YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 22

22
Troseddau Jerwsalem
1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2“Yn awr, fab dyn, a ferni di? A ferni di y ddinas waedlyd, a pheri iddi wybod ei holl ffieidd-dra? 3Dywed wrthi, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: O ddinas, sy'n dwyn ei thynged arni ei hun trwy dywallt gwaed o'i mewn, ac yn ei halogi ei hun â'i heilunod, 4yr wyt yn euog oherwydd y gwaed a dywelltaist, ac yn halogedig oherwydd yr eilunod a wnaethost. Daethost â'th ddyddiau i ben, a daeth diwedd ar dy flynyddoedd. Am hynny, gwnaf di'n warth i'r cenhedloedd ac yn gyff gwawd i'r holl wledydd. 5Bydd y rhai agos a'r rhai pell yn dy wawdio di, yr un enwog am dy ddrygioni a'r un llawn cythrwfl. 6Ynot ti y mae holl dywysogion Israel yn defnyddio'u nerth i dywallt gwaed. 7O'th fewn di y maent yn dirmygu tad a mam, yn gorthrymu'r dieithr sydd ynot, ac yn cam-drin yr amddifad a'r weddw. 8Yr wyt wedi diystyru fy mhethau sanctaidd ac wedi halogi fy Sabothau. 9Y mae ynot bobl sy'n enllibio er mwyn tywallt gwaed, yn bwyta yng nghysegrfeydd y mynyddoedd ac yn gweithredu'n anllad o'th fewn. 10Y mae ynot rai sy'n datguddio noethni eu tadau, ac yn treisio merched yn ystod eu misglwyf; 11y mae un yn gwneud ffieidd-dra gyda gwraig ei gymydog, un arall yn halogi'n anllad ei ferch-yng-nghyfraith, ac un arall yn treisio ei chwaer, merch ei dad ei hun. 12Y mae ynot rai sy'n derbyn llwgrwobr am dywallt gwaed; yr wyt yn cymryd llog ac elw, ac yn elwa ar dy gymdogion trwy drais. Anghofiaist fi, medd yr Arglwydd DDUW.
13“ ‘Yn wir, byddaf yn dyrnu yn erbyn yr elw a wnaethost ac yn erbyn y gwaed sydd o'th fewn. 14A ddeil dy ddewrder, ac a fydd dy ddwylo'n gryf yn y dydd y byddaf fi'n ymwneud â thi? Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd, a myfi a fydd yn gweithredu. 15Fe'th wasgaraf ymysg y cenhedloedd a'th chwalu trwy'r gwledydd, a rhof ddiwedd ar dy aflendid. 16Pan fyddi'n halogedig yng ngolwg y cenhedloedd, byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”
17Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 18“Fab dyn, fe aeth tŷ Israel yn amhur gennyf; y maent i gyd yn gymysg o bres, alcam, haearn a phlwm mewn ffwrnais; arian amhur ydynt. 19Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i chwi oll fynd yn amhur, fe'ch casglaf ynghyd i Jerwsalem. 20Fel y cesglir arian, pres, haearn, plwm ac alcam i ffwrnais â thân dani i'w toddi, felly y casglaf finnau chwi yn fy nicter a'm llid, a'ch rhoi yno a'ch toddi. 21Fe'ch casglaf, a chwythu arnoch â'm dig tanllyd, ac fe'ch toddir ynddi. 22Fel y toddir arian mewn ffwrnais, felly y toddir chwithau ynddi, a byddwch yn gwybod mai myfi'r ARGLWYDD a dywalltodd fy llid arnoch.”
23Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 24“Fab dyn, dywed wrthi, ‘Gwlad heb gael cawodydd#22:24 Felly Groeg. Hebraeg, glendid. na glaw fuost yn nydd dicter.’ 25Y mae brad ei thywysogion#22:25 Felly Groeg, Hebraeg, ei phroffwydi. o'i mewn fel rhu llew yn llarpio'i ysglyfaeth; y maent yn traflyncu pobl, yn cymryd eu cyfoeth a'u trysor, ac yn gwneud llawer yn weddwon o'i mewn. 26Y mae ei hoffeiriaid yn treisio fy nghyfraith ac yn halogi fy mhethau sanctaidd; nid ydynt yn gwahaniaethu rhwng sanctaidd a chyffredin, nac yn cydnabod gwahaniaeth rhwng glân ac aflan; y maent yn anwybyddu fy Sabothau, ac fe'm halogir yn eu mysg. 27Y mae ei swyddogion o'i mewn fel bleiddiaid yn llarpio ysglyfaeth; y maent yn tywallt gwaed ac yn lladd pobl er mwyn gwneud elw. 28Y mae ei phroffwydi'n gwyngalchu drostynt â gweledigaethau gau ac argoelion twyllodrus, ac yn dweud, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW’, a'r ARGLWYDD heb ddweud. 29Y mae pobl y wlad yn arfer trais ac yn lladrata; y maent yn gorthrymu'r tlawd a'r anghenog, ac yn treisio'r dieithryn gan atal cyfiawnder. 30Chwiliais am rywun yn eu mysg a allai adeiladu mur, a sefyll o'm blaen yn y bwlch, i amddiffyn y wlad rhag dinistr, ond ni chefais yr un. 31Tywelltais fy llid arnynt a'u dinistrio â'm dicter tanllyd, a dwyn ar eu pennau eu hunain yr hyn a wnaethant,” medd yr Arglwydd DDUW.

Currently Selected:

Eseciel 22: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Eseciel 22