YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 31

31
Crefftwyr i'r Tabernacl
Ex. 35:30—36:1
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2“Edrych, yr wyf wedi dewis Besalel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda, 3a'i lenwi ag ysbryd Duw, â doethineb a deall, â gwybodaeth a phob rhyw ddawn, 4er mwyn iddo ddyfeisio patrymau cywrain i'w gweithio mewn aur, arian a phres, 5a thorri meini i'w gosod, a cherfio pren, a gwneud pob cywreinwaith. 6Penodais hefyd Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan, i'w gynorthwyo. Rhoddais ddawn i bob crefftwr i wneud y cyfan a orchmynnais iti: 7pabell y cyfarfod, arch y dystiolaeth a'r drugareddfa sydd arni, holl ddodrefn y babell, 8y bwrdd a'i lestri, y canhwyllbren o aur pur a'i holl lestri, allor yr arogldarth, 9allor y poethoffrwm a'i holl lestri, y noe a'i throed, 10y gwisgoedd wedi eu gwnïo'n wisgoedd cysegredig i Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion, er mwyn iddynt hwythau wasanaethu fel offeiriaid, 11olew yr eneinio, a'r arogldarth peraidd ar gyfer y cysegr. Y maent i'w gwneud yn union fel y gorchmynnais i ti.”
Y Saboth
12Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 13“Dywed wrth bobl Israel, ‘Cadwch fy Sabothau, oherwydd bydd hyn yn arwydd rhyngof a chwi dros y cenedlaethau, er mwyn i chwi wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, sydd yn eich cysegru. 14Cadwch y Saboth, oherwydd y mae'n gysegredig i chwi; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n ei halogi, a thorrir ymaith o blith ei bobl bwy bynnag sy'n gweithio ar y Saboth. 15Am chwe diwrnod y gweithir, ond y mae'r seithfed dydd yn Saboth i orffwys, ac yn gysegredig i'r ARGLWYDD; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n gweithio ar y dydd Saboth. 16Am hynny, bydd pobl Israel yn dathlu'r Saboth ac yn ei gadw dros y cenedlaethau yn gyfamod tragwyddol. 17Y mae'n arwydd tragwyddol rhyngof a phobl Israel mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD y nefoedd a'r ddaear, ac iddo ymatal a gorffwys ar y seithfed dydd.’ ”
18Wedi iddo orffen llefaru wrth Moses ar Fynydd Sinai, rhoddodd yr ARGLWYDD iddo ddwy lech y dystiolaeth, llechau o gerrig, wedi eu hysgrifennu â bys Duw.

Currently Selected:

Exodus 31: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in