YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 37

37
I Ddafydd.
1Na fydd yn ddig wrth y rhai drygionus,
na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg.
2Oherwydd fe wywant yn sydyn fel glaswellt,
a chrino fel glesni gwanwyn.
3Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni,
iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel.
4Ymhyfryda yn yr ARGLWYDD,
a rhydd iti ddeisyfiad dy galon.
5Rho dy ffyrdd i'r ARGLWYDD;
ymddiried ynddo, ac fe weithreda.
6Fe wna i'th gywirdeb ddisgleirio fel goleuni
a'th uniondeb fel haul canol dydd.
7Disgwyl yn dawel am yr ARGLWYDD,
aros yn amyneddgar amdano;
paid â bod yn ddig wrth yr un sy'n llwyddo,
y gŵr sy'n gwneud cynllwynion.
8Paid â digio; rho'r gorau i lid;
paid â bod yn ddig, ni ddaw ond drwg o hynny.
9Oherwydd dinistrir y rhai drwg,
ond bydd y rhai sy'n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir.
10Ymhen ychydig eto, ni fydd y drygionus;
er iti edrych yn ddyfal am ei le, ni fydd ar gael.
11Ond bydd y gostyngedig yn meddiannu'r tir
ac yn mwynhau heddwch llawn.
12Y mae'r drygionus yn cynllwyn yn erbyn y cyfiawn,
ac yn ysgyrnygu ei ddannedd arno;
13ond y mae'r Arglwydd yn chwerthin am ei ben,
oherwydd gŵyr fod ei amser yn dyfod.
14Y mae'r drygionus yn chwifio cleddyf
ac yn plygu eu bwa,
i ddarostwng y tlawd a'r anghenus,
ac i ladd yr union ei gerddediad;
15ond fe drywana eu cleddyf i'w calon eu hunain,
a thorrir eu bwâu.
16Gwell yw'r ychydig sydd gan y cyfiawn
na chyfoeth mawr y drygionus;
17oherwydd torrir nerth y drygionus,
ond bydd yr ARGLWYDD yn cynnal y cyfiawn.
18Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros ddyddiau'r difeius,
ac fe bery eu hetifeddiaeth am byth.
19Ni ddaw cywilydd arnynt mewn cyfnod drwg,
a bydd ganddynt ddigon mewn dyddiau o newyn.
20Oherwydd fe dderfydd am y drygionus;
bydd gelynion yr ARGLWYDD fel cynnud mewn tân#37:20 Tebygol. Hebraeg, fel y gorau o'r hyrddod.,
pob un ohonynt yn diflannu mewn mwg.#37:20 Felly Sgrôl. TM, diflannant mewn mwg diflannant.
21Y mae'r drygionus yn benthyca heb dalu'n ôl,
ond y cyfiawn yn rhoddwr trugarog.
22Bydd y rhai a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir,
ond fe dorrir ymaith y rhai a felltithiwyd ganddo.
23Yr ARGLWYDD sy'n cyfeirio camau'r difeius#37:23 Hebraeg, gŵr.,
y mae'n ei gynnal ac yn ymhyfrydu yn ei gerddediad;
24er iddo syrthio, nis bwrir i'r llawr,
oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ei gynnal â'i law.
25Bûm ifanc, ac yn awr yr wyf yn hen,
ond ni welais y cyfiawn wedi ei adael,
na'i blant yn cardota am fara;
26y mae bob amser yn drugarog ac yn rhoi benthyg,
a'i blant yn fendith.
27Tro oddi wrth ddrwg a gwna dda,
a chei gartref diogel am byth,
28oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn caru barn,
ac nid yw'n gadael ei ffyddloniaid;
ond difethir#37:28 Felly Groeg a Syrieg. Hebraeg, cedwir, a heb yr anghyfiawn. yr anghyfiawn am byth,
a thorrir ymaith blant y drygionus.
29Y mae'r cyfiawn yn etifeddu'r tir,
ac yn cartrefu ynddo am byth.
30Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb,
a'i dafod yn mynegi barn;
31y mae cyfraith ei Dduw yn ei galon,
ac nid yw ei gamau'n methu.
32Y mae'r drygionus yn gwylio'r cyfiawn
ac yn ceisio cyfle i'w ladd;
33ond nid yw'r ARGLWYDD yn ei adael yn ei law,
nac yn caniatáu ei gondemnio pan fernir ef.
34Disgwyl wrth yr ARGLWYDD a glŷn wrth ei ffordd,
ac fe'th ddyrchafa i etifeddu'r tir,
a chei weld y drygionus yn cael eu torri ymaith.
35Gwelais y drygionus yn ddidostur,
yn taflu fel blaguryn iraidd;
36ond pan euthum#37:36 Felly'r Fersiynau. Hebraeg, aeth. heibio, nid oedd dim ohono;
er imi chwilio amdano, nid oedd i'w gael.
37Sylwa ar y difeius, ac edrych ar yr uniawn;
oherwydd y mae disgynyddion gan yr heddychlon.
38Difethir y gwrthryfelwyr i gyd,
a dinistrir disgynyddion y drygionus.
39Ond daw gwaredigaeth y cyfiawn oddi wrth yr ARGLWYDD;
ef yw eu hamddiffyn yn amser adfyd.
40Bydd yr ARGLWYDD yn eu cynorthwyo ac yn eu harbed;
bydd yn eu harbed rhag y drygionus ac yn eu hachub,
am iddynt lochesu ynddo.

Currently Selected:

Y Salmau 37: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Y Salmau 37