Hosea 14
14
Apêl Hosea at Israel
1Dychwel, Israel at yr ARGLWYDD dy Dduw,
canys syrthiaist oherwydd dy ddrygioni.
2Cymerwch eiriau gyda chwi,
a dychwelwch at yr ARGLWYDD;
dywedwch wrtho, “Maddau'r holl ddrygioni,
derbyn ddaioni, a rhown i ti ffrwyth#14:2 Felly Groeg a Syrieg. Hebraeg, loi. ein gwefusau.
3Ni all Asyria ein hachub,
ac ni farchogwn ar geffylau;
ac wrth waith ein dwylo
ni ddywedwn eto, ‘Ein Duw’.
Ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd.”
Ymateb Duw
4“Iachâf eu hanffyddlondeb;
fe'u caraf o'm bodd,
oherwydd trodd fy llid oddi wrthynt.
5Byddaf fel gwlith i Israel;
blodeua fel lili
a lleda'i wraidd fel pren poplys#14:5 Hebraeg, fel Lebanon..
6Lleda'i flagur,
a bydd ei brydferthwch fel yr olewydden,
a'i arogl fel Lebanon.
7Dychwelant a thrigo yn fy nghysgod#14:7 Hebraeg, ei gysgod.;
cynhyrchant ŷd,
ffrwythant fel y winwydden,
bydd eu harogl fel gwin Lebanon.
8“Beth sydd a wnelo Effraim mwy ag eilunod?
Myfi sydd yn ei ateb ac yn ei arwain yn gywir.
Yr wyf fi fel cypreswydden ddeiliog;
oddi wrthyf y daw dy ffrwyth.”
9Pwy bynnag sydd ddoeth, dealled hyn;
pwy bynnag sydd ddeallgar, gwybydded.
Oherwydd y mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn gywir;
rhodia'r cyfiawn ynddynt,
ond meglir y drygionus ynddynt.
Currently Selected:
Hosea 14: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004