Jeremeia 2
2
Gofal Duw dros Israel
1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2“Dos, a chyhoedda yng nghlyw Jerwsalem, a dywed:
“ ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
Cofiaf di am dy deyrngarwch yn dy ieuenctid,
ac am dy serch yn ddyweddi,
ac am iti fy nghanlyn yn y diffeithwch,
mewn tir heb ei hau.
3Yr oedd Israel yn gysegredig i'r ARGLWYDD,
ac yn flaenffrwyth ei gnwd.
Euog oedd pwy bynnag a'i bwytaodd;
daeth dinistr arno,’ ” medd yr ARGLWYDD.
Pechodau'r Hynafiaid
4Clywch air yr ARGLWYDD, O dŷ Jacob, a holl deuluoedd tŷ Israel. 5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Pa fai a gafodd eich hynafiaid ynof, i ymbellhau oddi wrthyf,
i rodio ar ôl oferedd, a mynd yn ofer?
6Ni ddywedasant, ‘Ple mae'r ARGLWYDD a'n dygodd i fyny o'r Aifft,
a'n harwain yn y diffeithwch,
mewn tir anial, llawn o dyllau,
tir sychder a thywyllwch dudew,
tir nas troediwyd erioed, ac na thrigodd neb ynddo?’
7Dygais chwi i wlad gnydfawr,
i fwyta ei ffrwyth a'i daioni;
ond daethoch i mewn a halogi fy nhir,
a gwneud fy etifeddiaeth yn ffieidd-dra.
8Ni ddywedodd yr offeiriaid, ‘Ple mae'r ARGLWYDD?’
Ni fu i'r rhai oedd yn trin y gyfraith f'adnabod,
a throseddodd y bugeiliaid yn f'erbyn;
proffwydodd y proffwydi trwy Baal, gan ddilyn pethau dilesâd.”
Yr ARGLWYDD yn Cyhuddo'i Bobl
9“ ‘Am hyn, fe'ch cyhuddaf drachefn,’ medd yr ARGLWYDD,
‘gan gyhuddo hefyd blant eich plant.
10Tramwywch drwy ynysoedd Chittim ac edrychwch;
anfonwch i Cedar, ystyriwch a gwelwch a fu'r fath beth.
11A fu i unrhyw genedl newid ei duwiau,
a hwythau heb fod yn dduwiau?
Ond rhoddodd fy mhobl eu gogoniant yn gyfnewid am bethau dilesâd.
12O nefoedd, rhyfeddwch at hyn;
arswydwch, ac ewch yn gwbl ddiffaith,’ medd yr ARGLWYDD.
13‘Yn wir, gwnaeth fy mhobl ddau ddrwg:
fe'm gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw,
a chloddio iddynt eu hunain bydewau,
pydewau toredig, na allant ddal dŵr.’ ”
Canlyniadau Anffyddlondeb Israel
14“Ai caethwas yw Israel? Neu a anwyd ef yn gaeth?
Pam, ynteu, yr aeth yn ysbail?
15Rhuodd y llewod a chodi eu llais yn ei erbyn.
Gwnaethant ei dir yn ddiffaith,
a'i ddinasoedd yn anghyfannedd heb drigiannydd.
16Hefyd, torrodd meibion Noff a Tahpanhes dy gorun.
17Oni ddygaist hyn arnat dy hun,
trwy adael yr ARGLWYDD dy Dduw
pan oedd yn d'arwain yn y ffordd?
18Yn awr, beth a wnei di yn mynd i'r Aifft,
i yfed dyfroedd y Neil,
neu'n mynd i Asyria, i yfed dyfroedd yr Ewffrates?
19Fe'th gosbir gan dy ddrygioni dy hun,
a'th geryddu gan dy wrthgiliad.
Ystyria a gwêl mai drwg a chwerw
yw i ti adael yr ARGLWYDD dy Dduw,
a pheidio â'm hofni,” medd yr Arglwydd, DUW y Lluoedd.
Israel yn Gwrthod Addoli'r ARGLWYDD
20“Erstalwm yr wyt wedi torri#2:20 Felly Groeg. Hebraeg, torrais. dy iau a dryllio dy rwymau,
a dweud, ‘Ni wasanaethaf’.
Canys ar bob bryn uchel a than bob pren gwyrddlas,
plygaist i buteinio.
21Plennais di yn winwydden bêr, o had glân pur;
sut ynteu y'th drowyd yn blanhigyn afrywiog i mi,
yn winwydden estron?
22Pe bait yn ymolchi â neitr, a chymryd llawer o sebon,
byddai ôl dy gamwedd yn aros ger fy mron,” medd yr ARGLWYDD.
23“Sut y gelli ddweud, ‘Nid wyf wedi fy halogi, na mynd ar ôl Baalim?’
Gwêl dy ffordd yn y glyn; ystyria beth a wnaethost.
Camel chwim ydwyt, yn gwibio'n ddi-drefn yn ei llwybrau;
24asen wyllt, a'i chynefin yn yr anialwch,
yn ei blys yn ffroeni'r gwynt.
Pwy a atal ei nwyd?
Ni flina'r un sy'n ei chwennych;
fe'i cânt yn ei hamser.
25Cadw dy droed rhag noethni, a'th lwnc rhag syched.
Ond dywedaist, ‘Nid oes gobaith.
Mi gerais estroniaid ac ar eu hôl hwy yr af.’ ”
Israel yn Haeddu ei Chosbi
26“Fel cywilydd lleidr wedi ei ddal y cywilyddia tŷ Israel—
hwy, eu brenhinoedd, a'u tywysogion,
eu hoffeiriaid a'u proffwydi.
27Dywedant wrth bren, ‘Ti yw fy nhad’,
ac wrth garreg, ‘Ti a'm cenhedlodd’.
Troesant ataf wegil, ac nid wyneb;
ond yn awr eu hadfyd dywedant, ‘Cod, achub ni’.
28Ple mae dy dduwiau, a wnaethost iti?
Boed iddynt hwy godi os gallant dy achub yn awr dy adfyd.
Oherwydd y mae dy dduwiau mor niferus â'th ddinasoedd, O Jwda.
29Pam yr ydych yn dadlau â mi?
Rydych wedi gwrthryfela yn f'erbyn, bawb ohonoch,” medd yr ARGLWYDD.
30“Yn ofer y trewais eich plant; ni dderbyniant gerydd.
Y mae eich cleddyf wedi difa'ch proffwydi, fel llew yn rheibio.
31Chwi genhedlaeth, ystyriwch air yr ARGLWYDD.
Ai anialwch a fûm i Israel, neu wlad tywyllwch?
Pam y dywed fy mhobl, ‘Yr ydym ni'n rhydd;
ni ddown mwyach atat ti’?
32A anghofia geneth ei thlysau, neu briodferch ei rhubanau?
Eto y mae fy mhobl wedi fy anghofio i, ddyddiau di-rif.
33“Mor dda yr wyt yn dewis dy ffordd i geisio cariadon,
gan ddysgu dy ffyrdd hyd yn oed i ferched drwg.
34Cafwyd ym mhlygion dy wisg waed einioes tlodion diniwed—
ac nid yn torri i mewn y deliaist hwy—
35ond er hyn i gyd, yr wyt yn dweud, ‘Rwy'n ddieuog; fe dry ei lid oddi wrthyf.’
Ond wele, fe'th ddygaf i farn am#2:35 Neu, er. iti ddweud, ‘Ni phechais.’
36Mor ddi-hid wyt yn newid dy ffordd;
fe'th gywilyddir gan yr Aifft, fel y cywilyddiwyd di gan Asyria.
37Doi allan oddi yno hefyd, a'th ddwylo ar dy ben,
oherwydd gwrthoda'r ARGLWYDD y rhai yr ymddiriedi ynddynt, ac ni lwyddi drwyddynt.”
Currently Selected:
Jeremeia 2: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004