YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 1

1
Llinach Iesu Grist
1Llyfr cenhedliad Iesu Grist, fab Dafydd, fab Abraham:
2Abraham a genhedlodd Isaac,
ac Isaac a genhedlodd Jacob,
a Jacob a genhedlodd Jwda a’i frodyr.
3A Jwda a genhedlodd Phares a Sara o Thamar,
a Phares a genhedlodd Esrom,
ac Esrom a genhedlodd Aram.
4Ac Aram a genhedlodd Aminadab,
ac Aminadab a genhedlodd Naason,
a Naason a genhedlodd Salmon.
5A Salmon a genhedlodd Boas o Rahab,
a Boas a genhedlodd Obed o Ruth,
ac Obed a genhedlodd Jesse.
6A Jesse a genhedlodd Dafydd frenin.
A Dafydd frenin a genhedlodd Solomon o’r hon a fuasai wraig Ureias.
7A Solomon a genhedlodd Rehoboam,
a Rehoboam a genhedlodd Abeia,
ac Abeia a genhedlodd Asa.
8Ac Asa a genhedlodd Jehosaffat,
a Jehosaffat a genhedlodd Joram,
a Joram a genhedlodd Usseia.
9Ac Usseia a genhedlodd Jotham,
a Jotham a genhedlodd Ahas,
ac Ahas a genhedlodd Heseceia.
10A Heseceia a genhedlodd Manasse,
a Manasse a genhedlodd Amon,
ac Amon a genhedlodd Joseia.
11A Joseia a genhedlodd Jechoneia a’i frodyr, ynghylch amser y symudiad i Fabilon.
12Ac wedi’r symudiad i Fabilon:
Jechoneia a genhedlodd Salathiel,
a Salathiel a genhedlodd Sorobabel.
13A Sorobabel a genhedlodd Abiwd,
ac Abiwd a genhedlodd Eliacim,
ac Eliacim a genhedlodd Asor.
14Ac Asor a genhedlodd Sadoc,
a Sadoc a genhedlodd Achim,
ac Achim a genhedlodd Eliwd.
15Ac Eliwd a genhedlodd Eleasar,
ac Eleasar a genhedlodd Mathan,
a Mathan a genhedlodd Jacob.
16A Jacob a genhedlodd Joseff, gŵr Mair, o’r hon y ganed Iesu, yr hwn a elwir Crist.
17Felly yr holl genedlaethau o Abraham hyd Dafydd sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg, ac o Dafydd hyd y symudiad i Fabilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg, ac o’r symudiad i Fabilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg.
Geni’r Iesu
18A genedigaeth Iesu Grist oedd fel hyn. Wedi dyweddïo Mair ei fam ef â Joseff, cyn eu dyfod hwy ynghyd, hi a gafwyd yn feichiog o’r Ysbryd Glân. 19A Joseff ei gŵr hi, gan ei fod yn gyfiawn, a heb chwennych ei gwneuthur hi yn destun cywilydd, a ewyllysiodd ei rhoi hi ymaith yn ddirgel.
20Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, ‘Joseff mab Dafydd, nac ofna gymryd Mair dy wraig, oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi sydd o’r Ysbryd Glân. 21A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef Iesu, oblegid efe a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau.’ 22(A hyn oll a wnaethpwyd fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd, gan ddywedyd: 23‘Wele, y forwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, a hwy a alwant ei enw ef Emmanuel’, yr hyn o’i gyfieithu yw, ‘Duw gyda ni’.)#Eseia 7:14
24A Joseff, pan ddeffroes o gwsg, a wnaeth megis y gorchmynasai angel yr Arglwydd iddo, ac a gymerodd ei wraig. 25Ond nid adnabu efe hi hyd onid esgorodd hi ar ei mab cyntaf‐anedig. A galwodd ei enw ef Iesu.

Currently Selected:

Mathew 1: BWMTND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in