YouVersion Logo
Search Icon

Y Pregethwr 7

7
Myfyrdodau
1Y mae enw da yn well nag ennaint gwerthfawr,
a dydd marw yn well na dydd geni.
2Y mae'n well mynd i dŷ galar
na mynd i dŷ gwledd;
oherwydd marw yw tynged pawb,
a dylai'r byw ystyried hyn.
3Y mae tristwch yn well na chwerthin;
er i'r wyneb fod yn drist, gall y galon fod yn llawen.
4Y mae calon y doethion yn nhŷ galar,
ond calon y ffyliaid yn nhŷ pleser.
5Y mae'n well gwrando ar gerydd y doeth
na gwrando ar gân ffyliaid.
6Oherwydd y mae chwerthin y ffŵl
fel clindarddach drain o dan grochan.
Y mae hyn hefyd yn wagedd.
7Yn wir, y mae gormes yn gwneud y doeth yn ynfyd,
ac y mae cildwrn yn llygru'r meddwl.
8Y mae diwedd peth yn well na'i ddechrau,
ac amynedd yn well nag ymffrost.
9Paid â rhuthro i ddangos dig,
oherwydd ym mynwes ffyliaid y mae dig yn aros.
10Paid â dweud, “Pam y mae'r dyddiau a fu yn well na'r rhai hyn?”
Oherwydd ni ddangosir doethineb wrth ofyn hyn.
11Y mae cael doethineb cystal ag etifeddiaeth,
ac yn fantais i'r rhai sy'n gweld yr haul.
12Y mae doethineb yn gystal amddiffyn ag arian;
mantais deall yw bod doethineb yn rhoi bywyd i'w pherchennog.
13Ystyria'r hyn a wnaeth Duw;
pwy all unioni'r hyn a wyrodd ef?
14Bydd lawen pan yw'n dda arnat,
ond yn amser adfyd ystyria hyn:
Duw a wnaeth y naill beth a'r llall,
fel na all neb ganfod beth a fydd yn dilyn.
15Yn ystod fy oes o wagedd gwelais y cyfan: un cyfiawn yn darfod yn ei gyfiawnder, ac un drygionus yn cael oes faith yn ei ddrygioni. 16Paid â bod yn rhy gyfiawn, a phaid â bod yn or-ddoeth; pam y difethi dy hun? 17Paid â bod yn rhy ddrwg, a phaid â bod yn ffŵl; pam y byddi farw cyn dy amser? 18Y mae'n werth iti ddal dy afael ar y naill beth, a pheidio â gollwng y llall o'th law. Yn wir, y mae'r un sy'n ofni Duw yn eu dilyn ill dau.
19Y mae doethineb yn rhoi mwy o gryfder i'r doeth nag sydd gan ddeg llywodraethwr mewn dinas.
20Yn wir, nid oes neb cyfiawn ar y ddaear sydd bob amser yn gwneud daioni, heb bechu.
21Paid â chymryd sylw o bob gair a ddywedir, rhag ofn iti glywed dy was yn dy felltithio; 22yn wir fe wyddost dy fod ti dy hun wedi melltithio eraill lawer gwaith.
23Yr wyf wedi rhoi prawf ar hyn i gyd trwy ddoethineb. Dywedais, “Yr wyf am fod yn ddoeth,” ond yr oedd yn bell oddi wrthyf. 24Y mae'r hyn sy'n digwydd yn bell ac yn ddwfn iawn; pwy a all ei ganfod? 25Fe euthum ati i ddeall â'm meddwl, i chwilio a cheisio doethineb a rheswm, a deall drygioni ffolineb, a ffolineb ynfydrwydd. 26A chanfûm rywbeth chwerwach na marwolaeth: gwraig sydd â'i chalon yn faglau a rhwydau, a'i dwylo'n rhwymau. Y mae'r un sy'n dda yng ngolwg Duw yn dianc oddi wrthi, ond fe ddelir y pechadur ganddi. 27“Edrych, dyma'r peth a ganfûm,” medd y Pregethwr, “trwy osod y naill beth wrth y llall i chwilio am ystyr, 28oherwydd yr oeddwn yn chwilio amdano'n ddyfal ond yn methu ei gael; canfûm un dyn ymhlith mil, ond ni chefais yr un wraig ymhlith y cyfan ohonynt. 29Edrych, hyn yn unig a ganfûm: bod Duw wedi creu pobl yn uniawn; ond y maent hwy wedi ceisio llawer o gynlluniau.”

Currently Selected:

Y Pregethwr 7: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in