Y Salmau 111
111
1Molwch yr ARGLWYDD.
Diolchaf i'r ARGLWYDD â'm holl galon
yng nghwmni'r uniawn, yn y gynulleidfa.
2Mawr yw gweithredoedd yr ARGLWYDD,
fe'u harchwilir gan bawb sy'n ymhyfrydu ynddynt.
3Llawn anrhydedd a mawredd yw ei waith,
a saif ei gyfiawnder am byth.
4Gwnaeth inni gofio ei ryfeddodau;
graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD.
5Mae'n rhoi bwyd i'r rhai sy'n ei ofni,
ac yn cofio ei gyfamod am byth.
6Dangosodd i'w bobl rym ei weithredoedd
trwy roi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.
7Y mae gwaith ei ddwylo yn gywir a chyfiawn,
a'i holl orchmynion yn ddibynadwy;
8y maent wedi eu sefydlu hyd byth,
ac wedi eu llunio o wirionedd ac uniondeb.
9Rhoes waredigaeth i'w bobl,
a gorchymyn ei gyfamod dros byth.
Sanctaidd ac ofnadwy yw ei enw.
10Dechrau doethineb yw ofn yr ARGLWYDD;
y mae deall da gan bawb sy'n ufudd.
Y mae ei foliant yn para byth.
Currently Selected:
Y Salmau 111: BCND
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004