YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 58

58
I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. I Ddafydd. Michtam.
1Chwi gedyrn#58:1 Neu, Chwi dduwiau., a ydych mewn difri'n dedfrydu'n gyfiawn?
A ydych yn barnu pobl yn deg?
2Na! Yr ydych â'ch calonnau'n dyfeisio drygioni,
ac â'ch dwylo'n gwasgaru trais dros y ddaear.
3Y mae'r drygionus yn wrthryfelgar o'r groth,
a'r rhai sy'n llefaru celwydd yn cyfeiliorni o'r bru.
4Y mae eu gwenwyn fel gwenwyn sarff,
fel asb fyddar sy'n cau ei chlustiau,
5a heb wrando ar sain y swynwr
sy'n taenu ei hudoliaeth ryfedd.
6O Dduw, dryllia'r dannedd yn eu genau,
diwreiddia gilddannedd y llewod, O ARGLWYDD.
7Bydded iddynt ddiflannu fel dŵr a mynd ymaith,
a chrino fel gwellt a sethrir;#58:7 Tebygol. Hebraeg yn aneglur.
8byddant fel erthyl sy'n diflannu,
ac fel marw-anedig na wêl olau dydd.
9Cyn iddynt wybod bydd yn eu diwreiddio#58:9 Tebygol. Hebraeg yn aneglur.;
yn ei ddig bydd yn eu sgubo ymaith fel chwyn.
10Bydd y cyfiawn yn llawenhau am iddo weld dialedd,
ac yn golchi ei draed yng ngwaed y drygionus.
11A dywed pobl, “Yn ddios y mae gwobr i'r cyfiawn;
oes, y mae Duw sy'n gwneud barn ar y ddaear.”

Currently Selected:

Y Salmau 58: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in