YouVersion Logo
Search Icon

Jeremeia 20

20
Arestio a cham-drin Jeremeia
1Clywodd Pashchwr fab Immer beth ddwedodd Jeremeia. (Pashchwr oedd yr offeiriad oedd yn gyfrifol am gadw trefn yn y deml.) 2A dyma fe’n gorchymyn arestio Jeremeia, ei guro a’i rwymo mewn cyffion wrth Giât Uchaf Benjamin yn y deml. 3Y bore wedyn, dyma Pashchwr yn gollwng Jeremeia’n rhydd. A dyma Jeremeia’n dweud wrtho, “Nid Pashchwr mae’r ARGLWYDD yn dy alw di ond ‘Dychryn ym mhobman’. 4Achos dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Byddi di a dy ffrindiau wedi dychryn am eich bywydau. Byddi’n edrych arnyn nhw’n cael eu lladd gan eu gelynion. Dw i’n mynd i roi pobl Jwda yn nwylo brenin Babilon. Bydd e’n cymryd rhai yn gaeth i Babilon, a bydd rhai yn cael eu lladd. 5Bydd cyfoeth y ddinas yma i gyd yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Bydd y gelynion yn cymryd holl eiddo’r bobl, popeth gwerthfawr sydd ganddyn nhw, a thrysorau brenhinol Jwda. 6Byddi di a dy deulu, dy weision a dy forynion i gyd, yn cael eich cymryd yn gaethion i Babilon. Dyna lle byddi di a dy ffrindiau’n marw ac yn cael eich claddu, sef pawb y buost ti’n pregethu celwydd iddyn nhw ac yn dweud y byddai popeth yn iawn.’”
Jeremeia’n cwyno am yr ymateb i’w neges
7 ARGLWYDD, ti wedi fy nhwyllo i,
a dw innau wedi gadael i ti wneud hynny.
Ti gafodd y llaw uchaf am dy fod ti’n gryfach na fi.
A dyma fi bellach yn ddim byd ond testun sbort i bobl.
Mae pawb yn chwerthin am fy mhen i!
8Bob tro dw i’n agor fy ngheg rhaid i mi weiddi,
“Mae trais a dinistr yn dod!”
Mae neges yr ARGLWYDD yn fy ngwneud
yn ddim byd ond jôc a thestun sbort i bobl drwy’r amser.
9Dw i’n meddwl weithiau, “Wna i ddim sôn amdano eto.
Dw i’n mynd i wrthod siarad ar ei ran!”
Ond wedyn mae ei neges fel tân y tu mewn i mi.
Mae fel fflam yn llosgi yn fy esgyrn.
Dw i’n trio fy ngorau i’w ddal yn ôl,
ond alla i ddim!
10Dw i wedi clywed lot fawr o bobl yn hel straeon amdana i.
“‘Dychryn ym mhobman’ wir!
Gadewch i ni ddweud wrth yr awdurdodau amdano!”
Mae hyd yn oed y rhai oedd yn ffrindiau i mi
yn disgwyl i’m gweld i’n baglu:
“Falle y gallwn ei ddenu i wneud rhywbeth gwirion,
wedyn byddwn ni’n gallu dial arno!”
11Ond mae’r ARGLWYDD hefo fi fel rhyfelwr ffyrnig.
Felly, y rhai sy’n fy erlid i fydd yn baglu.
Fyddan nhw ddim yn ennill!
Byddan nhw’n teimlo cywilydd mawr am eu methiant.
Fydd y gwarth byth yn cael ei anghofio!
12O ARGLWYDD hollbwerus, sy’n profi’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn.
Ti’n gwybod beth mae pobl yn ei feddwl a’i fwriadu.
Tala nôl iddyn nhw am beth maen nhw’n ei wneud.
Dw i’n dy drystio di i ddelio gyda’r sefyllfa.
13Canwch i’r ARGLWYDD! Molwch yr ARGLWYDD!
Mae e’n achub y tlawd o afael pobl ddrwg.
14Melltith ar y diwrnod ces i fy ngeni!#Jeremeia 15:10
Does dim byd da am y diwrnod y cafodd mam fi.
15Melltith ar y person roddodd y newyddion i dad
a’i wneud mor hapus wrth ddweud,
“Mae gen ti fab!”
16Boed i’r person hwnnw fod fel y trefi hynny#Genesis 19:24-28
gafodd eu dinistrio’n ddidrugaredd gan yr ARGLWYDD
yn clywed sŵn sgrechian yn y bore,
a sŵn gweiddi yn y rhyfel ganol dydd!
17Pam wnaeth e ddim fy lladd i cyn i mi ddod allan o’r groth?
Byddai croth fy mam yn fedd i mi,
a hithau’n feichiog am byth.
18Pam oedd rhaid i mi gael fy ngeni o gwbl?
Dw i wedi gweld dim byd ond trafferthion a thristwch,
ac wedi profi dim byd ond cywilydd ar hyd fy mywyd!

Currently Selected:

Jeremeia 20: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Videos for Jeremeia 20