YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 1

1
LLYFR 1
1Gwyn ei fyd y sawl
nad yw'n dilyn cyngor y drygionus
nac yn ymdroi hyd ffordd pechaduriaid
nac yn eistedd ar sedd gwatwarwyr,
2ond sy'n cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDD
ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.
3Y mae fel pren
wedi ei blannu wrth ffrydiau dŵr
ac yn rhoi ffrwyth yn ei dymor,
a'i ddeilen heb fod yn gwywo.
Beth bynnag a wna, fe lwydda.
4Nid felly y bydd y drygionus,
ond fel us yn cael ei yrru gan wynt.
5Am hynny, ni saif y drygionus yn y farn
na phechaduriaid yng nghynulleidfa'r cyfiawn.
6Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio ffordd y cyfiawn,
ond y mae ffordd y drygionus yn darfod.

Currently Selected:

Y Salmau 1: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Videos for Y Salmau 1