YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 121

121
Cân Esgyniad.
1Codaf fy llygaid tua'r mynyddoedd;
o ble y daw cymorth i mi?
2Daw fy nghymorth oddi wrth yr ARGLWYDD,
creawdwr nefoedd a daear.
3Nid yw'n gadael i'th droed lithro,
ac nid yw dy geidwad yn cysgu.
4Nid yw ceidwad Israel
yn cysgu nac yn huno.
5Yr ARGLWYDD yw dy geidwad,
yr ARGLWYDD yw dy gysgod ar dy ddeheulaw;
6ni fydd yr haul yn dy daro yn y dydd,
na'r lleuad yn y nos.
7Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw rhag pob drwg,
bydd yn cadw dy einioes.
8Bydd yr ARGLWYDD yn gwylio dy fynd a'th ddod
yn awr a hyd byth.

Currently Selected:

Y Salmau 121: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Y Salmau 121