YouVersion Logo
Search Icon

Marc 3

3
Y Dyn â'r Llaw Ddiffrwyth
Mth. 12:9–14; Lc. 6:6–11
1Aeth i mewn eto i'r synagog, ac yno yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. 2Ac yr oeddent â'u llygaid arno i weld a fyddai'n iacháu'r dyn ar y Saboth, er mwyn cael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn. 3A dywedodd wrth y dyn â'r llaw ddiffrwyth, “Saf yn y canol.” 4Yna dywedodd wrthynt, “A yw'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth, ynteu gwneud drwg, achub bywyd, ynteu lladd?” Yr oeddent yn fud. 5Yna edrychodd o gwmpas arnynt mewn dicter, yn drist oherwydd eu hystyfnigrwydd, a dywedodd wrth y dyn, “Estyn dy law.” Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn iach. 6Ac fe aeth y Phariseaid allan ar eu hunion a chynllwyn â'r Herodianiaid yn ei erbyn, sut i'w ladd.
Tyrfa ar Lan y Môr
7Aeth Iesu ymaith gyda'i ddisgyblion i lan y môr, ac fe ddilynodd tyrfa fawr o Galilea. 8Ac o Jwdea a Jerwsalem, o Idwmea a'r tu hwnt i'r Iorddonen a chylch Tyrus a Sidon, daeth tyrfa fawr ato, wedi iddynt glywed y fath bethau mawr yr oedd ef yn eu gwneud. 9A dywedodd wrth ei ddisgyblion am gael cwch yn barod iddo rhag i'r dyrfa wasgu arno. 10Oherwydd yr oedd wedi iacháu llawer, ac felly yr oedd yr holl gleifion yn ymwthio ato i gyffwrdd ag ef. 11Pan fyddai'r ysbrydion aflan yn ei weld, byddent yn syrthio o'i flaen ac yn gweiddi, “Ti yw Mab Duw.” 12A byddai yntau yn eu rhybuddio hwy yn bendant i beidio â'i wneud yn hysbys.
Dewis y Deuddeg
Mth. 10:1–4; Lc. 6:12–16
13Aeth i fyny i'r mynydd a galwodd ato y rhai a fynnai ef, ac aethant ato. 14Penododd ddeuddeg#3:14 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir a rhoi'r enw apostolion iddynt. er mwyn iddynt fod gydag ef, ac er mwyn eu hanfon hwy i bregethu 15ac i feddu awdurdod i fwrw allan gythreuliaid. 16Felly y penododd y Deuddeg, ac ar Simon rhoes yr enw Pedr; 17yna Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, a rhoes arnynt hwy yr enw Boanerges, hynny yw, “Meibion y Daran”; 18ac Andreas a Philip a Bartholomeus a Mathew a Thomas, ac Iago fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Selot, 19a Jwdas Iscariot, yr un a'i bradychodd ef.
Iesu a Beelsebwl
Mth. 12:22–32; Lc. 11:14–23; 12:10
20Daeth i'r tŷ; a dyma'r dyrfa'n ymgasglu unwaith eto, nes eu bod yn methu cymryd pryd o fwyd hyd yn oed. 21A phan glywodd ei deulu, aethant allan i'w atal ef, oherwydd dweud yr oeddent, “Y mae wedi colli arno'i hun.” 22A'r ysgrifenyddion hefyd, a oedd wedi dod i lawr o Jerwsalem, yr oeddent hwythau'n dweud, “Y mae Beelsebwl ynddo”, a, “Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae'n bwrw allan gythreuliaid.” 23Galwodd hwy ato ac meddai wrthynt ar ddamhegion: “Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? 24Os bydd teyrnas yn ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni all y deyrnas honno sefyll. 25Ac os bydd tŷ yn ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni all y tŷ hwnnw sefyll. 26Ac os yw Satan wedi codi yn ei erbyn ei hun ac ymrannu, ni all yntau sefyll; y mae ar ben arno. 27Eithr ni all neb fynd i mewn i dŷ'r un cryf ac ysbeilio'i ddodrefn heb yn gyntaf rwymo'r un cryf; wedyn caiff ysbeilio'i dŷ ef. 28Yn wir, rwy'n dweud wrthych, maddeuir popeth i blant y ddaear, eu pechodau a'u cableddau, beth bynnag fyddant; 29ond pwy bynnag a gabla yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant byth; y mae'n euog o bechod tragwyddol.” 30Dywedodd hyn oherwydd iddynt ddweud, “Y mae ysbryd aflan ynddo.”
Mam a Brodyr Iesu
Mth. 12:46–50; Lc. 8:19–21
31A daeth ei fam ef a'i frodyr, a chan sefyll y tu allan anfonasant ato i'w alw. 32Yr oedd tyrfa'n eistedd o'i amgylch, ac meddent wrtho, “Dacw dy fam a'th frodyr a'th chwiorydd#3:32 Yn ôl darlleniad arall gadewir allan a'th chwiorydd. y tu allan yn dy geisio.” 33Atebodd hwy, “Pwy yw fy mam i a'm brodyr?” 34A chan edrych ar y rhai oedd yn eistedd yn gylch o'i gwmpas, dywedodd, “Dyma fy mam a'm brodyr i. 35Pwy bynnag sy'n gwneud ewyllys Duw, y mae hwnnw'n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam.”

Currently Selected:

Marc 3: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Marc 3