YouVersion Logo
Search Icon

Diarhebion 30

30
Geiriau Agwr
1Geiriau Agwr fab Iace, o Massa.#30:1 Massa Ardal yng ngogledd Arabia – gw. Genesis 25:14; 1 Cronicl 1:30. Dyma neges y dyn:
Nid Duw ydw i. Nid Duw ydw i; dydy’r gallu ddim gen i.#30:1 Nid … gen i Un ystyr posib – Hebraeg yn aneglur iawn.
2Dw i’n greadur rhy ddwl i fod yn ddynol!
Does gen i ddim sens.
3Dw i heb ddysgu bod yn ddoeth,
a dw i’n gwybod dim am yr Un Sanctaidd.
4Pwy sydd wedi mynd i fyny i’r nefoedd, a dod yn ôl i lawr eto?
Pwy sydd wedi gallu dal gafael yn y gwynt?
Pwy sydd wedi lapio’r moroedd mewn mantell?
Pwy sydd wedi mesur y ddaear o un pen i’r llall?
Beth ydy ei enw e, ac enw ei fab? – Dywed os wyt ti’n gwybod.
5Mae pob un o eiriau Duw wedi’u profi.
Mae e’n darian i amddiffyn y rhai sy’n ei drystio.
6Paid ychwanegu dim at ei eiriau,
rhag iddo dy geryddu di, a phrofi dy fod ti’n dweud celwydd.
7Dw i’n gofyn am ddau beth gen ti –
rho nhw i mi cyn i mi farw:
8Yn gyntaf, cadw fi rhag dweud celwydd a thwyllo;
ac yn ail, paid rhoi tlodi na chyfoeth i mi,
ond rho ddigon o fwyd i mi bob dydd.
9Ie, cadw fi rhag teimlo fod popeth gen i,
ac yna dy wrthod di, a dweud,
“Pwy ydy’r ARGLWYDD?”
A chadw fi rhag dwyn am fy mod yn dlawd,
a rhoi enw drwg i Dduw.
10Paid hel straeon am gaethwas wrth ei feistr,
rhag iddo dy felltithio di, ac i ti orfod talu’r pris.
11Mae yna bobl sy’n melltithio’u tadau,
ac sydd ddim yn fendith i’w mamau.
12Mae yna bobl sy’n meddwl eu bod nhw’n dda,
ond sydd heb eu glanhau o garthion eu pechod.
13Mae yna bobl sydd mor snobyddlyd;
maen nhw’n meddwl eu bod nhw’n well na pawb arall!
14Mae yna bobl sydd â dannedd fel cleddyfau,
a’u brathiad fel cyllyll.
Maen nhw’n llarpio pobl dlawd y tir,
a’r rhai hynny sydd mewn angen.
15Mae gan y gele ddwy ferch,
“Rho fwy!” a “Rho fwy!”
Mae tri peth sydd byth yn fodlon,
pedwar sydd byth yn dweud, “Dyna ddigon!”:
16y bedd, croth ddiffrwyth, tir sydd angen dŵr, a thân –
dydy’r rhain byth yn dweud “Digon!”
17Llygad sy’n gwneud sbort am dad
ac yn malio dim am wrando ar mam –
bydd hi’n cael ei thynnu allan gan gigfrain,
a’i bwyta gan y fwltur.
18Mae tri peth y tu hwnt i mi,
pedwar fydda i byth yn eu darganfod:
19ffordd yr eryr drwy’r awyr;
ffordd y neidr dros graig;
llwybr llong yn hwylio’r moroedd;
a llwybr cariad dyn a merch.
20Ond ffordd gwraig anffyddlon i’w gŵr ydy:
bwyta, sychu ei cheg,
a dweud, “Wnes i ddim byd o’i le.”
21Mae tri peth yn gwneud i’r ddaear grynu,
pedwar peth all hi ddim eu diodde:
22caethwas yn cael ei wneud yn frenin;
ffŵl yn cael gormod i’w fwyta;
23gwraig heb ei charu yn priodi;
a morwyn yn cymryd gŵr ei meistres.
24Mae pedwar peth ar y ddaear sy’n fach,
ond sy’n ddoeth dros ben:
25morgrug, sy’n greaduriaid bach gwan,
ond sy’n casglu eu bwyd yn yr haf.
26Brochod y graig, sydd ddim yn gryf chwaith,
ond sy’n gwneud eu cartrefi yn y creigiau.
27locustiaid, sydd heb frenin i’w rheoli,
ond sy’n mynd allan mewn rhengoedd trefnus;
28a madfallod – gelli eu dal yn dy law,
ond gallan nhw fynd i mewn i balasau brenhinoedd!
29Mae tri peth sy’n cerdded yn urddasol,
pedwar sy’n symud mor hardd:
30y llew, y cryfaf o’r anifeiliaid,
sy’n ffoi oddi wrth ddim byd.
31ceiliog yn torsythu, bwch gafr,
a brenin yn arwain ei bobl.
32Os wyt ti wedi actio’r ffŵl wrth frolio,
neu wedi bod yn cynllwynio drwg,
dal dy dafod!
33Fel mae corddi llaeth yn gwneud menyn,
a tharo’r trwyn yn tynnu gwaed,
mae gwylltio pobl yn arwain i wrthdaro.

Currently Selected:

Diarhebion 30: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in