YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 63

63
Salm. I Ddafydd, pan oedd yn anialwch Jwda.
1O Dduw, ti yw fy Nuw, fe'th geisiaf di;
y mae fy enaid yn sychedu amdanat,
a'm cnawd yn dihoeni o'th eisiau,
fel tir sych a diffaith heb ddŵr.
2Fel hyn y syllais arnat yn y cysegr,
a gweld dy rym a'th ogoniant.
3Y mae dy ffyddlondeb yn well na bywyd;
am hynny bydd fy ngwefusau'n dy foliannu.
4Fel hyn y byddaf yn dy fendithio trwy fy oes,
ac yn codi fy nwylo mewn gweddi yn dy enw.
5Caf fy nigoni, fel pe ar fêr a braster,
a moliannaf di â gwefusau llawen.
6Pan gofiaf di ar fy ngwely,
a myfyrio amdanat yng ngwyliadwriaethau'r nos—
7fel y buost yn gymorth imi,
ac fel yr arhosais#63:7 Tebygol. Hebraeg, y gorfoleddais. yng nghysgod dy adenydd—
8bydd fy enaid yn glynu wrthyt;
a bydd dy ddeheulaw yn fy nghynnal.
9Ond am y rhai sy'n ceisio difetha fy mywyd,
byddant hwy'n suddo i ddyfnderau'r ddaear;
10fe'u tynghedir i fin y cleddyf,
a byddant yn ysglyfaeth i lwynogod.
11Ond bydd y brenin yn llawenhau yn Nuw,
a bydd pawb sy'n tyngu iddo ef yn gorfoleddu,
oherwydd caeir safnau'r rhai celwyddog.

Currently Selected:

Y Salmau 63: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Videos for Y Salmau 63