YouVersion Logo
Search Icon

Jeremeia 5

5
Pechod Jerwsalem
1“Rhedwch yma a thraw trwy heolydd Jerwsalem, edrychwch a sylwch;
chwiliwch yn ei lleoedd llydain a oes un i'w gael
sy'n gwneud barn ac yn ceisio gwirionedd,
er mwyn i mi ei harbed hi.
2Er iddynt ddweud, ‘Byw yw'r ARGLWYDD’,
eto tyngu'n gelwyddog y maent.”
3O ARGLWYDD, onid ar wirionedd y mae dy lygaid di?
Trewaist hwy, ond ni fu'n ofid iddynt;
difethaist hwy, ond gwrthodasant dderbyn cerydd.
Gwnaethant eu hwynebau'n galetach na charreg,
a gwrthod dychwelyd.
4Yna dywedais, “Nid yw'r rhai hyn ond tlodion; ynfydion ydynt,
a heb wybod ffordd yr ARGLWYDD na gofynion eu Duw.
5Mi af yn hytrach at y mawrion, i ymddiddan â hwy;
fe wyddant hwy ffordd yr ARGLWYDD a gofynion eu Duw.
Ond y maent hwythau'n ogystal wedi malurio'r iau,
a dryllio'r tresi.
6Am hyn, bydd llew o'r coed yn eu taro i lawr,
a blaidd o'r anialwch yn eu distrywio;
bydd llewpard yn gwylio'u dinasoedd
ac yn llarpio pob un a ddaw allan ohonynt;
oherwydd amlhaodd eu troseddau a chynyddodd eu gwrthgiliad.
7“Sut y maddeuaf iti am hyn?
Y mae dy blant wedi fy ngadael,
ac wedi tyngu i'r rhai nad ydynt dduwiau.
Diwellais hwy, eto gwnaethant odineb a heidio i dŷ'r butain.
8Yr oeddent fel meirch nwydus a phorthiannus,
pob un yn gweryru am gaseg ei gymydog.
9Onid ymwelaf â chwi am hyn?” medd yr ARGLWYDD.
“Oni ddialaf ar y fath genedl â hon?
10“Tramwywch trwy ei rhesi gwinwydd, a dinistriwch hwy,
ond peidiwch â gwneud diwedd llwyr.
Torrwch ymaith ei brigau, canys nid eiddo'r ARGLWYDD mohonynt.
11Oherwydd bradychodd tŷ Israel a thŷ Jwda fi'n llwyr,” medd yr ARGLWYDD.
12Buont yn gelwyddog am yr ARGLWYDD a dweud, “Ni wna ef ddim.
Ni ddaw drwg arnom, ni welwn gleddyf na newyn;
13nid yw'r proffwydi ond gwynt, nid yw'r gair yn eu plith.
Fel hyn y gwneir iddynt.”
14Am hynny, dyma air yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd:
“Am i chwi siarad fel hyn,
dyma fi'n rhoi fy ngeiriau yn dy enau fel tân,
a'r bobl hyn yn gynnud, ac fe'u difa.
15Wele, fe ddygaf yn eich erbyn, dŷ Israel, genedl o bell—
hen genedl, cenedl o'r oesoedd gynt,” medd yr ARGLWYDD,
“cenedl nad wyt yn gwybod ei hiaith, nac yn deall yr hyn y mae'n ei ddweud.
16Y mae ei chawell saethau fel bedd agored;
gwŷr cedyrn ydynt oll.
17Fe ysa dy gynhaeaf a'th fara;
ysa dy feibion a'th ferched;
ysa dy braidd a'th wartheg;
ysa dy winwydd a'th ffigyswydd;
distrywia â chleddyf dy ddinasoedd caerog,
y dinasoedd yr wyt yn ymddiried ynddynt.
18“Ac eto yn y dyddiau hynny,” medd yr ARGLWYDD, “ni ddygaf ddiwedd llwyr arnoch. 19Pan ddywedwch, ‘Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD ein Duw yr holl bethau hyn i ni?’, fe ddywedi wrthynt, ‘Fel y bu i chwi fy ngwrthod i, a gwasanaethu duwiau estron yn eich tir, felly y gwasanaethwch bobl ddieithr mewn gwlad nad yw'n eiddo i chwi.’
20“Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob, cyhoeddwch hyn yn Jwda a dweud,
21‘Clywch hyn yn awr, bobl ynfyd, ddiddeall:
y mae ganddynt lygaid, ond ni welant; clustiau, ond ni chlywant.
22Onid oes arnoch fy ofn i?’ medd yr ARGLWYDD. ‘Oni chrynwch o'm blaen?
Mi osodais y tywod yn derfyn i'r môr,
yn derfyn sicr na all ei groesi;
pan ymgasgla'r tonnau ni thyciant,
pan rua'r dyfroedd nid ânt drosto.
23Ond calon wrthnysig a gwrthryfelgar sydd gan y bobl hyn;
y maent yn parhau i wrthgilio.
24Ac ni ddywedant yn eu calon, “Bydded inni ofni'r ARGLWYDD ein Duw,
sy'n rhoi'r glaw, a chawodydd y gwanwyn a'r hydref yn eu pryd,
a sicrhau i ni wythnosau penodedig y cynhaeaf.”
25Ond y mae eich camweddau wedi rhwystro hyn,
a'ch pechodau wedi atal daioni rhagoch.
26Oherwydd cafwyd rhai drwg ymhlith fy mhobl;
y maent yn gwylio fel un yn gosod magl,
ac yn gosod offer dinistr i ddal pobl.
27Fel y mae cawell yn llawn o adar,
felly y mae eu tai yn llawn o dwyll.
28Trwy hynny aethant yn fawr a chyfoethog, yn dew a bras.
Aethant hefyd y tu hwnt i weithredoedd drwg;
ni roddant ddedfryd deg i'r amddifad, i beri iddo lwyddo,
ac nid ydynt yn iawn farnu achos y tlawd.
29Onid ymwelaf â chwi am hyn?’ medd yr ARGLWYDD.
‘Oni ddialaf ar y fath genedl â hon?
30Peth aruthr ac erchyll a ddaeth i'r wlad.
31Y mae'r proffwydi yn proffwydo celwydd,
a'r offeiriaid yn cyfarwyddo'n unol â hynny,
a'm pobl yn hoffi'r peth.
Ond beth a wnewch yn y diwedd?’ ”

Currently Selected:

Jeremeia 5: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in