YouVersion Logo
Search Icon

Psalmau 6

6
Y Chweched Psalm. Vn or oferfesvrav englyn kildwrn y gelwir.
1ARglwydh kyfa […]wydh kof orig chwerw wedh:
Na cherydha ’n ffyrnig
fi ’n dy dhig.
Na chospa tystia tostedh fi ath law,
Ith lid ath grevlonedh
[…] gamwedh.
2Trvgaredh fowredh ydoedh fael evrglod,
gad Arglwydh i gaffael
wyf wan wael.
Dw brysia iacha fi yn chwyrn om penyd,
Y mae poenav kedyrn
im esgyrn.
3Am henaid gannaid a gwynir o hawl
pa hyd ei trallodir?
a fydh hir?
4Gwared rhaid fenaid fwynwedh Dvw keidwad
fro kadw fi oth fowredh
Drugaredh.
5Kann nad oes gyfoes ath gofiant ir bedh,
na meirw byth a ganant
dy foliant.
6Im gridhfan blaenwann rwy ’n blino gwelwch,
y gwely sy ’n nofio
gann wylo:
A mynych dhvgrych dhagrav g wael iechyd,
y nos gwlychaf innav
y tylau.
7Pylais a llidiais llwydion fy llygaid,
llwygant drwy achosion
gelynion.
8Kiliwch mogelwch mae gwiliaid weithian,
Y maith weithwyr diriaid
En wiriaid.
Kans fy rhwydh arglwydh evrglain wir vndvw
a wrendy fy llefain
wylofain.
9Yr arglwydh yn rhwydh ion rhad wir vndw
a wrendy namvniad
Drwy gariad.
Yr arglwydh ion rhwydh an rhi dhiweirbarch,
a dherbyn fyngwedhi
Dvw geli.
10Im gelynion llonn llawenydh ni chair,
ond chwerw drallod bevnydh
kywilydh.
Trosant o lynol o anian galed,
Trwy gywilydh twrstan
Yn fvan.

Currently Selected:

Psalmau 6: SC1595

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Videos for Psalmau 6