Luc 10
10
Cenhadaeth y Deuddeg a Thrigain
1Wedi hynny penododd yr Arglwydd ddeuddeg#10:1 Yn ôl darlleniad arall, ddeg. Felly hefyd yn adn. 17. a thrigain arall, a'u hanfon allan o'i flaen, bob yn ddau, i bob tref a man yr oedd ef ei hun am fynd iddynt. 2Dywedodd wrthynt, “Y mae'r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin; deisyfwch felly ar arglwydd y cynhaeaf i anfon gweithwyr i'w gynhaeaf. 3Ewch; dyma fi'n eich anfon allan fel ŵyn i blith bleiddiaid. 4Peidiwch â chario na phwrs na chod na sandalau, a pheidiwch â chyfarch neb ar y ffordd. 5Pa dŷ bynnag yr ewch i mewn iddo, dywedwch yn gyntaf, ‘Tangnefedd i'r teulu hwn.’ 6Os bydd yno rywun tangnefeddus, bydd eich tangnefedd yn gorffwys arno ef; onid e, bydd yn dychwelyd atoch chwi. 7Arhoswch yn y tŷ hwnnw, a bwyta ac yfed yr hyn a gewch ganddynt, oherwydd y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog. Peidiwch â symud o dŷ i dŷ. 8Ac i ba dref bynnag yr ewch, a chael derbyniad, bwytewch yr hyn a osodir o'ch blaen. 9Iachewch y cleifion yno, a dywedwch wrthynt, ‘Y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos atoch.’ 10Pa dref bynnag yr ewch iddi a chael eich gwrthod, ewch allan i'w strydoedd a dywedwch, 11‘Yn eich erbyn chwi, yr ydym yn sychu ymaith hyd yn oed y llwch o'ch tref a lynodd wrth ein traed. Eto gwybyddwch hyn: y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos.’ 12Rwy'n dweud wrthych y caiff Sodom ar y Dydd hwnnw lai i'w ddioddef na'r dref honno.
Gwae'r Trefi Diedifar
Mth. 11:20–24
13“Gwae di, Chorasin! Gwae di, Bethsaida! Oherwydd petai'r gwyrthiau a wnaethpwyd ynoch chwi wedi eu gwneud yn Tyrus a Sidon, buasent wedi edifarhau erstalwm, gan eistedd mewn sachliain a lludw. 14Eto, caiff Tyrus a Sidon lai i'w ddioddef yn y Farn na chwi. 15A thithau, Capernaum,
“ ‘A ddyrchefir di hyd nef?
Byddi'n disgyn#10:15 Yn ôl darlleniad arall, Fe'th ddymchwelir. hyd Hades.’
16“Y mae'r sawl sy'n gwrando arnoch chwi yn gwrando arnaf fi, a'r sawl sy'n eich anwybyddu chwi yn f'anwybyddu i; ac y mae'r sawl sy'n f'anwybyddu i yn anwybyddu'r hwn a'm hanfonodd i.”
Y Deuddeg a Thrigain yn Dychwelyd
17Dychwelodd y deuddeg a thrigain yn llawen, gan ddweud, “Arglwydd, y mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ymddarostwng inni yn dy enw di.” 18Meddai wrthynt, “Yr oeddwn yn gweld Satan fel mellten yn syrthio o'r nef. 19Dyma fi wedi rhoi i chwi yr awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac i drechu holl nerth y gelyn; ac ni'ch niweidir chwi gan ddim. 20Eto, peidiwch â llawenhau yn hyn, fod yr ysbrydion yn ymddarostwng i chwi; llawenhewch oherwydd fod eich enwau wedi eu hysgrifennu yn y nefoedd.”
Iesu'n Gorfoleddu
Mth. 11:25–27; 13:16–17
21Yr awr honno gorfoleddodd yn yr Ysbryd Glân, ac meddai, “Yr wyf yn dy foliannu di, O Dad, Arglwydd nef a daear, am iti guddio'r pethau hyn rhag y doethion a'r deallusion, a'u datguddio i rai bychain; ie, O Dad, oherwydd felly y rhyngodd dy fodd di. 22Traddodwyd i mi bob peth gan fy Nhad. Ni ŵyr neb pwy yw'r Mab ond y Tad, na phwy yw'r Tad ond y Mab a'r rhai hynny y mae'r Mab yn dewis ei ddatguddio iddynt.” 23Yna troes at ei ddisgyblion ac meddai wrthynt o'r neilltu, “Gwyn eu byd y llygaid sy'n gweld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld. 24Oherwydd rwy'n dweud wrthych fod llawer o broffwydi a brenhinoedd wedi dymuno gweld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.”
Y Samariad Trugarog
25Dyma un o athrawon y Gyfraith yn codi i roi prawf arno, gan ddweud, “Athro, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?” 26Meddai ef wrtho, “Beth sy'n ysgrifenedig yn y Gyfraith? Beth a ddarlleni di yno?” 27Atebodd yntau, “ ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth ac â'th holl feddwl, a châr dy gymydog fel ti dy hun.’ ” 28Meddai ef wrtho, “Atebaist yn gywir; gwna hynny, a byw fyddi.” 29Ond yr oedd ef am ei gyfiawnhau ei hun, ac meddai wrth Iesu, “A phwy yw fy nghymydog?” 30Atebodd Iesu, “Yr oedd rhyw ddyn yn mynd i lawr o Jerwsalem i Jericho, a syrthiodd i blith lladron. Wedi tynnu ei ddillad oddi amdano a'i guro, aethant ymaith, a'i adael yn hanner marw. 31Fel y digwyddodd, yr oedd offeiriad yn mynd i lawr ar hyd y ffordd honno; pan welodd ef, aeth heibio o'r ochr arall. 32Yr un modd daeth Lefiad hefyd at y man; gwelodd ef, ac aeth heibio o'r ochr arall. 33Ond daeth teithiwr o Samariad ato; pan welodd hwn ef, tosturiodd wrtho. 34Aeth ato a rhwymo ei glwyfau, gan arllwys olew a gwin arnynt; gosododd ef ar ei anifail ei hun, a'i arwain i lety, a gofalu amdano. 35Trannoeth tynnodd ddau ddarn arian#10:35 Neu, ddau ddenarius. Gw. nodyn ar Mth. 18:28. allan a'u rhoi i'r gwesteiwr, gan ddweud, ‘Gofala amdano. Os byddi wedi gwario rhywbeth dros ben, fe dalaf fi yn ôl iti pan ddychwelaf.’ 36P'run o'r tri hyn, dybi di, fu'n gymydog i'r dyn a syrthiodd i blith lladron?” 37Meddai ef, “Yr un a gymerodd drugaredd arno.” Ac meddai Iesu wrtho, “Dos, a gwna dithau yr un modd.”
Ymweld â Martha a Mair
38Pan oeddent ar daith, aeth Iesu i mewn i bentref, a chroesawyd ef i'w chartref gan wraig o'r enw Martha. 39Yr oedd ganddi hi chwaer a elwid Mair; eisteddodd hi wrth draed yr Arglwydd a gwrando ar ei air. 40Ond yr oedd Martha mewn dryswch oherwydd yr holl waith gweini, a daeth ato a dweud, “Arglwydd, a wyt ti heb hidio dim fod fy chwaer wedi fy ngadael i weini ar fy mhen fy hun? Dywed wrthi, felly, am fy nghynorthwyo.” 41Atebodd yr Arglwydd hi, “Martha, Martha, yr wyt yn pryderu ac yn trafferthu am lawer o bethau, 42ond un peth sy'n angenrheidiol. Y mae Mair wedi dewis y rhan orau, ac nis dygir oddi arni.”
Currently Selected:
Luc 10: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004