YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 142

142
Mascîl. I Ddafydd, pan oedd yn yr ogof. Gweddi.
1Gwaeddaf yn uchel ar yr ARGLWYDD,
ymbiliaf yn uchel ar yr ARGLWYDD.
2Arllwysaf fy nghwyn o'i flaen,
a mynegaf fy nghyfyngder yn ei bresenoldeb.
3Pan yw fy ysbryd yn pallu,
yr wyt ti'n gwybod fy llwybr.
Ar y llwybr a gerddaf
y maent wedi cuddio magl.
4Edrychaf i'r dde, a gweld
nad oes neb yn gyfaill imi;
nid oes dihangfa imi,
na neb yn malio amdanaf.
5Gwaeddais arnat ti, O ARGLWYDD;
dywedais, “Ti yw fy noddfa,
a'm rhan yn nhir y rhai byw.”
6Gwrando ar fy nghri,
oherwydd fe'm darostyngwyd yn isel;
gwared fi oddi wrth fy erlidwyr,
oherwydd y maent yn gryfach na mi.
7Dwg fi allan o'm caethiwed,
er mwyn imi glodfori dy enw.
Bydd y rhai cyfiawn yn tyrru ataf
pan fyddi di yn dda wrthyf.

Currently Selected:

Y Salmau 142: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Y Salmau 142