YouVersion Logo
Search Icon

Caniad Solomon 8

8
1O na fyddit yn frawd i mi,
wedi dy fagu ar fronnau fy mam!
Yna pan welwn di yn y stryd byddwn yn dy gusanu,
ac ni fyddai neb yn fy nirmygu.
2Byddwn yn dy arwain
a'th ddwyn i dŷ fy mam a'm hyfforddodd,
a rhoi gwin llysiau yn ddiod iti,
sudd fy mhomgranadau.
3Yna byddai ei fraich chwith o dan fy mhen,
a'i fraich dde yn fy nghofleidio.
4Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch.
Peidiwch â deffro na tharfu fy nghariad
nes y bydd yn barod.
Y Chweched Caniad
5Pwy yw hon sy'n dod i fyny o'r anialwch,
yn pwyso ar ei chariad?
Deffroais di dan y pren afalau,
lle bu dy fam mewn gwewyr gyda thi,
lle bu'r un a esgorodd arnat mewn gwewyr.
6Gosod fi fel sêl ar dy galon,
fel sêl ar dy fraich;
oherwydd y mae cariad mor gryf â marwolaeth,
a nwyd mor greulon â'r bedd;
y mae'n llosgi fel ffaglau tanllyd,
fel fflam angerddol.
7Ni all dyfroedd lawer ddiffodd cariad,
ac ni all afonydd ei foddi.
Pe byddai rhywun yn cynnig holl gyfoeth ei dŷ am gariad,
byddai hynny yn cael ei ddirmygu'n llwyr.
8Y mae gennym chwaer fach
sydd heb fagu bronnau.
Beth a wnawn i'n chwaer
pan ofynnir amdani?
9Os mur yw hi,
byddwn yn adeiladu caer arian arno;
os drws,
byddwn yn ei gau ag astell gedrwydd.
10Mur wyf fi,
a'm bronnau fel tyrau;
yn ei olwg ef yr wyf
fel un yn rhoi boddhad.
11Yr oedd gan Solomon winllan yn Baal-hamon;
pan osododd ei winllan yng ngofal gwylwyr,
yr oedd pob un i roi mil o ddarnau arian am ei ffrwyth.
12Ond y mae fy ngwinllan i yn eiddo i mi fy hun;
fe gei di, Solomon, y mil o ddarnau arian,
a chaiff y rhai sy'n gwylio'i ffrwyth ddau gant.
13Ti sy'n eistedd yn yr ardd,
a chyfeillion yn gwrando ar dy lais,
gad i mi dy glywed.
14Brysia allan, fy nghariad,
a bydd yn debyg i afrewig,
neu'r hydd ifanc
ar fynyddoedd y perlysiau.

Currently Selected:

Caniad Solomon 8: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in