YouVersion Logo
Search Icon

Jeremeia 24

24
Dau Gawell o Ffigys
1Dangosodd yr ARGLWYDD i mi, ac yno yr oedd dau gawell o ffigys wedi eu gosod o flaen teml yr ARGLWYDD. Yr oedd hyn ar ôl i Nebuchadnesar brenin Babilon gaethgludo Jechoneia, mab Jehoiacim brenin Jwda, a thywysogion Jwda, a'r crefftwyr a'r gofaint o Jerwsalem, a'u dwyn i Fabilon. 2Yn un cawell yr oedd ffigys da iawn, fel ffigys blaenffrwyth, ac yn yr ail gawell ffigys drwg iawn, na ellid eu bwyta gan mor ddrwg oeddent. 3Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Beth a weli di, Jeremeia?” A dywedais, “Ffigys; y ffigys da yn dda iawn, a'r rhai drwg yn ddrwg iawn, na ellid eu bwyta gan mor ddrwg oeddent.”
4Daeth gair yr ARGLWYDD ataf: 5“Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Fel y ffigys da hyn yr ystyriaf y rhai a gaethgludwyd o Jwda, ac a yrrais o'r lle hwn er eu lles i wlad y Caldeaid. 6Cadwaf fy ngolwg arnynt er daioni, a dygaf hwy'n ôl i'r wlad hon, a'u hadeiladu, ac nid eu tynnu i lawr; eu plannu ac nid eu diwreiddio. 7Rhof iddynt galon i'm hadnabod, mai myfi yw'r ARGLWYDD; a byddant yn bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy. Byddant yn troi ataf fi â'u holl galon.’
8“Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Fel y ffigys drwg, na ellid eu bwyta gan mor ddrwg oeddent, yr ystyriaf Sedeceia brenin Jwda, a'i dywysogion, a gweddill Jerwsalem a adewir yn y wlad hon, a'r rhai sy'n trigo yng ngwlad yr Aifft. 9Gwnaf hwy'n arswyd, yn gywilydd i holl deyrnasoedd y ddaear, ac yn ddihareb a gwatwar a melltith, ym mhob man lle'r alltudiaf hwy. 10Gyrraf arnynt gleddyf a newyn a haint, nes eu difodi o'r tir a rois iddynt ac i'w hynafiaid.’ ”

Currently Selected:

Jeremeia 24: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Videos for Jeremeia 24