YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 7

7
1A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth Nöe, “Dos di a’th holl dy i’r arch; canys tydi a welais I yn gyfiawn ger Fy mron I yn y genedlaeth hon; 2Ac o’r anifeiliaid glân y cymmeri atat bob yn saith, y gwryw a’i fenyw; ac o’r anifeiliaid nid ydynt lân, bob yn ddau, y gwryw a’i fenyw; ac o ehediaid glân y nefoedd, bob yn saith, yn wryw ac yn fenyw; 3ac o’r holl ehediaid nid ydynt lân, bob yn ddau, yn wryw ac yn fenyw, i gadw had ar yr holl ddaiar. 4O blegid eto saith niwrnod, a Mi a ddygaf wlaw ar y ddaiar ddeugain niwrnod a deugain nos; a Mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaiar bob dim a’r sydd yn ymsefyll, a’r a wnaethym.”
5A Nöe a wnaeth yr hyn oll a orchymmynasai yr Arglwydd Dduw iddo. 6A Nöe oedd, chwe chan mlwydd pan fu y dylif dwfr ar y ddaiar. 7A Nöe a aeth i mewn, a’i feibion, a’i wraig, a gwragedd ei feibion gydag ef, i’r arch, o achos y dwfr dylif. 8Ac o’r ehediaid glân, ac o’r ehediaid nid ydynt lân; ac o’r anifeiliaid glân, ac o’r anifeiliaid nid ydynt lân; ac o’r hyn oll a ymlusgai ar y ddaiar 9yr aeth i mewn at Nöe i’r arch bob yn ddau, yn wryw ac yn fenyw, fel y gorchymmynasai Duw i Nöe.
10A bu, wedi saith niwrnod, ddyfod o’r dwfr dylif ar y ddaiar. 11Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Nöe, yn yr ail fis, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis, ar y dydd hwnw y rhwygwyd holl ffynnonau yr anoddyfn, a rheieidr y nefoedd a agorwyd: 12a’r gwlaw fu ar y ddaiar ddeugain niwrnod a deugain nos. 13Yn y dydd hwnw y daeth Nöe, Sem, Cham, Iapheth, meibion Nöe, a gwraig Nöe, a thair gwraig ei feibion ef gydag ef i’r arch. 14Hefyd yr holl fwystfilod wrth eu rhywogaeth, a’r holl anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, a phob ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaiar wrth ei rywogaeth, a phob aderyn a ehedai wrth ei rywogaeth, 15a ddaethant at Nöe i’r arch, bob yn ddau, y gwryw a’i fenyw, o bob cnawd a’r oedd ynddo anadl einioes. 16A’r rhai a ddaethant, yn wryw a benyw y daethant o bob cnawd, fel y gorchymmynasai Duw i Nöe. A’r Arglwydd Dduw a gauodd yr arch oddi allan iddo. 17A’r dylif fu ddeugain niwrnod a deugain nos ar y ddaiar; a’r dwfr a gynnyddodd yn ddirfawr, ac a gododd yr arch, a hi a godwyd oddi ar y ddaiar. 18A’r dwfr a ymgryfhaodd, ac a gynnyddodd yn ddirfawr ar y ddaiar, a’r arch a ymsymmudodd ar y dwfr. 19A’r dwfr a ymgryfhaodd yn ddirfawr iawn ar y ddaiar, ac a orchuddiodd yr holl fynyddoedd uchel ag oeddynt dan y nefoedd. 20Pymtheg cufydd yr ymchwyddodd y dwfr tuag i fyny, ac a orchuddiodd yr holl fynyddoedd uchel. 21A bu farw pob cnawd a ymsymmudai ar y ddaiar, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid, ac yn fwystfilod, a phob ymlusgiad a ymsymmudai ar y ddaiar, a phob dyn hefyd. 22A’r hyn oll oedd berchen anadl einioes, sef yr hyn oll oedd ar y sychdir, a fuant feirw. 23Ac Efe a ddileodd bob dim a’r a oedd yn ymgodi ar wyneb y ddaiar, yn ddyn, ac yn anifail, ac yn ymlusgiaid, ac yn ehediaid y nefoedd; ïe, dilëwyd hwynt o’r ddaiar; a Nöe yn unig a adawyd, a’r rhai oeddynt gydag ef yn yr arch. 24A’r dwfr a ymddyrchafasai dros y ddaiar ddeng niwrnod a deugain a chant,

Currently Selected:

Genesis 7: YSEPT

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in