Lefiticus 14
14
Puro ar ôl Haint
1Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses a dweud, 2“Dyma fydd y gyfraith ynglŷn â'r heintus ar ddydd ei lanhau. Dyger ef at yr offeiriad, 3a bydd yr offeiriad yn mynd y tu allan i'r gwersyll ac yn ei archwilio. Os bydd wedi gwella o'r haint, 4bydd yr offeiriad yn gorchymyn dod â dau aderyn glân yn fyw, pren cedrwydd, edau ysgarlad ac isop ar ran yr un a lanheir. 5Yna bydd yr offeiriad yn gorchymyn lladd un o'r adar uwchben dŵr croyw mewn llestr pridd. 6Wedyn bydd yn cymryd yr aderyn byw ac yn ei drochi ef, ynghyd â'r pren cedrwydd, yr edau ysgarlad a'r isop, yng ngwaed yr aderyn a laddwyd uwchben y dŵr croyw, 7ac yn ei daenellu seithwaith dros yr un a lanheir o'r haint. Yna bydd yn ei gyhoeddi'n lân ac yn gollwng yr aderyn byw yn rhydd.
8“Y mae'r sawl a lanheir i olchi ei ddillad, eillio'i wallt i gyd ac ymolchi â dŵr, ac yna bydd yn lân; ar ôl hyn caiff ddod i mewn i'r gwersyll, ond y mae i aros y tu allan i'w babell am saith diwrnod. 9Ar y seithfed dydd y mae i eillio'i wallt i gyd oddi ar ei ben, ei farf, ei aeliau a gweddill ei gorff; y mae i olchi ei ddillad ac ymolchi â dŵr. Yna bydd yn lân.
10“Ar yr wythfed dydd y mae i ddod â dau oen di-nam ac un hesbin flwydd ddi-nam, ynghyd â thair degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm, ac un log o olew. 11Bydd yr offeiriad sy'n gyfrifol am lanhau yn dod â hwy, ynghyd â'r sawl a lanheir, o flaen yr ARGLWYDD at ddrws pabell y cyfarfod. 12Bydd yr offeiriad yn cymryd un o'r ŵyn ac yn ei gyflwyno, ynghyd â'r log o olew, yn offrwm dros gamwedd ac yn ei chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD. 13Bydd yn lladd yr oen yn y man sanctaidd lle lleddir yr aberth dros bechod a'r poethoffrwm. Fel yr aberth dros bechod, y mae'r offrwm dros gamwedd yn eiddo i'r offeiriad; y mae'n gwbl sanctaidd. 14Bydd yr offeiriad yn cymryd o waed yr offrwm dros gamwedd a'i roi ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de. 15Yna bydd yr offeiriad yn cymryd peth o'r log o olew, yn ei dywallt ar gledr ei law chwith, 16yn trochi ei fys de yn yr olew ar gledr ei law, ac â'i fys yn taenellu peth o'r olew seithwaith o flaen yr ARGLWYDD. 17Bydd yr offeiriad yn rhoi peth o'r olew sy'n weddill yng nghledr ei law ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de, a hynny dros waed yr offrwm dros gamwedd. 18Bydd yr offeiriad yn rhoi gweddill yr olew sydd yng nghledr ei law ar ben yr un a lanheir, ac yn gwneud cymod drosto o flaen yr ARGLWYDD. 19Yna bydd yr offeiriad yn offrymu'r aberth dros bechod ac yn gwneud cymod dros yr un a lanheir o'i aflendid. Ar ôl hynny bydd yn lladd y poethoffrwm, 20ac yn ei gyflwyno ar yr allor gyda'r bwydoffrwm. Fel hyn y bydd yr offeiriad yn gwneud cymod drosto, a bydd yn lân.
21“Ond os yw'n dlawd a heb fedru fforddio cymaint, y mae i gymryd un oen yn offrwm dros gamwedd, yn offrwm cyhwfan i wneud cymod drosto, ynghyd â degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew yn fwydoffrwm, log o olew, 22a hefyd ddwy durtur neu ddau gyw colomen, fel y gall ei fforddio, y naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm. 23Ar yr wythfed dydd, er mwyn ei lanhau, y mae i ddod â hwy o flaen yr ARGLWYDD at yr offeiriad wrth ddrws pabell y cyfarfod. 24Bydd yr offeiriad yn cymryd oen yr offrwm dros gamwedd, a'r log o olew, ac yn eu chwifio'n offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD. 25Bydd yn lladd oen yr offrwm dros gamwedd ac yn cymryd peth o'i waed a'i roi ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de. 26Bydd yr offeiriad yn tywallt peth o'r olew ar gledr ei law chwith, 27ac â'i fys de yn taenellu peth o'r olew o gledr ei law chwith seithwaith o flaen yr ARGLWYDD. 28Bydd yn rhoi peth o'r olew yng nghledr ei law ar gwr isaf clust dde yr un a lanheir, ar fawd ei law dde ac ar fawd ei droed de, sef yn yr un lle â gwaed yr offrwm dros gamwedd. 29Bydd yr offeiriad yn rhoi gweddill yr olew sydd yng nghledr ei law ar ben yr un a lanheir, i wneud cymod drosto o flaen yr ARGLWYDD. 30Yna bydd yn offrymu naill ai'r turturod neu'r cywion colomennod, fel y gall ei fforddio, 31y naill yn aberth dros bechod a'r llall yn boethoffrwm, ynghyd â'r bwydoffrwm; bydd yr offeiriad yn gwneud cymod o flaen yr ARGLWYDD dros yr un a lanheir.” 32Dyma'r gyfraith ynglŷn â'r sawl sydd â chlefyd heintus arno ac na all fforddio'r offrymau ar gyfer ei lanhau.
Malltod Mewn Tŷ
33Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron a dweud, 34“Pan ddewch i mewn i wlad Canaan, a roddaf yn eiddo ichwi, a minnau'n rhoi malltod heintus mewn tŷ yn y wlad honno, 35dylai perchennog y tŷ fynd at yr offeiriad a dweud wrtho fod rhywbeth tebyg i falltod wedi ymddangos yn y tŷ. 36Bydd yr offeiriad yn gorchymyn gwagio'r tŷ cyn iddo ef fynd i mewn i archwilio'r malltod, rhag i bopeth sydd yn y tŷ gael ei gyhoeddi'n aflan; wedyn bydd yr offeiriad yn mynd i mewn i archwilio'r tŷ. 37Bydd yn archwilio'r malltod ym muriau'r tŷ, ac os caiff agennau gwyrddion neu gochion sy'n ymddangos yn ddyfnach nag wyneb y mur, 38bydd yr offeiriad yn mynd allan o'r tŷ at y drws ac yn cau'r tŷ am saith diwrnod. 39Ar y seithfed dydd bydd yr offeiriad yn dychwelyd i archwilio'r tŷ. Os bydd y malltod wedi lledu ar furiau'r tŷ, 40bydd yr offeiriad yn gorchymyn tynnu allan y meini y mae'r malltod ynddynt, a'u lluchio i le aflan y tu allan i'r ddinas, 41a hefyd crafu muriau'r tŷ oddi mewn, a lluchio'r plastr a dynnir i le aflan y tu allan i'r ddinas. 42Yna byddant yn cymryd meini eraill ac yn eu rhoi yn lle'r rhai a dynnwyd, a hefyd plastr arall a phlastro'r tŷ.
43“Os bydd y malltod yn torri allan eilwaith yn y tŷ ar ôl tynnu allan y meini a chrafu'r muriau a phlastro, 44bydd yr offeiriad yn dod i'w archwilio, ac os bydd y malltod wedi lledu yn y tŷ, y mae'n falltod dinistriol; y mae'r tŷ yn aflan. 45Rhaid tynnu'r tŷ i lawr, yn gerrig, coed a'r holl blastr, a mynd â hwy i le aflan y tu allan i'r ddinas. 46Bydd unrhyw un sy'n mynd i'r tŷ tra bydd wedi ei gau yn aflan hyd yr hwyr. 47Y mae unrhyw un sy'n cysgu neu'n bwyta yn y tŷ i olchi ei ddillad.
48“Os bydd yr offeiriad yn dod i archwilio, a'r malltod heb ledu ar ôl plastro'r tŷ, bydd yn cyhoeddi'r tŷ yn lân oherwydd i'r malltod gilio. 49I buro'r tŷ bydd yn cymryd dau aderyn, pren cedrwydd, edau ysgarlad ac isop. 50Bydd yn lladd un o'r adar uwchben dŵr croyw mewn llestr pridd, 51ac yna'n cymryd y pren cedrwydd, yr isop, yr edau ysgarlad a'r aderyn byw, ac yn eu trochi yng ngwaed yr aderyn a laddwyd ac yn y dŵr croyw, ac yn taenellu'r tŷ seithwaith. 52Bydd yn puro'r tŷ â gwaed yr aderyn, y dŵr croyw, yr aderyn byw, y pren cedrwydd, yr isop a'r edau ysgarlad. 53Yna bydd yn gollwng yr aderyn byw yn rhydd y tu allan i'r ddinas. Bydd yn gwneud cymod dros y tŷ, a bydd yn lân.” 54Dyma'r gyfraith ynglŷn ag unrhyw glefyd heintus, clafr, 55haint mewn dillad neu dŷ, 56chwydd, brech neu smotyn, 57i benderfynu pryd y mae'n aflan a phryd y mae'n lân. Dyma'r gyfraith ynglŷn â haint.
Currently Selected:
Lefiticus 14: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004