YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 8

8
Arwydd i'r Bobl
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cymer sgrôl fawr ac ysgrifenna arni mewn llythrennau eglur, ‘I Maher-shalal-has-bas#8:1 H.y., Brysia'r ysbail, prysura'r ysglyfaeth.’; 2a galw#8:2 Felly Groeg. Hebraeg, a gelwais. yn dystion cywir i mi Ureia yr offeiriad a Sechareia fab Jeberecheia.” 3Yna euthum at y broffwydes; beichiogodd hithau ac esgor ar fab, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Galw ei enw Maher-shalal-has-bas, 4oherwydd cyn i'r bachgen fedru galw, ‘Fy nhad’ neu ‘Fy mam’, bydd golud Damascus ac ysbail Samaria yn cael eu dwyn ymaith o flaen brenin Asyria.”
Dinistr Brenin Asyria
5Llefarodd yr ARGLWYDD wrthyf drachefn,
6“Oherwydd i'r bobl hyn wrthod
dyfroedd Siloa, sy'n llifo'n dawel,
a chrynu gan ofn#8:6 Tebygol. Hebraeg, yn ymhyfrydu yn. o flaen Resin a mab Remaleia,
7am hynny, bydd yr ARGLWYDD yn dwyn arnynt
ddyfroedd yr Ewffrates, yn gryf ac yn fawr,
brenin Asyria a'i holl ogoniant.
Fe lifa dros ei holl sianelau,
a thorri dros ei holl gamlesydd;
8fe ysguba trwy Jwda fel dilyw,
a gorlifo nes cyrraedd at y gwddf.
Bydd cysgod ei adenydd yn llenwi holl led dy dir,
O Immanuel#8:8 H.y., Duw gyda ni..”
9Ystyriwch#8:9 Felly Groeg. Hebraeg, Torrer chwi., bobloedd, fe'ch dryllir;
gwrandewch, chwi bellafion byd;
ymwregyswch, ac fe'ch dryllir;
ymwregyswch, ac fe'ch dryllir.
10Lluniwch gyngor, ac fe'i diddymir;
dywedwch air, ac ni saif,
Oherwydd y mae Duw gyda ni#8:10 Hebraeg, Immanuel..
Ofni Duw
11Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, pan oedd yn gafael yn dynn ynof ac yn fy rhybuddio rhag rhodio yn llwybrau'r bobl hyn:
12“Peidiwch â dweud ‘Cynllwyn!’
am bob peth a elwir yn gynllwyn gan y bobl hyn;
a pheidiwch ag ofni'r hyn y maent hwy yn ei ofni,
nac arswydo rhagddo.
13Ond ystyriwch yn sanctaidd ARGLWYDD y Lluoedd;
ofnwch ef, ac arswydwch rhagddo ef.
14Bydd ef yn fagl#8:14 Tebygol. Hebraeg, cysegr.,
ac i ddau dŷ Israel bydd yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr;
bydd yn rhwyd ac yn fagl i drigolion Jerwsalem.
15A bydd llawer yn baglu drostynt;
syrthiant, ac fe'u dryllir;
cânt eu baglu a'u dal.”
16Rhwyma'r dystiolaeth,
selia'r gyfraith ymhlith fy nisgyblion.
17Disgwyliaf finnau am yr ARGLWYDD,
sy'n cuddio'i wyneb rhag tŷ Jacob;
arhosaf yn eiddgar amdano.
18Wele fi a'r meibion a roes yr ARGLWDD i mi yn arwyddion ac yn argoelion yn Israel oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd, sy'n trigo ym Mynydd Seion.
19A phan fydd y bobl yn dweud wrthych, “Ewch i ymofyn â'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sisial a sibrwd”, onid yw'r bobl yn ymhél â'r duwiau, ac yn ymofyn â'r meirw dros y byw 20am gyfarwyddyd a thystiolaeth? Dyma'r gair a ddywedant, ac nid oes oleuni ynddo. 21Bydd yn tramwy trwy'r wlad#8:21 Hebraeg, tramwy trwyddi. mewn caledi a newyn; a phan newyna bydd yn chwerwi, ac yn melltithio ei frenin a'i Dduw. 22A phan fydd yn troi ei olwg tuag i fyny neu'n edrych tua'r ddaear, wele drallod a thywyllwch, caddug cyfyngder; bydd wedi ei fwrw i dywyllwch du.

Currently Selected:

Eseia 8: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in