg, “giât y darnau o lestri” neu “giât y llestri wedi malu” (cf. Nehemeia 2:13; 3:13-14; 12:31). Yno, dywed wrthyn nhw beth dw i’n ddweud wrthot ti. 3Dywed, ‘Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, frenhinoedd Jwda a phobl Jerwsalem. Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i’n mynd i ddod â dinistr ofnadwy i’r lle yma. Bydd pawb fydd yn clywed am y peth yn gegagored. 4Mae’r bobl yma wedi troi cefn arna i, a gwneud y lle yma fel lle estron. Maen nhw wedi llosgi arogldarth i dduwiau eraill – duwiau nad oedden nhw na’u hynafiaid na brenhinoedd Jwda yn gwybod dim amdanyn nhw! Ac maen nhw wedi tywallt gwaed plant diniwed yma! 5Maen nhw wedi adeiladu allorau paganaidd, ac wedi llosgi eu plant yn aberth i Baal. Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud hynny. Fyddai’r fath beth byth yn croesi fy meddwl i!
6“‘“Felly mae’r amser yn dod,” meddai’r ARGLWYDD, “pan fydd neb yn galw’r lle yn Toffet neu ddyffryn Ben-hinnom.#Jeremeia 7:31-32; 2 Brenhinoedd 23:10 Dyffryn y Lladdfa fydd enw’r lle. 7Bydda i’n drysu#19:7 drysu Hebraeg, “gwagio”. (Mae’r gair Hebraeg yn dod o’r un gwreiddyn â’r gair am ‘jwg’ yn adnod 1. Mae’r Hebraeg yn chwarae ar eiriau yma). cynlluniau pobl Jwda a Jerwsalem. Byddan nhw’n cael eu lladd gan eu gelynion yn y rhyfel. Bydd adar ac anifeiliaid gwyllt yn bwyta eu cyrff nhw. 8Bydd y ddinas yma’n cael ei dinistrio’n llwyr. Bydd pawb sy’n pasio heibio wedi dychryn am eu bywydau, ac yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld y dinistr. 9Bydda i’n gwneud iddyn nhw fwyta’u meibion a’u merched.#Deuteronomium 28:53,55,57 (gw. 2 Brenhinoedd 6:28-29 a Galarnad 4:10) Byddan nhw’n bwyta cyrff pobl am fod y sefyllfa wedi mynd mor ddrwg, a’r gelynion yn gwarchae#19:9 gwarchae Pan oedd byddin yn ymosod ar ddinas roedd yn amgylchynu’r ddinas a’i thorri i ffwrdd fel bod neb yn gallu mynd i mewn nac allan. arnyn nhw ac yn rhoi’r fath bwysau arnyn nhw.”’
10“Wedyn dw i eisiau i ti falu’r jwg yn deilchion o flaen y dynion fydd wedi mynd hefo ti, 11yna dweud wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud: ‘Dw i’n mynd i ddryllio’r wlad yma a’r ddinas, yn union fel cafodd y jwg yma ei dorri’n deilchion. Does dim gobaith ei drwsio! Bydd cyrff yn cael eu claddu yma yn Toffet nes bydd dim lle ar ôl! 12A bydd hi’r un fath ar y ddinas yma a’i phobl,’ meddai’r ARGLWYDD. ‘Bydd hi fel Toffet yma! 13Am fod pobl wedi aberthu i’r sêr, a thywallt offrwm o ddiod i dduwiau eraill ar doeau’r tai a thoeau palasau brenhinoedd Jwda, bydd Jerwsalem hefyd wedi’i llygru gan gyrff yr un fath â Toffet.’”
Jeremeia’n cyhoeddi dinistr
14Ar ôl dod yn ôl o Toffet, lle roedd yr ARGLWYDD wedi’i anfon i broffwydo, dyma Jeremeia’n mynd i deml yr ARGLWYDD a sefyll yn yr iard ac annerch y bobl yno. 15“Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Yn fuan iawn dw i’n mynd i ddod â dinistr ar y ddinas yma a’r pentrefi sydd o’i chwmpas, yn union fel dwedais i. Mae’r bobl wedi bod mor benstiff, a gwrthod gwrando arna i.’”

Currently Selected:

Jeremeia 19: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in