Salm 77
77
Cysur pan mae gofid
I’r arweinydd cerdd: Salm gan Asaff ar yr alaw “Cyffes”.
1Dw i’n gweiddi’n uchel ar Dduw,
yn gweiddi’n uchel ar iddo wrando arna i.
2Dw i mewn helbul, ac yn troi at yr ARGLWYDD;
dw i wedi bod yn estyn fy nwylo ato mewn gweddi drwy’r nos,
ond ches i ddim cysur.
3Dw i wedi bod yn ochneidio wrth feddwl am Dduw,
dw i wedi bod yn myfyrio arno – ond yn anobeithio.
Saib
4Ti sydd wedi fy nghadw i’n effro;
dw i mor boenus, wn i ddim beth i’w ddweud.
5Dw i wedi bod yn meddwl am yr hen ddyddiau,
flynyddoedd lawer yn ôl.
6Cofio’r gân roeddwn i’n arfer ei chanu.
Meddwl drwy’r nos am y peth, a chwilio am ateb.
7“Ydy’r ARGLWYDD wedi troi cefn arnon ni am byth?
Ydy e’n mynd i ddangos ei ffafr aton ni eto?
8Ydy ei ffyddlondeb e wedi dod i ben yn llwyr?
Ydy’r addewidion wnaeth e byth yn mynd i gael eu cyflawni?
9Ydy Duw wedi anghofio sut i ddangos trugaredd?
Ydy ei ddig yn gryfach na’i dosturi?”
Saib
10“Mae meddwl y fath beth yn codi cyfog arna i:
fod y Goruchaf wedi newid ei ffyrdd.”
11Dw i’n mynd i atgoffa fy hun beth wnaeth yr ARGLWYDD –
ydw, dw i’n cofio’r pethau rhyfeddol wnest ti ers talwm!
12Dw i’n mynd i gofio am bopeth wnest ti,
a myfyrio ar y cwbl.
13O Dduw, mae dy ffyrdd di’n gwbl unigryw!
Oes yna dduw tebyg i’n Duw ni?
14Na! Ti ydy’r Duw sy’n gwneud pethau anhygoel!
Ti wedi dangos dy nerth i’r bobloedd i gyd.
15Ti wnaeth ollwng dy bobl yn rhydd gyda dy fraich gref,
sef disgynyddion Jacob a Joseff.
Saib
16Dyma’r dyfroedd yn dy weld di, O Dduw,
dyma’r dyfroedd yn dy weld di ac yn cynhyrfu.
Roedd y môr dwfn yn crynu mewn ofn!
17Roedd y cymylau’n tywallt y glaw,
yr awyr yn taranu,
a dy saethau yn fflachio ym mhobman.
18Roedd dy lais i’w glywed yn taranu yn y storm;
dy fellt yn goleuo’r byd,
a’r ddaear yn crynu drwyddi.
19Agoraist ffordd drwy’r môr;
cerddaist drwy’r dyfroedd cryfion,
er bod neb yn gweld olion dy draed.
20Dyma ti’n arwain dy bobl fel praidd
dan ofal Moses ac Aaron.
Currently Selected:
Salm 77: bnet
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2023