YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 1

1
Y Proffwyd
1Dyma'r weledigaeth a ddaeth i Eseia fab Amos am Jwda a Jerwsalem yn ystod teyrnasiad Usseia, Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda.
Pobl Wrthryfelgar
2Clyw, nefoedd! Gwrando, ddaear!
Oherwydd llefarodd yr ARGLWYDD:
“Megais blant a'u meithrin,
ond codasant mewn gwrthryfel yn f'erbyn.
3Y mae'r ych yn adnabod y sawl a'i piau,
a'r asyn breseb ei berchennog;
ond nid yw Israel yn adnabod,
ac nid yw fy mhobl yn deall.”
4O genhedlaeth bechadurus,
pobl dan faich o ddrygioni,
epil drwgweithredwyr,
plant anrheithwyr!
Y maent wedi gadael yr ARGLWYDD,
wedi dirmygu Sanct Israel, a throi cefn.
5I ba ddiben y trewir chwi mwyach,
gan eich bod yn parhau i wrthgilio?
Y mae eich pen yn ddoluriau i gyd,
a'ch holl galon yn ysig;
6o'r corun i'r sawdl nid oes un man yn iach,
dim ond archoll a chlais a dolur crawnllyd
heb eu gwasgu na'u rhwymo na'u hesmwytho ag olew.
7Y mae eich gwlad yn anrhaith, eich dinasoedd yn ulw,
a dieithriaid yn ysu eich tir yn eich gŵydd;
y mae'n ddiffaith fel Sodom#1:7 Tebygol. Hebraeg, dieithriaid. ar ôl ei dinistrio.
8Gadawyd Seion
fel caban mewn gwinllan,
fel cwt mewn gardd cucumerau,
fel dinas dan warchae.
9Oni bai i ARGLWYDD y Lluoedd adael i ni weddill bychan,
byddem fel Sodom, a'r un ffunud â Gomorra.
10Clywch air yr ARGLWYDD, chwi reolwyr Sodom,
gwrandewch ar gyfraith ein Duw, chwi bobl Gomorra.
11“Beth i mi yw eich aml aberthau?” medd yr ARGLWYDD.
“Cefais syrffed ar boethoffrwm o hyrddod a braster anifeiliaid;
ni chaf bleser o waed bustych nac o ŵyn na bychod.
12Pan ddewch i ymddangos o'm blaen,
pwy sy'n gofyn hyn gennych, sef mathru fy nghynteddau?
13Peidiwch â chyflwyno rhagor o offrymau ofer;
y mae arogldarth yn ffiaidd i mi.
Gŵyl y newydd-loer, Sabothau a galw cymanfa—
ni allaf oddef drygioni a chynulliad sanctaidd.
14Y mae'n gas gan f'enaid eich newydd-loerau a'ch gwyliau sefydlog;
aethant yn faich arnaf, a blinais eu dwyn.
15Pan ledwch eich dwylo mewn gweddi,
trof fy llygaid ymaith;
er i chwi amlhau eich ymbil,
ni fynnaf wrando arnoch.
Y mae eich dwylo'n llawn gwaed;
16ymolchwch, ymlanhewch.
Ewch â'ch gweithredoedd drwg o'm golwg;
17peidiwch â gwneud drwg, dysgwch wneud daioni.
Ceisiwch farn, achubwch gam y gorthrymedig,
amddiffynnwch yr amddifad, a chymerwch blaid y weddw.
18“Yn awr, ynteu, ymresymwn â'n gilydd,” medd yr ARGLWYDD.
“Pe bai eich pechodau fel ysgarlad,
fe fyddant cyn wynned â'r eira;
pe baent cyn goched â phorffor,
fe ânt fel gwlân.
19Os bodlonwch i ufuddhau,
cewch fwyta o ddaioni'r tir;
20ond os gwrthodwch, a gwrthryfela,
fe'ch ysir â chleddyf.”
Genau'r ARGLWYDD a'i llefarodd.
Y Ddinas Bechadurus
21O fel yr aeth y ddinas ffyddlon yn butain!
Bu'n llawn o farn, a thrigai cyfiawnder ynddi,
ond bellach llofruddion.
22Aeth dy arian yn sorod,
a'th win yn gymysg â dŵr.
23Y mae dy arweinwyr yn wrthryfelwyr
ac yn bartneriaid lladron;
y maent i gyd yn caru cildwrn
ac yn chwilio am wobrau;
nid ydynt yn amddiffyn yr amddifad,
ac ni roddant sylw i gŵyn y weddw.
24Am hynny, medd yr ARGLWYDD,
ARGLWYDD y Lluoedd, Cadernid Israel,
“Aha! Caf fwrw fy llid ar y rhai sy'n fy mlino,
a dialaf ar fy ngelynion.
25Trof fy llaw yn dy erbyn,
puraf dy sorod â thrwyth,
a symudaf dy holl amhuredd.
26Trof dy farnwyr i fod fel cynt,
a'th gynghorwyr fel yn y dechrau.
Ac wedi hynny fe'th elwir
yn ddinas gyfiawn, yn dref ffyddlon.”
27Gwaredir Seion trwy farn,
a'i rhai edifeiriol trwy gyfiawnder.
28Ond daw dinistr i'r gwrthryfelwyr a'r pechaduriaid ynghyd,
a diddymir y rhai a gefna ar Dduw.
29Bydd arnoch gywilydd o'r#1:29 Felly llawysgrifau a Targwm. TM, Fe'u cywilyddir gan y. deri a oedd yn hoff gennych,
a gwridwch dros eich gerddi dethol;
30byddwch fel coeden dderw a'i dail wedi gwywo,
ac fel gardd heb ddŵr ynddi.
31Bydd y cadarn fel cynnud,
a'i orchest fel gwreichionen;
fe losgant ill dau ynghyd,
ac ni all neb eu diffodd.

Currently Selected:

Eseia 1: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in