YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 125

125
Cân Esgyniad.
1Y mae'r rhai sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD fel Mynydd Seion,
na ellir ei symud, ond sy'n aros hyd byth.
2Fel y mae'r mynyddoedd o amgylch Jerwsalem,
felly y mae'r ARGLWYDD o amgylch ei bobl yn awr a hyd byth.
3Ni chaiff teyrnwialen y drygionus orffwys
ar y tir sy'n rhan i'r rhai cyfiawn,
rhag i'r cyfiawn estyn eu llaw at anghyfiawnder.
4Gwna ddaioni, O ARGLWYDD, i'r rhai da
ac i'r rhai uniawn o galon.
5Ond am y rhai sy'n gwyro i'w ffyrdd troellog,
bydded i'r ARGLWYDD eu dinistrio gyda'r gwneuthurwyr drygioni.
Bydded heddwch ar Israel!

Currently Selected:

Y Salmau 125: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Y Salmau 125